28 Hyd 2020

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn yn edrych i recriwtio sawl aelod o'r cyhoedd i gefnogi un o'i gynlluniau gwirfoddoli allweddol, y cynllun Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol.

Mae Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol, (ICVs), yn aelodau o'r cyhoedd sy'n gwirfoddoli i ymweld yn ddirybudd â dalfa'r heddlu i ddarparu gwiriad annibynnol ar hawliau, a lles carcharorion yn y ddalfa.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn; ”Mae Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol (ICVs) yn bobl anhygoel. Maent yn rhoi o'u hamser eu hunain i ymweld â dalfa'r heddlu, siarad â charcharorion ac argymell newidiadau. Mae'n un o'r cynlluniau gwirfoddoli pwysicaf rydw i'n ei redeg trwy fy Swyddfa, ac rwy'n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth y mae'r gwirfoddolwyr hyn yn eu rhoi i mi gyda fy ngweithgaredd craffu.

“Mae’r cynllun hwn - ac eraill sy’n cael eu rhedeg gan fy swyddfa - yn helpu i amddiffyn pobl sy’n agored i niwed ac yn sicrhau proffesiynoldeb o fewn Heddlu Dyfed-Powys.”

Dywedodd yr Ymwelydd Dalfa Annibynnol John Jones: “Rwy’n credu bod Staff Dalfa yn yr Heddlu yn derbyn yr angen am y craffu a ddarparwn drwy’r rôl wirfoddol hon, ac maent bob amser yn barod i drafod materion gyda ni - mae hyn yn gwneud i mi deimlo’n rhan o rywbeth sydd yn gwneud gwahaniaeth. ”

Ychwanegodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn; ”Gall ICVs ymweld ag ystafelloedd dalfa ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, 7 diwrnod yr wythnos fel y gallwch wirfoddoli hyd yn oed os oes gennych ymrwymiadau gwaith llawn amser neu astudio. Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn gwirfoddoli a dod yn rhan o'n teulu gwirfoddol estynedig gwerthfawr iawn, ewch i'n gwefan, neu cysylltwch â'm swyddfa”.

Mae'n ddyletswydd statudol i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd fod â chynllun ICV ar waith. Felly, oherwydd Covid-19, lle na all ymweliadau wyneb yn wyneb ddigwydd, gall ymwelwyr dalfa wneud galwadau ffôn wythnosol i ddalfeydd er mwyn siarad yn uniongyrchol â charcharorion , er mwyn gwirio eu lles ac i sicrhau eu bod wedi cael gwybodaeth am eu hawliau.

Mae'r sefyllfa gydag ymweliadau corfforol yn cael ei hadolygu'n barhaus, a'i haddasu o fewn pob awdurdod lleol, yn dibynnu ar lefelau Covid-19 a chyfyngiadau lleol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.dyfedpowys-pcc.org.uk.

 

DIWEDD

Am ragor o fanylion:

Caryl Bond

 

Caryl.Bond.OPCC@dyfed-powys.pnn.police.uk