17 Rhag 2018
Cais Llwyddiannus am Arian i Gefnogi Dioddefwyr Trais Domestig
Mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a Heddlu Dyfed-Powys wedi llwyddo i dderbyn arian o Grant Prosiect Cyfalaf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Llywodraeth Cymru.
Rhoddwyd £9,064 i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, a fydd yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub i ddarparu ymagwedd amlasiantaeth sy’n canolbwyntio ar y dioddefydd sydd wedi’i hanelu at leihau effeithiau trais domestig ar ddioddefwyr.
Bydd y prosiect yn galluogi dioddefwyr trais domestig i aros yn eu cartrefi eu hun, a bydd yn lleihau’r perygl y byddant yn dioddef trais domestig eto drwy ddarparu pecynnau arbennig ar gyfer pobl sy’n agored i drais domestig.
Bydd y pecynnau hyn yn cynnwys gwahanol offer a mesurau diogelwch a fydd yn cael eu benthyca a’u gosod yn y cartref.
Bydd hyn yn gwella diogelwch eu cartref ac yn rhoi tawelwch meddwl i’r dioddefydd ei bod yn ddiogel iddynt aros yn eu cartref eu hun.
Cyhoeddir y pecynnau yn dilyn adolygiad o’r digwyddiad domestig gan swyddog heddlu.
Ychwanega Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
“Rwy’n falch iawn ein bod ni wedi llwyddo i gael yr arian hollbwysig hwn gyda’n partneriaid. Yn aml, mae’n rhaid i bobl sydd mewn perygl o drais domestig adael eu cartrefi oherwydd y perygl y byddant yn dioddef trais o’r fath eto.
Drwy’r prosiect hwn, bydd modd i ni ddarparu’r mesurau diogelwch sydd angen i’w galluogi i aros yn eu cartrefi a theimlo’n ddiogel yno: ychydig o dawelwch meddwl ar gyfer dioddefwyr y drosedd ddifrifol hon.”