Mae adborth yn bwysig i ni, adborth positif ac adborth negyddol, gan ei fod yn ein helpu i adnabod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda, ond yn yr un modd mae yn ein helpu i adnabod y meysydd lle mae angen i ni wella.  

Mae pryderon yn ein helpu i ddeall y materion sydd yn bwysig i chi. Gobeithiwn nad oes achos i chi gwyno. Beth bynnag, os oes angen i chi gwyno, dymunwn ei ddatrys i chi mor fuan ag sydd yn bosib.

 

Beth yw eich pryder am?

Ystyrir cwynion mewn perthynas â Swyddogion/Staff yr Heddlu o dan reng Prif Gwnstabl gan Heddlu Dyfed-Powys.

Un o brif gyfrifoldebau statudol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yw delio â chwynion ffurfiol a dderbyniwyd yn erbyn y Prif Gwnstabl (blaenorol neu gyfredol). Mae'n rhaid i'r Comisiynydd gofnodi'r gŵyn a rhoi ymateb rhesymol a chymesur.

Os ydych am gwyno yn erbyn y Prif Gwnstabl cewch wneud yn un o’r ffyrdd canlynol:

Noder: Er mwyn gwneud cwyn yn erbyn y Prif Gwnstabl, rhaid eich bod chi’n gymwys i fod yn achwynydd. Diffinnir hyn gan y ddeddfwriaeth fel rhywun sydd wedi gweld y digwyddiad â’i lygaid ei hun, neu sydd wedi’i effeithio’n uniongyrchol ganddo. Gall pobl eraill gwyno ar eu rhan, ond dim ond gyda’u caniatâd ysgrifenedig. Gan hynny, os nad ydych wedi’ch effeithio’n uniongyrchol, neu os nad oeddech chi’n bresennol adeg y digwyddiad y mae gennych bryderon amdano, ni chewch ddefnyddio system gwyno’r heddlu i leisio’ch pryderon. Gallwch dal fynegi’ch pryderon wrth SCHTh neu’r gwasanaeth heddlu fel rhan o adborth cyffredinol. Ceir rhagor o wybodaeth am gymhwysedd yng Nghanllawiau Statudol Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu:

https://www.policeconduct.gov.uk/sites/default/files/Documents/statutoryguidance/CY_2020_statutory_guidance_welsh.pdfhttps://policeconduct.gov.uk/sites/default/files/Documents/statutoryguidance/2020_statutory_guidance_english.pdf.

Mae’r broses ychydig yn wahanol wrth gwyno am CHTh. Yn unol â’r darpariaethau sydd o fewn Rheoliadau Cyrff Plismona Lleol Etholedig (Cwynion a Chamymddwyn) 2012, mae’r Panel Heddlu a Throsedd yn delio ag unrhyw gwynion am Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Os ydych am gwyno am Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, cysylltwch â Phanel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys os gwelwch yn dda.

Dylid cyflwyno cwynion am aelodau o staff yn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn uniongyrchol i  Prif Weithredwr SCHTh.   Cewch gyflwyno eich cwyn drwy e-bost i opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk  neu drwy ysgrifennu at SCHTh, Blwch Postio 99, Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PF.  Fel arall cewch ffonio’r swyddfa ar 01267 226440.

 Delir â’r rhain yn unol â’n polisi.

Adolygiad Achos YGG

(Adran 104, Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014)

Adolygiad Achos YGG

Os nad yw’r dioddefydd/dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fodlon â’r ymateb maen nhw wedi derbyn gan Grŵp Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Dyfed-Powys, gellir dwysau Adolygiad Achos YGG i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh) pan mae un o’r mesurau canlynol wedi’i fodloni:

 

Mesurau:

  1. Mae’r penderfyniad a ddarparwyd sy’n amlinellu pam nad oedd yr achos yn bodloni’r trothwy ar gyfer Adolygiad Achos YGG wedi methu â rhoi digon o fanylion i ddeall pam na fu adolygiad;
  2. Mae’r adolygiad Adolygiad Achos YGG l wedi methu ag ystyried polisi, protocol neu broses apêl berthnasol;
  3. Mae’r Adolygiad Achos YGG wedi methu ystyried gwybodaeth ffeithiol berthnasol.Noder: Yn ystod adolygiad achos, gall y defnydd o arf gorfodi penodol fod wedi’i ystyried. Wrth ystyried y ffeithiau a phrotocolau perthnasol, mae’n bosibl y penderfynwyd na fyddai’n briodol defnyddio’r arf gorfodi hwnnw. Os oes arf gorfodi wedi’i ystyried ac mae’r canlyniad wedi’i esbonio wrth y dioddefydd ymddygiad gwrthgymdeithasol, yna ni ellir dwysau adolygiad Adolygiad Achos YGG  i SCHTh am fod y dioddefydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn anfodlon â chanlyniad y penderfyniad mewn perthynas â’r arf gorfodi.Rôl SCHTh fydd ystyried proses ddyledus a sicrhau bod Grŵp Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Dyfed-Powys wedi ymgymryd ag adolygiad yn briodol ac effeithiol. Wrth ystyried dwysau Adolygiad Achos YGG, gall SCHTh naill ai: Canlyniad: 
  1. Cynnal yr apêl a chyfeirio’r achos yn ôl at Grŵp Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Dyfed-Powys a gofyn iddynt ystyried proses, polisi neu brotocol penodol nad oedd wedi ei ystyried o’r blaen;
  2. Cynnal yr apêl, gan amlinellu’r wybodaeth ffeithiol berthnasol sydd heb ei hystyried gan Grŵp Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Dyfed-Powys wrth ddod i’w benderfyniad;
  3. Peidio â chynnal yr apêl h.y. Penderfynu bod Grŵp Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Dyfed-Powys wedi adolygu’r achos drwy ystyried yr holl wybodaeth ffeithiol, polisïau, prosesau a phrotocolau perthnasol yn unol â’r Weithdrefn Adolygiad Achos YGG ac wedi dod i benderfyniad gwybodus. Yn y bôn, adolygiad pen desg fydd y broses apêl, ac ni fydd yn cynnwys gwrandawiadau neu gyfarfodydd gyda’r dioddefydd/dioddefwyr. Os yw’r dioddefydd eisiau galw ar y broses apêl, dylid cyflwyno’r cais hwn yn uniongyrchol i SCHTh o fewn 28 diwrnod ar ôl derbyn canlyniad Adolygiad Achos YGG gan Grŵp Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Dyfed-Powys. Mae angen cyflwyno’r holl waith papur perthnasol ynghyd â’r sail dros yr apêl (h.y. pam nad yw mesurau 1, 2 neu 3 wedi’u bodloni). Bydd swyddfa’r Comisiynydd yn ymgymryd â’r apêl ac yn rhoi gwybod i’r dioddefydd/dioddefwyr am y canlyniad (naill ai 1, 2 neu 3 uchod) cyn gynted â phosibl, a, beth bynnag, o fewn 30 diwrnod gwaith.

Noder: Mae penderfyniad SCHTh yn derfynol, ac ni ellir apelio yn ei erbyn.

 

Noder

 

Nid yw rôl SCHTh mewn perthynas â ‘Chais am Adolygiad’ o gŵyn yn dilyn y canlyniad a roddwyd gan yr Adran Safonau Proffesiynol yn cynnwys ailymchwilio i’ch cwyn, fodd bynnag, mae’n cynnwys ystyried y canlynol yn ddiduedd:

1. Pa un ai a oedd eich cais am adolygiad yn ddilys

2. Pa un ai a oedd canlyniad eich cwyn yn rhesymol a chymesur

3. Unrhyw argymhellion y dylid eu gwneud i’r Heddlu o ganlyniad i drin eich cwyn a/neu’r canlyniad

 

Ffurflen Adolygiad SCHTh

 

Defnyddio’r ffurflen hon Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych yn anhapus ynghylch canlyniad eich cwyn.

 

Dim ond achwynydd, neu rywun sy’n gweithredu ar ei ran, all wneud cais am adolygiad mewn perthynas â chwyn. Rhaid eich bod wedi derbyn hysbysiad ysgrifenedig o ganlyniad eich cwyn cyn gwneud cais am adolygiad.

Rhaid i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh) dderbyn eich cais am adolygiad o fewn 28 diwrnod ar ôl y dyddiad a nodir ar eich llythyr canlyniad gan Heddlu Dyfed-Powys. Er enghraifft, os taw 1 Ebrill yw’r dyddiad sydd ar eich llythyr, mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr ein bod ni’n derbyn eich cais am adolygiad erbyn 29 Ebrill. 

Hygyrchedd

Os yw’n anodd i chi ddefnyddio’r ffurflen hon neu’r gwasanaeth hwn, er enghraifft, os nad Cymraeg yw’ch iaith gyntaf neu mae gennych anabledd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarperir isod:

Ffôn:                01267 226440

E-bost:            opcc@dyfed-powys.police.uk

Os oes angen unrhyw addasiadau arnoch i’ch cefnogi drwy’r system adolygiad, amlinellwch y rhain isod os gwelwch chi’n dda. Er enghraifft, os oes gennych nam golwg, efallai y byddwch angen ymatebion ysgrifenedig mewn testun mwy o faint.

Beth sy’n digwydd i’r wybodaeth yn fy ffurflen adolygiad? Bydd y wybodaeth a ddarparwch ar y ffurflen hon yn cael ei hychwanegu i’n systemau. Hefyd, mae’n bosibl y bydd angen i ni roi manylion eich adolygiad i Heddlu Dyfed-Powys a/neu Adolygydd Annibynnol a fydd yn ystyried eich adolygiad ac yn gwneud argymhellion i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Noder: Gall holl gynnwys y ffurflen hon (gan gynnwys eich gwybodaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth) gael ei gyflwyno i Heddlu Dyfed-Powys a’r Adolygydd Annibynnol.

Os oes gennych unrhyw bryderon am eich gwybodaeth yn cael ei rhoi i’r heddlu, neu os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch am y ffordd y bydd eich data’n cael ei drin, galwch ni ar 01267 226440.

Am wybodaeth ynglŷn â’r ffordd yr ydym yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar: http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/cysylltwch-a-ni/mynediad-i-wybodaeth-rydyn-ni-n-dal/.

Ble i anfon y ffurflen adolygiad hon

Anfonwch eich ffurflen orffenedig at Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh). Gweler y manylion cyswllt isod: 

E-bost:            opcc@dyfed-powys.police.uk

Cyfeiriad:        Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Blwch Post 99, Llangynnwr, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 2PF

Ffurflen Adolygiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

Yr ydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o safon uchel i’n holl gwsmeriaid mewn ffordd deg a chyfartal.

Pa un ai a ydych chi’n anfodlon â’r gwasanaeth yr ydych wedi’i dderbyn neu wedi derbyn gwasanaeth ardderchog, hoffem wybod amdano.

Dylid cyfeirio cwynion ynglŷn â’n gwasanaeth Cymraeg at Bennaeth Staff SCHTh drwy anfon e-bost at opcc@dyfed-powys.police.uk neu drwy anfon llythyr at SCHTh, Blwch Post 99, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PF. Fel arall, cewch alw’r swyddfa ar 01267 226440. Bydd y rhain yn cael eu trin yn unol â’n polisi. 

Os ydych yn unhapus efo'r ymateb a gawsoch, gallwch gyflwyno cwyn bellach i Gomisiynydd y Gymraeg. Mae fwy o wybodaeth ar gael ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.

Mae rhagor o gwybodaeth ar Rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
Cwynion a Thrin Cwynion yma