Cafodd rolau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu eu creu gan Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, a chynhaliwyd yr etholiadau cyntaf yn 2012. Cynhaliwyd yr ail etholiad ym mis Mai 2016.
Cynhelir etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu mewn 40 ardal heddlu sy'n cwmpasu Cymru a Lloegr. Mae gan bob ardal blismona ei Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ei hun.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cwmpasu ardal blismona'r pedwar awdurdod lleol canlynol:
- Sir Gaerfyrddin
- Powys
- Ceredigion
- Sir Benfro
Cynhelir diwrnod ymgyfarwyddo ar gyfer pob ymgeisydd ym Mhencadlys yr Heddlu Rhoddir mwy o wybodaeth maes o law.
Am fwy o wybodaeth am bwy all bleidleisio, neu i gofrestru i bleidleisio ewch i Wefan y Comisiwn Etholiadol.
Os ydych chi'n ystyried dod yn ymgeisydd ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys ac mae angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu os oes gennych ragor o gwestiynau am yr etholiadau hyn neu am Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, cysylltwch â ni ar:- opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk.
Fel arall, febostiwch Carys.Morgans.opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk. Bydd y Pennaeth Staff, Carys Morgans, yn medru’ch cynorthwyo ag unrhyw gwestiynau.
