27 Awst 2019

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi canmol Heddlu Dyfed-Powys am welliannau o ran adnabod cam-drin domestig ac ymateb iddo, ond mae ‘mwy i’w wneud o hyd’ yn y maes pwysig hwn, meddai.

Ym mis Ionawr 2018, nodwyd cam-drin domestig fel un o dair blaenoriaeth graidd ar gyfer y 12 mis nesaf gan yr heddlu, ac roeddent yn awyddus i fynd i’r afael â’r pryderon a fynegwyd gan arolygwyr, Arolygiaeth Heddluoedd a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (AHGTAEM), am eu hasesiadau risg cychwynnol o ddigwyddiadau cam-drin domestig.

Roedd y gwaith a ddilynodd yn cynnwys cyflwyno Desg Fregusrwydd benodol yn ystafell reoli’r heddlu, sy’n derbyn galwadau brys a galwadau difrys, er mwyn helpu derbynwyr galwadau a swyddogion ymateb i adnabod cam-drin domestig ac asesu’r risg mor gyflym â phosibl, a sicrhau bod troseddau’n cael eu cofnodi’n gywir. Yn y pen draw, mae’r wybodaeth a roddir gan y Ddesg i staff rheng flaen yn rhoi’r cymorth gorau i ddioddefwyr o’r cyswllt cyntaf un.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn:

“Rwy’n falch gweld bod yr heddlu’n trin y mater hwn o ddifrif. Mae cam-drin domestig yn drosedd erchyll sy’n effeithio ar oroeswyr, plant, teuluoedd a’r gymuned gyfan.

“Mae’r heddlu wedi buddsoddi mewn pecyn hyfforddi wedi’i deilwra, sef ‘Domestic Abuse Matters’, sy’n cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol ac sy’n gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol er mwyn gwella dealltwriaeth swyddogion a staff o ochr gudd cam-drin domestig, megis rheolaeth drwy orfodaeth.

“Mae adroddiadau am ymddygiad rheolaethol neu gymhellol a stelcio wedi cynyddu llawer dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae’r heddlu a minnau’n croesawu hyn fel arwydd cadarnhaol bod yr hyfforddiant hwn yn gweithio.

“Er bod llawer o gynnydd cadarnhaol wedi’i wneud yn y maes hwn, mae mwy i’w wneud o hyd. Mae gennyf bryderon ynghylch hyd rhai ymchwiliadau, ac rwyf wedi cael trafodaethau manwl gyda’r Tîm Prif Swyddogion a’r Pennaeth Trosedd er mwyn craffu ar ymateb yr heddlu yn y maes pwysig hwn.

“Yr wyf wedi cael sicrwydd bod Grŵp Aur Safonau Ymchwilio wedi’i sefydlu er mwyn canolbwyntio ar sicrhau bod gan swyddogion a staff y sgiliau a’r wybodaeth i gyflwyno ymchwiliadau cyflym o safon uchel i ddioddefwyr trosedd.

“Gwyddom fod gan hyd ymchwiliad effaith uniongyrchol ar ddioddefwyr, ac mae’n hollbwysig ein bod ni’n cynnwys dioddefwyr yn y broses cyfiawnder troseddol. Medrwn wneud hyn drwy roi cefnogaeth briodol o’r cychwyn, a chyflwyno proses gyfiawnder mor gyflym ag sy’n bosibl.

“Rwyf wedi bod yn gweithio gydag asiantaethau partner er mwyn sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn y gwasanaethau gorau posibl yn un o’r ardaloedd daearyddol mwyaf gwledig a heriol yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr perygl uwch ar y cyd â’r pedwar awdurdod lleol, yn ogystal ag ariannu cymorth ychwanegol ar gyfer dioddefwyr sydd mewn unrhyw fath o berygl.”

Mae’r heddlu’n awyddus i roi cyd-destun o gwmpas ei sefyllfa gyfredol, a thynnu sylw at y ffaith mai cyfradd trosedd Dyfed-Powys yw’r isaf yn y wlad, er waetha’r holl ymwelwyr yn ystod yr haf:

“Ein cyfradd trosedd fesul 1000 o bobl, sy’n llai na hanner y cyfartaledd cenedlaethol, yw’r isaf o’r 43 heddlu yn y DU. Rydyn ni’n croesawu cannoedd o filoedd o ymwelwyr i’n pedair sir yn ystod yr haf, sy’n hybu’n poblogaeth yn sylweddol ac yn gosod galw ychwanegol arnom.

 

Dywedodd Prif Uwch-arolygydd Steve Cockwell, Pennaeth yr Adran Ymchwilio i Droseddau,

“Er waetha’r heriau rydyn ni’n wynebu, mae ein cyfradd cyhuddo cyffredinol dal yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol,”

“Mae natur trosedd wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn meysydd megis ymchwiliadau cymhleth i ymosodiadau rhyw, twyll a throseddau seiber,” meddai.

“Mae’r cynnydd yn y defnydd o dechnoleg a maint y data sy’n cael ei ddal ar ffonau symudol, llechi cyfrifiadurol a chyfrifiaduron yn golygu bod ymchwiliadau’n hirach, ac mae archwilio dyfeisiau’n cymryd mwy o amser. Mae’r gwasanaeth heddlu ar draws y DU yn wynebu’r her hwn.

“Yn Heddlu Dyfed-Powys, rydyn ni wedi buddsoddi’n helaeth yn ein gallu o ran seiberdroseddu, gyda chefnogaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh), sydd wedi rhoi arian i ni ar gyfer technoleg ac offer newydd er mwyn gwella ein gallu i archwilio dyfeisiau’n gynt.

“Rydyn ni wedi cynyddu ein gallu arbenigol o ran ymchwilio i ddyfeisiau digidol er mwyn mynd i’r afael â’r galw cynyddol, ac rydyn ni hefyd yn defnyddio dulliau brysbennu er mwyn blaenoriaethu dyfeisiau lle mae’r cyfle gorau ar gyfer adfer tystiolaeth.

“Diolch i’r arian ychwanegol hwn gan y CHTh, rydyn ni nawr yn adeiladu gallu i archwilio ffonau mewn canolfannau lleol er mwyn gwella amseroldeb, yn enwedig pan mae drwgdybiedigion eisoes yn y ddalfa. Mae ail-fuddsoddiad CHTh mewn teledu cylch cyfyng hefyd yn helpu, ac mae tystiolaeth o’r camerâu eisoes wedi profi’n amhrisiadwy mewn nifer o ymchwiliadau, yn ogystal â rhoi tawelwch meddwl i’r cyhoedd.”

DIWEDD

 

NODIADAU I OLYGYDDION

  • Mae canlyniad cyhuddo/gofyniad post Heddlu Dyfed-Powys 50% yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 11.8%, o’i gymharu â 7.8% yn genedlaethol.
  • Mae adroddiadau am Ymddygiad Rheolaethol a Chymhellol wedi cynyddu 214% (i 251) yn y 12 mis a ddaeth i ben ym Mehefin 2019.
  • Mae adroddiadau am Stelcio wedi cynyddu 167% (i 184) yn y 12 mis a ddaeth i ben ym Mehefin 2019.