08 Maw 2019

Mae gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn reswm i ddathlu Wythnos Prentisiaeth Genedlaethol, yn dilyn blwyddyn gyntaf llwyddiannus ei brentis yn y swydd.

Y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaeth gyflogi prentis, ac fe oedd y Comisiynydd cyntaf yng Nghymru a Lloegr i wneud hynny. Dangoswyd fod prentisiaethau ac interniaethau’n ychwanegu gwerth, yn darparu gweithlu medrus ar gyfer y dyfodol, yn gwella'r modd yr ydym yn cadw staff, yn newid rhagolygon gwaith ac yn agor llwybrau newydd a chyffrous i’r cyflogwr a’r gweithiwr.

Yn dilyn proses recriwtio gystadleuol Chwefror llynedd, mae Anwen Howells wedi bod yn gweithio fel Prentis Cefnogi Busnes y Comisiynydd tra’n gweithio tuag at ddau gymhwyster NVQ mewn Gweinyddu Busnes o Goleg Sir Gâr.

Dywedodd Anwen: “Roedd dod i’r arfer â byd cymhleth plismona’n her ar y cychwyn, ond rwy’n mwynhau dysgu rhywbeth newydd bob dydd, a gweld gyda fy llygaid fy hun yr effaith y mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n ei gael ar gymunedau lleol ar draws ardal Dyfed-Powys.”

Dywedodd Dafydd:

“Mae interniaethau a phrentisiaethau’n darparu cyfle i ennill amrywiaeth o brofiad gwaith gwerthfawr tra mewn swydd gyflogedig, yn cynnig datblygiad gyrfa ragorol ac yn caniatáu i’r heddlu ehangu ei gronfa dalent. Mae hwn yn gam cadarnhaol ar ein taith i hyfforddi a chadw mwy o staff lleol o ardal Dyfed-Powys gyfan.”

Ewch i dudalen saith yng nghylchlythyr mis Gorffennaf am y stori gyfan http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/media/5733/cylchlythr-gorff.pdf