30 Ebr 2018

Mae Dafydd Llywelyn a grwp o swyddogion gwrol wedi cychwyn ar eu taith heriol, gan feicio 496 milltir i ymweld gyda phob gorsaf heddlu yn ardal y Llu.  Gadawodd y grwp yn gynnar bore ‘ma i gychwyn y sialens a fydd yn cymryd pump diwrnod i’w gyflawni.

 

Yn gwmni iddo heddiw mae’r Prif Archwiliwr Matt Scrase, PC Mark Thomas, Rhingyll Jonny Griffiths, Prif Archwiliwr Mark McSweeney, Archwiliwr Gareth Thomas, Rhingyll Reuben Palin a Rhingyll Richard Fallows.  Mae’r Comisiynydd a phob swyddog wedi cytuno i ddefnyddio eu hamser eu hun i oddef oddeutu 12 awr y diwrnod ar gefn beic, wrth hefyd godi arian tuag at Safer Dyfed-Powys Diogel.

Un o flaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throseddu’r Comisiynydd yw i gadw ein cymunedau yn ddiogel.  I gefnogi hyn, mae’r Comisiynydd wedi addo i hyrwyddo a chefnogi nifer o brosiectau atal troseddu.  Bydd Safer Dyfed-Powys Diogel yn dosbarthu a chynhyrchu arian fydd yn cael ei fuddsoddi yn y gymuned lleol gyda’r bwriad o atal troseddu a lleihau yr ofn o droseddu.  Yn gychwynnol, mi fydd unrhyw grantiau a wobrwyd o fewn blwyddyn cyntaf yr elusen yn ffocysu’n bennaf ar brosiectau ieuenctid lleol.

Meddai Dafydd Llywelyn: “Rydw i’n feiciwr brwd, a rydw i wedi mwynhau paratoi ar gyfer y digwyddiad hwn wrth feicio yn ôl ac ymlaen o’r gwaith.  Roeddwn yn gyffrous i ddechrau bore ‘ma, a roedd yn fonws i weld yr haul yn ein disgwyl.”

“Rydw i’n wir ddiolchgar i’r swyddogion sydd, fel fi, wedi ymroi eu hamser personol i gefnogi’r achos a chymryd rhan.  Mae’n gyfle i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer yr elusen, ac i gefnogi fy addewid i gadw cymunedau yn ddiogel, drwy hyrwyddo a nifer o brosiectau atal troseddu.”

“Mae’r diwrnod cyntaf yn mynd yn ei flaen yn dda, gyda nifer o filltiroedd wedi eu beicio.  Mae’r rhagolwg o feicio oddeutu 12 awr y dydd yn amlwg yn digalonni braidd, ond mae’n mynd yn hwylus, a rydw i’n edrych ymlaen i her gweddill yr wythnos.”

 

Ymweliadau DIWRNOD 1
·         Pencadlys Llangynnwr
·         Hendy Gwyn ar Daf
·         Arberth
·         Llanussyllt
·         Dinbych y Pysgod
·         Doc Penfro
·         Aberdaugleddau Hwlffordd
·         Ty Ddewi
·         Abergwaun

 

Dilynwch y Comisiynydd ar Trydar @DafyddLlywelyn neu @DPOPCC

Os oes unrhywun eisiau cyfrannu, mae tudalen Just Giving wedi ei greu, dilyn y ddolen:

https://www.justgiving.com/campaigns/charity/saferdyfedpowysdiogelach/tourdeforce