Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn craffu ar fy ngwaith, yn ei herio ac yn ei gefnogi. Mae gan y Panel 14 Aelod – cynghorwyr sir ac aelodau o’r cyhoedd. Ceir newyddion o’u cyfarfod diwethaf yma.

Caiff y panel dderbyn neu atal fy mhenderfyniadau ar faterion megis y praesept Treth Gyngor a phenodi’r Prif Gwnstabl.

Mae’n annibynnol ac yn wleidyddol gytbwys ac nid yw’n craffu ar yr heddlu – dyna fy rôl i.

Er mwyn mynegi eich barn wrth y panel, medrwch anfon e-bost, llenwi’r ffuflen ar-lein, galw 01267 224055 neu ysgrifennu at:

c/o Robert Edgecombe
Gwasanaethau Cyfreithiol Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 1JP
01267 224018

rjedgeco@carmarthenshire.gov.uk

Nod Adroddiad ac Arolwg Cyhoeddus Blynyddol y Panel yw annog mwy o ymwybyddiaeth ymysg aelodau'r cyhoedd o waith Panel a'u hannog i ymwneud â'r gwaith er mwyn sicrhau bod ymdrechion yn canolbwyntio ar y materion sydd o wirioneddol bwys i'r cyhoedd.

Cofiwch gysylltu â ni gyda'ch sylwadau ac awgrymiadau.

https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=153329236969

 I weld Adroddiad Blynyddol y Panel cliciwch yma