05 Awst 2020

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn, wedi llongyfarch cydweithwyr oddi fewn Heddlu Dyfed-Powys, wrth I’r Llu dderbyn achrediad AUR Buddsoddwyr Mewn Pobl yn swyddogol yr wythnos hon– anrhydedd sydd ond yn cael ei gyflawni gan 7% o sefydliadau’r DU sy’n rhan o’r cynllun Buddsoddwyr Mewn Pobl.

Mae wedi cymryd cryn dipyn o waith i Heddlu Dyfed-Powys dderbyn y statws hwn. Tair blynedd yn ôl, dywedodd Buddsoddwyr Mewn Pobl nad oedd yr heddlu wedi bodloni’r achrediad safonol. Rhoddwyd amser I’r Llu i weithio ar y problemau a nodwyd.

Roedd meysydd penodol sydd wedi gwella’n cynnwys y canlynol:

  • Ffydd mewn uwch arweinwyr a pha mor hawdd ydyw i fynd atynt.
  • Cred yn y negeseuon sy’n cael eu cyfathrebu a gweld cam cadarnhaol ymlaen ar gyfer y sefydliad.
  • Mae blaenoriaethau allweddol y sefydliad yn glir yn awr, ac mae gan bawb ddealltwriaeth gyson o’r hyn ydynt.
  • Mae mwy o gydweithio ar draws y sefydliad a gyda rhanddeiliaid allanol, a pherthynas waith gadarnhaol gyda’r CHTh ac undebau.

Cred Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, bod y wobr Aur yn ardystiad sylweddol ar gyfer y cymunedau ar draws ardal Heddlu Dyfed-Powys. Dywedodd: “Ers imi benodi Mark Collins yn Brif Gwnstabl yn 2016, mae’r sefydliad wedi gwella’n sylweddol.

“Mae’r cymhelliad i wasanaethu’r gymuned yn amlwg, ac mae awydd i wella’r gwasanaeth yn barhaus. Mae swyddogion, staff a gwirfoddolwyr bob amser yn awyddus i gyflwyno eu syniadau, ac mae diwylliant arwain amlwg wedi’i feithrin er mwyn gwneud i hyn ddigwydd.

“Er bod plismona’n aml yn gweithredu mewn ffordd hierarchaidd iawn, rydyn ni wedi datblygu sefydliad lle mae pawb wedi’u grymuso i godi llais, herio a chyfrannu – gyda’r budd i’r gymuned wrth galon hynny bob amser.

“Rwyf wrth fy modd bod yr heddlu wedi derbyn achrediad Aur, ac ynghyd â’r tîm prif swyddogion, rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at gyfrannu’n gadarnhaol i ddyfodol ein gwasanaeth plismona lleol.”

Dywedodd y Prif Gwnstabl Mark Collins: “Mae hyn yn llwyddiant arbennig. Mae'n deg inni ymfalchïo yn hyn gan mai dim ond 7% o sefydliadau sy’n derbyn achrediad aur.”

“Mae’r ffaith ein bod ni’n heddlu mawr yn ddaearyddol yn cyflwyno nifer o heriau, yn enwedig ein gallu i fod yn amlwg ac yn bresennol. Mae’r tîm prif swyddogion wedi gweithio’n galed dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan dreulio amser yn siarad â’r gweithlu, deall y problemau a gweithio ar gynllun gweithredu er mwyn inni symud ymlaen gyda’n gilydd.

“Rydyn ni’n cymryd rhan yn y rhaglen Buddsoddwyr Mewn Pobl oherwydd mae’n bwrw golwg annibynnol dros ein sefydliad, ein harferion gweithio a’n diwylliant.

“Rydyn ni wedi cymryd camau mawr ymlaen, ond mae bob amser mwy i’w ddysgu, ac rydyn ni’n parhau i ofyn am adborth, arloesedd a gonestrwydd wrth ein staff er mwyn gyrru gwella parhaus.

Dywedodd Jackie Lewis, aseswr Buddsoddwyr Mewn Pobl: “Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y tair blynedd diwethaf, ac roedd yn galonogol siarad â chymaint o bobl sy’n angerddol, yn ofalgar ac wedi ymrwymo i wasanaethu eu cymunedau.”

 

DIWEDD