Dafydd Llywelyn Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

“Rwy’n falch o gyhoeddi fy adolygiad o Gyswllt Cyntaf y Cyhoedd â Heddlu Dyfed-Powys, sef y trydydd adolygiad o’r raddfa hon a gynhaliwyd gan fy swyddfa. Roedd yr adolygiad yn cynnwys ymgynghori â’r cyhoedd, ac rwy’n falch fod dros 800 o bobl wedi ymateb i’r ymgynghoriad, sy’n dangos faint o ddiddordeb sydd yn y pwnc.

Roeddwn i eisiau darganfod sut a pham rydych chi'n cysylltu â'r Heddlu, ac wrth gysylltu â'r Heddlu, pa un ai a oeddech chi'n teimlo ei fod yn hawdd cael mynediad at y gwasanaeth. Diolch i bawb a gymerodd yr amser i gwblhau'r arolwg.

Un o'r blaenoriaethau a nodais yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu yw sicrhau eich bod chi'n derbyn gwasanaeth hygyrch ac ymatebol gan eich gwasanaeth heddlu. Gan hynny, yn hollbwysig, rwyf eisiau gweld pa un ai a oes angen unrhyw welliannau.

Mae canfyddiadau'r adolygiad hwn yn dangos i ni na all Heddlu Dyfed-Powys gynnal y sefyllfa bresennol mewn perthynas â rheoli cyswllt â'r cyhoedd. Er y bydd newidiadau digidol newydd yn y dyfodol i ddiwylliant cyswllt cyntaf y cyhoedd, a fydd yn cyflwyno manteision, rwy’n sicr na all Heddlu Dyfed-Powys ddiystyru’r canran uchel o'i breswylwyr sydd ddim yn barod i ddibynnu’n llwyr ar gyswllt digidol. Credaf fod angen archwilio'n llawn i ymagwedd fwy personol tuag at gyswllt a darparu'n briodol ar gyfer hyn.

Rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr fod angen ymdrin â phwysau aruthrol galwadau cynyddol i Ganolfan Gyfathrebu'r Heddlu ar frys, ac rwy'n falch bod gwaith sylweddol yn cael ei drefnu er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn.

Rwyf wedi ymrwymo i fonitro cynnydd y Prif Gwnstabl yn erbyn yr argymhellion a nodir o fewn yr adroddiad drwy adolygiadau chwarterol o gynnydd, gyda'r nod o roi mwy o dawelwch meddwl i'r cyhoedd. Rwy'n fodlon o'n trafodaethau cychwynnol y bydd fy argymhellion yn cael eu gweithredu."

Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys