Llais Pobl Ifanc

Er mwyn sicrhau fod gan bobl ifanc lais ar faterion pllsimona a throsedd, sefydlodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Fforwm Ieuenctid gyda Llysenhadon Ieuenctid ym mis Rhagfyr 2018.

Ein nod gyda’r cynllun Llysgenhadon Ieuenctid yw sicrhau fod cynifer o bobl ifanc â phosibl yn cael cyfle i lunio dyfodol plismona ac atal troseddu yn eu hardal.

Beth yw'r Cynllun Llysgenhadon Ieuenctid?

Mae ein Llysgenhadon Ieuenctid yn:

  • Darparu cyfleoedd i bobl ifanc gael dweud eu dweud ar faterion yn ymwneud a phlismona a throseddu o fewn eu cymunedau;
  • Galluogi pobl ifanc i ddylanwadu a herio penderfyniadau;
  • Yn ein helpu i ddeall profiadau pobl ifanc o droseddu a phlismona fel y gallwn sicrhau ein bod yn diogelu plant a phobl ifanc yn llwyddiannus ac yn hyrwyddo eu lles.

Bydd Llysgenhadon Ieuenctid yn:

  • Helpu ni i nodi beth yw blaenoriaethau pobl ifanc;
  • Creu ymgyrchoedd cyffrous a fydd yn codi ymwybyddiaeth o flaenoriaethau pobl ifanc;
  • Ymgynghori â phobl ifanc ar faterion plismona a throsedd yn lleol a rhoi adborth i'r Fforwm Ieuenctid;
  • Cefnogi’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd gyda’i waith craffu drwy fynychu rhai cyfarfodydd i herio penderfyniadau, darparu argymhellion, a dylanwadu ar newid er budd pobl ifanc yn ein hardal.

Beth sydd ynddo i bobl ifanc?

  • Credydau amser tempo time, y gellir eu cyfnewid am wasanaeth neu weithgaredd lleol;
  • Cwrdd â ffrindiau newydd o bob rhan o Ganolbarth a Gorllewin Cymru;
  • Cyfle i ddatblygu sgiliau newydd;
  • Dylanwadu ar newidiadau cadarnhaol;
  • Treuliau a dalwyd a lluniaeth yng Nghyfarfodydd y Fforwm Ieuenctid;
  • Profiad gwych i gyfeirio ato ar CV

Sut i ymgeisio?

Rydym yn recriwtio ar gyfer Llysgnehadon Ieuenctid ar hyn o bryd.  

Os ydych chi'n byw yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Powys, rhwng 14 a 25 oed, a bod hyn yn swnio fel rhywbeth yr hoffech chi fod yn rhan ohono, yna gwnewch gais nawr, trwy;

  • Anfon e-bost atom i OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk, a byddwn yn anfon ffurflen gais atoch, neu;
  • Lawrlwythwch y ffurflen gais drwy'r ddolen ar ochr dde'r dudalen hon
  • Dyddiad Cau: 15fed o Medi