18 Hyd 2018
Nos Fercher 17 Hydref, croesawodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, glwb drama o Gaerfyrddin i Bencadlys yr Heddlu yn rhan o weithgareddau Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2018.
Daeth Clwb Drama Theatr Genedlaethol Cymru a Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr i’r Pencadlys lle trefnwyd Gweithdy Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb i 30 o blant o wahanol ysgolion cynradd o ardal Caerfyrddin. Mae’r Comisiynydd yn cynnal gweithgareddau sy’n ymgysylltu â phobl ifanc ledled y pedair sir drwy gydol yr wythnos, er mwyn gwrando ar eu barn, ac i herio canfyddiadau a chamdybiaethau mewn perthynas â rhai cymunedau a grwpiau o bobl.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn:
"Braint oedd cael sgwrsio â chriw o bobl ifanc neithiwr ym Mhencadlys yr Heddlu yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb. Mae’n wych gallu cydweithio â phartneriaid cymunedol a phroffesiynol fel y Mentrau Iaith a’r Theatr Genedlaethol, sy’n gwneud gwaith arbennig i roi cyfle i blant a phobl ifanc ystyried themâu dyrys mewn modd ysgafn a chreadigol. Mae Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yn gyfle inni ddangos i ddioddefwyr y drosedd ofnadwy hon, ein bod yn trin eu profiadau yn ddifrifol iawn, ac yn annog rhagor o bobl i ddod ymlaen a chael cymorth os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny”.
Cafodd y grŵp o blant, oedd rhwng 9-12 oed, gyfle i gwrdd â’r Comisiynydd, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a chael cipolwg ar y Ganolfan Rheoli Galwadau. Yna, cafwyd gweithdy drama gyda’r plant yn archwilio gwahanol themâu yn ymwneud â hapusrwydd
a pharch. Braf oedd cael cwmni rhaglen Heno, fydd darlledu'r eitem yn y diwrndodau nesaf.
"Mae’n wych gallu cydweithio â phartneriaid cymunedol sy’n gwneud gwaith arbennig i roi cyfle i blant a phobl ifanc ystyried themâu dyrys mewn modd ysgafn a chreadigol. "
PCC Dafydd Llywelyn
Dywedodd Prif Weithredwr Menter Gorllewin Sir Gâr, Dewi Snelson
“Roedd hwn yn gyfle gwych i’r Fenter Iaith, Theatr Genedlaethol Cymru a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu gydweithio a rhannu eu harbenigeddau er lles un achos, sef codi ymwybyddiaeth pobl ifanc o droseddau casineb. Rydym yn croesawu pob cyfle i weithio gyda’n cymunedau lleol”.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cefnogi cyfres o weithgareddau eraill sydd wedi'u hanelu at wrando ar lais pobl ifanctrwy gydol Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, rhwng 13-20 Hydref, gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Howells-Lloyd catrin.howells-lloyd@dyfed-powys.pnn.police.uk
(01267) 226 454