17 Awst 2020
Mae chwe chamera newydd yn cael eu gosod yn Aberhonddu fel rhan o adduned allweddol Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, i ailfuddsoddi mewn system gyhoeddus o Deledu Cylch Cyfyng.
Bydd y gwaith ar y rhaglen osod yn y dref yn cychwyn ddydd Llun 17 Awst. Bydd camerâu’n cael eu gosod ar Y Stryd Fawr, Stryd Tredegar, Y Bulwark, Maes Parcio Co-op a Stryd y Llong.
Penderfynwyd ar leoliadau’r camerâu yn dilyn adolygu dadansoddiad o batrymau troseddu ac mewn ymgynghoriad gydag asiantaethau partner eraill.
Mae’r gwaith yn cael ei gyflawni gan y contractwyr Baydale Control Systems Ltd ac mae’r camerâu technoleg uwch yn cael eu cyflenwi gan Hikvision UK & Ireland.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn: “Mae gwaith ar y prosiect TCC yn parhau, ac rwy’n falch iawn y bydd dwy dref yn elwa o gamerâu newydd.
Bydd tri chamera’n cael eu gosod yng Nghastellnewydd Emlyn yr wythnos hon, a chwech yn Aberhonddu wythnos nesaf, sy’n dod â nifer y trefi yr ydym yn awr wedi’u cynnwys yn y prosiect TCC i 23.
“Rwy’n hyderus y bydd y camerâu’n profi’n ased gwerthfawr ar gyfer cadw’r trefi hyn yn ddiogel drwy ddatrys troseddau.”
Meddai Comander Powys, yr Uwcharolygydd Steve Davies: “Mae hwn yn gam cadarnhaol i Aberhonddu. Bydd cael y camerâu yn eu lle wrth inni weld cynnydd o ran yr ymwelwyr i’r ardal yn ystod cyfnod y gwyliau yn ein helpu i gadw pawb mor ddiogel â phosibl ac yn ein cynorthwyo i gynnal ymchwiliadau o ansawdd pan fod angen.”
Mae’r Prosiect TCC yn dod â dros 120 o’r camerâu diweddaraf i drefi ar draws ardal yr heddlu, sef Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys.
Cewch ragor o wybodaeth am y prosiect TCC fan hyn. (https://bit.ly/2ntpVlU)