13 Mai 2020

 

Ddydd Mercher, 13 Mai 2020, cynhaliodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn ei gyfarfod cyhoeddus rhithiol cyntaf trwy gyfleusterau fideo-gynadledda i drigolion Sir Benfro fel rhan o ddiwrnod ymgysylltu cymunedol digidol ar gyfer y rhanbarth

Mae Swyddfa Comisiynydd Swyddfa'r Heddlu a Throsedd fel arfer yn cynnal diwrnodau ymgysylltu â'r gymuned unwaith bob mis mewn gwahanol ardaloedd yn ardal Dyfed-Powys, lle mae'r Comisiynydd yn cwrdd ag amrywiol bartneriaid, sefydliadau, gwasanaethau comisiynu, yn ogystal â chynnal cyfarfod cyhoeddus i breswylwyr.

Fodd bynnag, arweiniodd y mesurau cloi a ddaeth i rym ym mis Mawrth i’r Swyddfa i ohirio holl weithgareddau cyhoeddus cymunedol y Comisiynydd, gyda staff dros yr wythnosau diwethaf yn gweithio i adnabod ffyrdd newydd ac amgen o ymgysylltu â'r cyhoedd.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, “Mae'r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn anodd mewn cymaint o ffyrdd i gynifer o bobl. Fodd bynnag, fel aelod etholedig o'r cyhoedd, rwy'n cynrychioli eu llais, ac o'r herwydd, mae'n ddyletswydd arnaf i sicrhau fy mod yn parhau i ymgysylltu â'r cymunedau mor aml ag y gallaf fel bod modd i mi sicrhau bod eu llais yn cael ei gynrychioli - yn enwedig yn ystod yr amseroedd digynsail hyn.

“Roedd yn wych ein bod ni wedi gallu ailddechrau rhai gweithgareddau ymgysylltu â’r gymuned o’r diwedd gyda chyfres o gyfarfodydd cyhoeddus trwy gyfleusterau fideo-gynadledda - heddiw gyda phartneriaid a thrigolion o bob rhan o Sir Benfro, a hefyd yn gynharach yn yr wythnos pan gynhaliais gyfarfod cyhoeddus rhithiol o Fwrdd Atebolrwydd yr Heddlu”.

“Afraid dweud, bod llawer o’r cwestiynau a’r materion a godwyd gan breswylwyr yn y Cyfarfod Cyhoeddus heddiw yn canolbwyntio’n bennaf ar faterion mewn perthynas â phwerau plismona o ran mesurau cloi a chyfyngiadau teithio. Wrth ystyried hyn, roedd hi’n wych hefyd cael yr Uwcharolygydd Ross Evans yn bresennol i egluro sut mae ei staff a'r Heddlu yn Sir Benfro yn ymateb i'r mesurau newydd ar lefel weithredol ac yn delio â throseddwyr.”

Dywedodd yr Uwcharolygydd Ross Evans; “Roeddwn yn ddiolchgar i fod yn rhan o’r cyfarfod a gynhaliwyd gan y Comisiynydd heddiw. Roedd yn ffordd ddefnyddiol o ymgysylltu â'r cyhoedd a gyda'n harweinwyr cymunedol. Rhoddodd gyfle i mi ddiweddaru preswylwyr ac arweinwyr lleol ar ymateb plismona Sir Benfro i'r heriau enfawr a wynebir. Roedd y cwestiynau i gyd yn berthnasol iawn ac roeddwn hefyd yn falch o allu rhoi rhywfaint o sicrwydd o ran y nifer uchel iawn o gerbydau yr ydym wedi'u stopio ac yn parhau i stopio. Yn ychwanegol at hynny, roeddwn i'n gallu egluro ein bod ni nawr yn cefnogi'r awdurdod lleol i ymweld ar y cyd â thai gwyliau ledled y sir. Mae llawer o'r eiddo hyn wedi cael eu cyfeirio at asiantaethau gan y cyhoedd. Bydd yr heddlu bob amser yn gweithredu i amddiffyn bywyd ac eiddo ac i gadw ein cymunedau yn ddiogel. Mae ymateb i bryderon cymunedol yn rhan enfawr o hyn ac rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth barhaus y cyhoedd ledled Sir Benfro ”.

Yn gynharach yn y dydd, cynhaliodd y Comisiynydd gyfarfod ag un o'i Wasanaethau Comisiwn, Pobl Group sy'n grŵp o gwmnïau sy'n cynnig cartrefi, gofal a chefnogaeth wych sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, a chyfarfod hefyd â PLANED.

Dywedodd y Comisiynydd, Mr Llywelyn, “Mae Pobl Group a PLANED, yn gweithio gyda phartneriaid a chymunedau yn Sir Benfro mewn cymaint o wahanol ffyrdd i wella ansawdd eu bywyd, roedd yn wych cael cyfle i gwrdd â'u staff i glywed am eu dull arloesol cefnogi cymunedau yn ystod yr amseroedd anodd hyn. ”

Dywedodd Iwan Thomas, Prif Weithredwr Planed Sir Benfro, “Gwnaethom groesawu ffocws y Comisiynydd ar ymrywiadau Sir Benfro heddiw yn fawr ac falch iddo ymestyn gwahoddiadau i'r cyhoedd yn gyffredinol a sefydliadau allweddol.

“I PLANED, roedd gallu trafod ein prosiectau cymunedol a'r cysylltiadau â diogelwch a lles cymunedol gyda'r Comisiynydd a'i gydweithwyr yn hynod fuddiol. Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y sgyrsiau yn y dyfodol er mwyn cefnogi cymunedau ac rwy'n ddiolchgar i'r comisiynydd gymryd yr amser i ganolbwyntio'n benodol ar Sir Benfro heddiw ”.

Bydd diwrnod ymgysylltu cymunedol nesaf y Comisiynydd yn cael ei gynnal ym mis Mehefin ar gyfer partneriaid a thrigolion Ceredigion - bydd manylion pellach ar gael yn fuan.

 

DIWEDD

Am fwy o wybodaeth;

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan.OPCC@dyfed-powys.pnn.police.uk