Mae’n dda iawn gennyf gyflwyno’r adolygiad craffu dwys diweddaraf a gyflawnwyd gan fy swyddfa, sy’n edrych ar nifer y dioddefwyr sy’n tynnu’n ôl yn Nyfed-Powys, a’r ffactorau sy’n effeithio ar hyn. Rwyf wedi fy nghalonogi gan ymateb yr Heddlu i’m swyddfa’n ymgymryd â’r gwaith hwn ac yn diolch i bawb sydd wedi cyfrannu’n onest a thrylwyr i’r adolygiad.

Roedd yr adolygiad yn deillio o’r cynnydd amlwg yn nifer y dioddefwyr sy’n tynnu eu cefnogaeth yn ôl ar gyfer ymchwiliadau i droseddau rhyw a domestig, ynghyd ag achosion unigol y tynnwyd fy sylw atynt yn ddiweddar.

Canfu’r adolygiad bod dioddefwyr yn amlwg yn flaenoriaeth ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, ac mae rhai enghreifftiau da o swyddogion yn rhoi amser sylweddol i ymchwilio i ddigwyddiadau a’r empathi a ddangosir tuag at ddioddefwyr. Fodd bynnag, mae’r adolygiad yn argymell nifer o feysydd lle y gellid gwneud gwelliannau er mwyn sicrhau y cyflwynir y gwasanaeth gorau posibl i ddioddefwyr.

Roedd dros 80% o ddioddefwyr a dynnodd eu cefnogaeth yn ôl ar gyfer ymchwiliad dal yn dweud eu bod yn fodlon â’r profiad cyfan, ond mae’n hollbwysig bod y dioddefwyr hyn yn medru cael mynediad at y gefnogaeth briodol i’w helpu i ymdopi a dod dros effaith y drosedd. Canfu’r adolygiad ddyblygu sylweddol o ran cyswllt â dioddefwyr a diffyg ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael. Mae dioddefwyr wrth galon pob dim a wnawn ac mae’n hollbwysig bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’n bod ni’n darparu gwasanaeth sydd wedi’i deilwra i’w hanghenion.

Mae un o’r bylchau mwyaf arwyddocaol yn ymwneud ag iechyd meddwl. Dangoswyd fod hyn yn ffactor o bwys ar gyfer bron pob dioddefydd a dynnodd yn ôl o’r ymchwiliad. Mae nifer o wasanaethau’n bodoli ar gyfer cefnogi unigolion yn y maes hwn; mae angen i’r Heddlu sicrhau bod swyddogion a gwasanaethau cymorth yn cyfeirio dioddefwyr i’r cymorth priodol er mwyn sicrhau nad yw materion iechyd meddwl yn effeithio’n negyddol ar gynnydd eu taith cyfiawnder troseddol.

Bydd fy swyddfa’n parhau i hyrwyddo nifer o ffyrdd y gall dioddefwyr rannu eu profiad a rhoi adborth ar gyfer gwella gwasanaethau. Byddwn yn annog unrhyw un sydd wedi profi’n gwasanaethau i ddefnyddio’r cyfleoedd hyn i’n helpu i lunio darpariaeth yn y dyfodol. Diolch.