23 Tach 2020

Nos Fercher, 25.11.20, bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn yn darlledu sgwrs fyw gyda Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Steve Moore ar gyfryngau cymdeithasol.

Steve Moore fydd pedwerydd gwestai PCC Llywelyn ar ei gyfres ddarlledu byw pythefnosol ar Facebook, Sgwrs y Comisiynydd, yn dilyn ymlaen o ddarllediadau blaenorol gyda Phrif Gwnstabl Dyfed-Powys Mark Collins, yr Uwcharolygydd Ifan Charles, a’r Dirprwy Brif Gwnstabl Claire Parmenter.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn; “Bydd hi’n fraint imi gael Steve Moore yn westai ar fy Sgwrs nesaf. Mae eleni wedi bod yn flwyddyn mor heriol i'n Bwrdd Iechyd, a'r Gwasnaethau Iechyd ledled y Deyrnas Unedig, gyda'u staff ar y rheng flaen, yn gweithio'n galed i frwydro yn erbyn y pandemig, ac yn arbed bywydau ar y ffordd.

“Bydd y darllediad hwn yn gyfle i mi gael sgwrs anffurfiol gyda Steve i glywed am ei brofiadau personol dros y misoedd diwethaf, sut mae'r Bwrdd Iechyd wedi delio â'r holl heriau a'r pwysau, ac i ddathlu gwaith gwych ei staff.

“Byddwn nid yn unig yn canolbwyntio ar y pandemig COVID-19, byddwn hefyd yn trafod rhywfaint o weithio mewn partneriaeth rhwng y Bwrdd Iechyd a’r Heddlu, sut rydym yn aml yn cefnogi ein gilydd, ac yn ôl yr arfer, byddaf yn ceisio dod i adnabod ychydig mwy am y y person y tu ôl i'r enw, ei gefndir a'i daith i gyrraedd swydd Prif Weithredwr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda."

Penodwyd Steve yn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn 2014 yn dilyn gyrfa yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Fel gweddill y DU, mae'r Bwrdd Iechyd yma yn Dyfed Powys wedi gweld her sylweddol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ond hefyd datblygiadau sylweddol mewn gofal a chanlyniadau i gleifion.

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Mae'r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol yn sefydliad y mae'r mwyafrif ohonom yn ei ddal yn annwyl iawn gan ei fod yn ein cefnogi o'r crud i'r bedd ac yn gallu cael effaith enfawr ar ein bywydau.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fy sgwrs gyda’r Comisiynydd gan ein bod yn rhannu cymaint o’n heriau, ac yn wir, cyfleoedd, ac rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at dderbyn cwestiynau neu fewnbwn gan ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol hefyd. Mae COVID-19 wedi gwneud i ni i gyd edrych ar ffyrdd newydd o gysylltu a gobeithio bod hyn yn rhoi cyfle i bobl ddarganfod mwy ac i ni wrando ar farn ein cymunedau a'n unigolion. ”

Ychwanegodd CHTh Dafydd Llywelyn; “Bydd hwn, unwaith eto, yn ddarllediad byw, felly ymunwch â ni ar ein tudalen Facebook, ac mae croeso i chi adael eich sylwadau a'ch cwestiynau, ac yn ôl yr arfer, byddwn yn ceisio ateb orau y gallwn yn ystod y sgwrs.

Bydd Sgwrs y Comisiynydd â Steve Moore yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.facebook.com/DPOPCC am 8pm ar 25.11.20, ar drothwy Diwrnod Ymgysylltu Cymunedol rhithiol, Tachwedd, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llyweln, lle bydd yn treulio'r diwrnod yn cyfarfod â sawl partner a sefydliad yn ogystal â chynrychiolwyr cymunedol.

DIWEDD