Dewch i gwrdd â mi mewn digwyddiad cyhoeddus. Rwyf eisiau clywed eich barn am blismona a throsedd lleol.
Cynhadledd Flynyddol Gwyl Dewi y Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Dydd Gwener, 1af o Fawrth 2024
Eleni, mae wythfed Cynhadledd Flynyddol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn yn canolbwyntio ar adnabod bregusrwydd o fewn troseddwyr. Mae cydnabod bod troseddwyr yn fregus, ac yn agored i niwed yn hanfodol ar gyfer datblygu ymagwedd fwy cynnil ac effeithiol at gyfiawnder troseddol.
Bydd y Gynhadledd hon, yn rhoi cipolwg ar sut mae amrywiaeth o sefydliadau a darparwyr gwasanaethau cymorth yn gweithio i ddeall pa mor fregus yw troseddwyr; sut maent yn adnabod sefyllfaoedd lle gallai troseddwyr fod mewn perygl o gael eu herlid o fewn y system cyfiawnder troseddol; a sut maent yn darparu cefnogaeth i roi mesurau diogelu priodol ar waith i amddiffyn unigolion bregus rhag niwed.
Yn ei Gynllun Heddlu a Throseddu ar gyfer Dyfed-Powys, mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn yn nodi pwysigrwydd cynorthwyo y rheini sydd mewn perygl o droseddi/ail droseddi oherwydd bregusrwydd.
Bydd y Gynhadledd yn taflu goleuni ar yr heriau pwysig a wynebwn, a chyfleoedd sydd ar gael drwy adnabod bregusrwydd o fewn troseddwyr.
I gofrestru i fynychu, cliciwch ar y ddolen yma.