14 Rhag 2020

 

Yn dilyn cyhoeddiad Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys Mark Collins heddiw, ei fod yn ymddeol o’i swydd yng Ngwanwyn 2021, mae Comisiynydd yr Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn wedi ymateb yn llongyfarch y Prif Gwnstabl ar ei waith ers ei benodiad yn 2016, ac yn rhoi cydnabyddiaeth i gyfraniad y Prif Gwnstabl i blismona a’r arweinyddiaeth y mae wedi ei ddarparu i Heddlu Dyfed-Powys dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Dywedodd Comisiynydd Dafydd Llywelyn; “Hoffwn gymryd y cyfle hwn i longyfarch Mark ar ei yrfa lwyddiannus ym myd plismona a dymuno’n dda iddo at y dyfodol. Pan benodais Mark yn 2016, roedd yr Heddlu wedi bod trwy gyfnod anodd, ac y mae ef wedi gweithio’n ddyfal dros y 4 mlynedd diwethaf i wella’r sefydliad. Mae ei ymrwymiad a’i arweiniad wedi bod o fudd anferthol i’r gweithlu ac y mae wedi cyfrannu’n sylweddol i newidiadau cadarnhaol yr wyf wedi eu gweld trosaf fy hun.

 

“Fel y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, rwyf yn hyderus fy mod wedi gwneud y penderfyniad cywir wrth benodi Mark ac rwy’n teimlo iddo fod yn arweinydd hynaws ac effeithiol dros ben sy’n gadael etifeddiaeth a fydd yn gweld y sefydliad yn mynd o nerth i nerth. Byddwn yn gweld ei eisiau.”

 

Mewn datganiad llawn, dywedodd y Prif Gwnstabl Marc Collins; “Allwn i ddim fod wedi gobeithio am fwy fel Prif Gwnstabl na’r amser rydw i wedi ei dreulio nôl yn fy heddlu cartref, rhywbeth na fyddwn wedi gallu ei ddychmygu yn ystod fy nghyfnod fel Cwnstabl Gwirfoddol yma fwy na 30 mlynedd yn ôl.

 

“Dydy pob peth ddim wedi bod yn hawdd a chafwyd rhai heriau. Ar ôl mynd o fod yn heddlu yr oedd eraill yn ymgeisio ei hefelychu, i un a oedd yn ymddangos ei bod wedi colli peth cyfeiriad, bu angen gwneud rhai penderfyniadau anodd ynghylch adnoddau, strwythur ac ein model ehangach ar gyfer plismona’r cymunedau mwyaf diogel, ac eto’r mwyaf gwledig, yng Nghymru a Lloegr.

 

“Roedd dadsefydlu swyddi prif swyddogion yn y canol er mwyn galluogi gwell strwythurau rheoli ar draws y pedair sir yn flaenoriaeth i mi, ynghyd ag adlinio ein rhanbarthau i fod yn gydffiniol â’n hardaloedd awdurdod lleol unwaith eto.”

 

Cyhoeddodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn ei fod yn bwriadu oedi am gyfnod cyn penodi Prif Gwnstabl newydd, a dywedodd; “O ystyried pa mor agos yw hyn i etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2021, rwyf wedi penderfynu peidio â symud ymlaen gyda’r broses penodi ar gyfer Prif Gwnstabl newydd ar hyn o bryd. Oherwydd pwysigrwydd y berthynas rhwng y Prif Gwnstabl a’r CHTh rwy’n teimlo mai’r Comisiynydd etholedig a ddylai symud ymlaen gyda’r penderfyniad hanfodol hwn ar ôl yr etholiad ym mis Mai, pa un ai fi neu rywun arall fydd hynny.

 

“Felly, mae’n dda iawn gennyf gyhoeddi dyrchafiad dros dro'r Dirprwy Brif Gwnstabl Claire Parmenter yn Brif Gwnstabl Dros Dro ar ymddeoliad Mark yn gynnar yng Ngwanwyn 2021. Mae Claire wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi arweinyddiaeth Mark dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac rwyf yn dymuno pob llwyddiant iddi yn ei rôl newydd.”

 

I ddarllen y datganiad yn llawn, cliciwch yma.

 

 

DIWEDD

Am ragor o fanylion, cysylltwch â;

 

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Gruffudd.ifan.OPCC@dyfed-powys.pnn.police.uk