22 Gor 2020

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, Dafydd Llywelyn, wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer recriwtio Ymgynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol ychwanegol i’r ardal.

Mae Ymgynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol wedi eu hyfforddi'n arbennig i ddarparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i ddioddefwyr trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol. Eu prif rôl yw darparu cefnogaeth o amgylch y broses cyfiawnder troseddol, ond maent yn annibynnol i’r heddlu ac nid yn ymgynghorwyr cyfreithiol.

Daw'r cyhoeddiad hwn o gyllid ychwanegol yn dilyn proses a gychwynnwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder cyn cyfnod y clo mawr, ond ailedrychwyd arno a'i wella o ganlyniad i'r cyllid ychwanegol a oedd ar gael yn genedlaethol i gynorthwyo gydag effaith y pandemig Covid-19 ar ddarpariaeth gwasanaethau.

Roedd Dyfed Powys yn un o ddim ond 15 ardal y dyfarnwyd cyllid iddynt, gyda £55k ychwanegol wedi'i sicrhau ar gyfer yr ardal am weddill 2020/21, gan gynyddu i £63k yn 2021/22.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd sydd wedi bod yn allweddol wrth lobïo am ragor o arian; “Rwyf wedi parhau i lobïo’n galed ar lefel llywodraethol i sicrhau bod mwy o arian ar gael, ac rwy’n hynod falch o allu cyhoeddi ein bod wedi llwyddo i sicrhau’r cyllid ychwanegol hwn.

“Mae llwyth gwaith Ymgynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol yn parhau i gynyddu o ran maint a chymhlethdod gydag achosion yn aml yn cymryd mwy o amser i ddod i'r llys ac yn cynnwys trawma mwy cymhleth, gan arwain at ostyngiad yn nifer y cleientiaid sy'n gadael y gwasanaeth.

“Mae ein Ymgynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol lleol yn aml yn cario mwy na'r llwyth gwaith a argymhellir ac yn amlwg nid yw hyn yn gynaliadwy.

“Mae ardal Dyfed-Powys yn ardal bennaf wledig, gyda’r tirwedd yn gorchuddio dros hanner maint Cymru, ac mae hyn yn achosi heriau unigryw wrth geisio darparu gwasanaethau digonol o’r math yma.

“Mae’n bwysig sicrhau bod gwasanaethau Ymgynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol ar gael mewn canolfannau ledled ardal yr Heddlu ond hefyd ein bod yn darparu gwasanaethau peripatetig i’r bobl hynny sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin rhywiol a threisio ac nad ydynt yn gallu teithio i ganolfannau; darpariaeth sy'n hanfodol i ddaearyddiaeth yr Heddlu fel Dyfed Powys.

Mae gwasanaethau Ymgynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol yn cael eu darparu gan un darparwr yn Dyfed-Powys, sef New Pathways, ac ychwanegodd Mr Llywelyn; “Bydd yr arian ychwanegol yn galluogi New Pathways i ddarparu adnodd pwrpasol gan sicrhau bod y ddarpariaeth hyblyg hon ar gael ac yn bwysicach fyth, yn gynaliadwy. Bydd hefyd yn galluogi gwell cefnogaeth i blant a phobl ifanc.

Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr New pathways, Mike Wilkinson; “Mae'n hanfodol bod pobl sy'n cael eu heffeithio gan drais rhywiol yn derbyn cefnogaeth arbenigol pryd a ble bynnag mae ei angen arnyn nhw.

“Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, a allai deimlo'n ynysig hefyd ac yn aml yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar wasanaethau.

“Mae'r cyllid a gawsom gan Swyddfa’r Comisiynydd yn mynd i'r afael â'r mater hwn yn uniongyrchol trwy ein galluogi i gyflogi Ymgynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol yn y Gymuned a fydd yn darparu cefnogaeth uniongyrchol i bobl y mae trais rhywiol yn y rhanbarth yn effeithio arnynt.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Mr Llywelyn am ei gefnogaeth barhaus ac am gadw'r mater hwn yn uchel ar ei restr o flaenoriaethau.”

 

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan.OPCC@dyfed-powys.pnn.police.uk