01 Gor 2020

Ar 10 Gorffennaf 2020, bydd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ar gyfer trigolion Sir Gaerfyrddin fel rhan o Ddiwrnod Ymgysylltu Cymunedol digidol y mae ei swyddfa yn ei drefnu.

Hwn fydd ail gyfarfod cyhoeddus rhithiol y Comisiynydd yn Sir Gaerfyrddin yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Mai a oedd yn rhan o’r Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Hwb Plismona a Dalfa newydd Sir Gaerfyrddin i’w hadeiladu yn Dafen, Llanelli.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd; “Yr wythnos diwethaf cynhaliais gyfarfod cyhoeddus ym Mhowys, lle cefais gyfle i ddal i fyny â llawer o drigolion a sefydliadau y cyfarfûm â hwy ym mis Ionawr yn ystod ymweliad yr Angel Cyllyll.

“Bydd yn wych cael â thrigolion yn Sir Gaerfyrddin yr wythnos nesaf i fynd i’r afael â’r materion a’r cwestiynau y mae’r bobl leol eisiau eu codi gyda mi, a hefyd i gwrdd â rhai partneriaid allweddol i drafod eu gwaith.

“Hwn fydd fy mhedwerydd cyfarfod cyhoeddus rhithiol sy’n rhan o fy nyddiau ymgysylltu cymunedol, a hyd yn hyn, mae cyfarfodydd eraill a gynhaliwyd yn Sir Benfro, Ceredigion a Powys wedi bod yn eithaf llwyddiannus ac mae’n wych gweld sut mae pobl wedi cofleidio’r defnydd o dechnoleg yn ystod y cyfnod cloi.”

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal rhwng 11am a 12pm ddydd Gwener 10 Gorffennaf.

Dywedodd Mr Llywelyn: “Unrhyw un sy’n dymuno mynychu’r cyfarfod yr wythnos nesaf, cysylltwch â fy swyddfa i gael y manylion penodol ar sut i ymuno trwy Zoom”.

Yn ystod diwrnodau Ymgysylltu â'r Gymuned, yn ogystal â chyfarfod cyhoeddus, bydd y Comisiynydd yn cael cyfarfodydd gyda phartneriaid, sefydliadau a gwasanaethau a gomisiynir yn yr ardal. Os oes unrhyw un eisiau trefnu cyfarfod gyda'r Comisiynydd yn ystod Diwrnod Ymgysylltu Powys, mae slotiau amser cyfyngedig ar gael. E-bostiwch ei Swyddfa ar OPCC.Communication@dyfed-powys.pnn.police.uk erbyn dydd Mercher, 8 Gorffennaf.

Cyfarfod Cyhoeddus Sir Gar Dydd Gwener 10 o Orffennaf

Cyfarfod Cyhoeddus Sir Gar Dydd Gwener 10 o Orffennaf