09 Hyd 2020

Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd i gynnal gweminar i bobl ifanc ar Droseddau Casineb fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb

Nos Fawrth, 13eg Hydref, bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn yn cynnal gweminar i bobl ifanc fel rhan o wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb. Bydd ffocws y weminar ar adnabod troseddau casineb, sut i ymyrryd ac adrodd am drosedd casineb, y gwaith sy’n cael ei wneud gan sefydliadau ac ymgyrchwyr i atal a chodi ymwybyddiaeth o droseddau casineb; a'r alwad am weithredu i bobl ifanc.

Bydd gan y Comisiynydd arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio i fynd i'r afael â throseddau casineb ac sy’n codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb, fel siaradwyr gwadd yn y Gweminar i rannu eu profiadau a'u cyngor i bobl ifanc. Maent yn cynnwys Becca Rosenthal, Swyddog Hyfforddiant ac Ymgysylltu Troseddau Casineb yn Dyfed Powys gyda Victim Support; Prif Arolygydd Stuart Bell, Arweinydd Strategol Heddlu Dyfed-Powys ar Droseddau Casineb; Joanne Maksymiuk-King, Swyddog Cymorth Cymunedol yn Ne a Orllewin Cymru gyda Race Council Cymru; Ali Abdi o Race Council Cymru; a Nirushan Sudarsan sy'n Gynorthwyydd Cyflenwi Gwasanaeth Troseddau Casineb Cymru gyda Victim Support ac sydd hefyd yn aelod o Fforwm Ieuenctid Cenedlaethol BAME Race Council Cymru.

Dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn, “Gall profi troseddau casineb fod yn brofiad arbennig o frawychus, yn enwedig i bobl ifanc, gan eich bod wedi cael eich targedu oherwydd pwy ydych chi, neu pwy neu beth mae eich ymosodwr yn meddwl ydych chi. Yn wahanol i droseddau nad ydynt yn gysylltiedig â hunaniaeth, mae'r ymosodiad yn bersonol iawn ac wedi'i dargedu'n benodol, sy'n golygu ei fod yn llai tebygol o fod yn ymosodiad ar hap.

“Bydd y weminar yma yn gyfle i ni drafod a nodi’r gwahanol fathau o droseddau casineb sy’n effeithio ar bobl ifanc, sut y gallant yn aml esgyn i droseddau neu densiwn mewn cymuned, a sut mae heddlu a sefydliadau yn adrodd ar ac yn delio â digwyddiadau.

“Rwy’n hynod ddiolchgar i’r siaradwyr gwadd am gytuno i gymryd rhan yn y trafodaethau, ac edrychaf ymlaen at eu cyflwyno i’r bobl ifanc a’r holl fynychwyr. Rwy’n mawr obeithio y bydd y digwyddiad yn eu haddysgu am eu cyfrifoldebau fel dinasyddion ifanc ac yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau iddynt i'w helpu i herio'r agweddau a'r ymddygiadau sy'n arwain at droseddau casineb. "

Dywedodd Becca Rosenthal, o Victim Support, “Nawr yn fwy nag erioed mae’n bwysig i ni i gyd ddeall mwy am Droseddau Casineb a’r effaith y mae’n ei chael ar ddioddefwyr, eu teuluoedd a’n cymunedau. Mae'n wirioneddol allweddol parhau â sgyrsiau yn ein cymunedau ynghylch o ble mae troseddau casineb yn dod a sut y gall pob un ohonom chwarae rhan wrth fynd i'r afael ag ef ac adrodd am yr hyn a welwn.

“Yn Victim Support rydym yn falch iawn o gael ein gwahodd i gymryd rhan yn y sgwrs hon a hwyluswyd gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, gyda phobl ifanc. Mae gan bobl ifanc well mewnwelediad nad sy’n cael ei werthfawrogi yn amlach na phedio ac rydyn ni eisiau rhoi clod iddyn nhw ac mae'n bwysig iawn i glywed eu llais ... nhw yw'r genhedlaeth nesaf o ymgyrchwyr cymunedol ac arweinwyr troseddau casineb wedi'r cyfan.

“Os ydych chi wedi dioddef trosedd casineb, byddwch yn ymwybodol ei fod yn gallu effeithio ar bobl yn wahanol, nid oes unrhyw ffordd ‘iawn’ i deimlo. Mae gennych hawl i gefnogaeth emosiynol ac ymarferol i'ch helpu chi i oresgyn yr hyn sydd wedi digwydd. ”

Mae'r weminar yn rhan o nifer o weithgareddau y mae'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, a Heddlu Dyfed-Powys yn cymryd rhan ynddynt yn ystod wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb sy'n rhedeg rhwng 10 - 17 Hydref. Bydd Victim Support Cymru yn cymryd drosodd cyfrif Twitter Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu nos Fercher i hyrwyddo neges ynghylch troseddau casineb, ac i annog trafodaeth gyda dilynwyr, tra bydd y Comisiynydd hefyd yn cynnal ‘Sgwrs y Comisiynydd’ yn fyw ar Facebook gyda Phrif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Mark Collins yn trafod llawer o bynciau, gan gynnwys troseddau casineb.

Mae’r OPCC, yn ogystal â Heddlu Dyfed-Powys, yn eu paratoad ar gyfer wythnos ymwybyddiaeth troseddau casineb wedi ymuno â’r ‘Siarter Trosedd Casineb’ sydd newydd ei lansio ac sy’n amlinellu ac yn atgyfnerthu hawliau dioddefwyr.

Dywedodd Arweinydd Strategol Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer Troseddau Casineb, y Prif Arolygydd Stuart Bell: “Mae troseddau casineb a digwyddiadau yn brifo; gallant achosi trallod, dryswch ac ofn difrifol. Yn Heddlu Dyfed-Powys rydym yn gweithio'n galed i frwydro yn erbyn Troseddau Casineb, deall ei effeithiau a darparu cefnogaeth i ddioddefwyr. Ar draws yr heddlu, mae gennym ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau wedi'u cynllunio i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, ac rydym hefyd wedi ymuno â'r Siarter Troseddau Casineb sydd newydd ei lansio.

“Hoffwn sicrhau ein cymunedau y gall yr heddlu, trwy adrodd troseddau a digwyddiadau wrth iddynt ddigwydd, ymchwilio, dod â throseddwyr o flaen eu gwell ac atal hyn rhag digwydd i rywun arall. P'un a ydych chi'n ddioddefwr neu'n dyst i droseddau casineb, rhowch wybod i ni, rydyn ni am glywed gennych chi a stopio hyn gyda'n gilydd. "

Bydd Gweminar y Comisiynydd ar Droseddau Casineb yn digwydd nos Fawrth 13.10.20 rhwng 6yh a 7yh ar Zoom. Gall unrhyw un sy’n dymuno mynychu gofrestru trwy Evenbrite, ac mae mwy o fanylion ar gael ar dudalen Facebook Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, www.facebook.com/DPOPCC.

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Gruff Ifan

Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu

Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd

Gruffudd.Ifan.OPCC@dyfed-powys.pnn.police.uk