Fel eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu, rydw i eisiau deall y materion sy’n effeithio arnoch chi fel bod fy mhenderfyniadau’n cael eu hysbysu gan adborth cymunedol. Rydw i eisiau i chi gael hyder a ffydd yn yr heddlu, a byddaf yn cynnal nifer o weithgareddau i hwyluso cyfathrebu agored â’r cyhoedd, partneriaid a rhanddeiliaid. Rydw i eisiau i chi ymgysylltu â mi fel ein bod ni’n mynd i’r afael â phroblemau ac yn eu datrys gyda’n gilydd.

 

Os hoffech fy ngwahodd i gyfarfod cyhoeddus, cysylltwch â’m swyddfa pa bynnag ffordd sydd orau i chi, neu llenwch y ffurflen hon.

Y Cyd-bwyllgor Archwilio

I gymryd rhan drwy gyfrwng y Gymraeg, gofynnir i Aelodau o’r Cyhoedd roi o leiaf 7 diwrnod o rybudd er mwyn sicrhau darpariaeth o’r math. Os daw hysbysiad hwyr, gwnawn ein gorau i ddarparu’r gwasanaeth hwn ond nid oes sicrwydd y bydd ar gael.

Ar hyn o bryd nid oes gennym unrhyw ddigwyddiadau sydd i ddod.

Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu

I gymryd rhan drwy gyfrwng y Gymraeg, gofynnir i Aelodau o’r Cyhoedd roi o leiaf 7 diwrnod o rybudd er mwyn sicrhau darpariaeth o’r math. Os daw hysbysiad hwyr, gwnawn ein gorau i ddarparu’r gwasanaeth hwn ond nid oes sicrwydd y bydd ar gael. Os ydych eisiau defnyddio offer cyfiethu ar y pryd bydd angen i chi roi gwybod i ni ar 01267 226 440

Cliciwch yma i weld cyfarfodydd a chofnodion blaenorol