07 Medi 2020

Ar 1 Medi 2020, cychwynnodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys ar broses recriwtio er mwyn recriwtio pobl o gymunedau lleol o fewn Dyfed-Powys i sawl un o'i gynlluniau gwirfoddol yn ogystal â'r Cydbwyllgor Archwilio.

Mae gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd dri chynllun gwirfoddol; Ymwelwyr Lles Anifeiliaid, Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol a'r Panel Sicrhau Ansawdd, gyda chyfleoedd gwirfoddoli ar gael ar y ddau gynllun olaf. Mae cyfleoedd hefyd i ddod yn aelod o Gydbwyllgor Archwilio’r Prif Gwnstabl a’r Comisiynydd.

 

Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol, sy’n ymweld ag ystafelloedd y ddalfa ar draws ardal Dyfed-Powys. Maent yn ymweld mewn parau, yn ddirybudd, ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos ac yn darparu gwiriad annibynnol ar les y carcharorion yn y ddalfa, a'r amodau y maent yn cael eu cadw ynddynt.

Dywedodd yr Ymwelydd Dalfa Annibynnol John Jones: “Rwy’n credu bod y Staff Dalfa yn yr Heddlu yn derbyn yr angen am y gwaith craffu a ddarparwn drwy’r rôl wirfoddoli hon, ac maent bob amser yn barod i drafod materion gyda ni - mae hyn yn gwneud i mi deimlo’n rhan o rywbeth sydd yn gwneud gwahaniaeth. ”

Sefydlwyd y Panel Sicrhau Ansawdd i graffu ar ansawdd cyswllt yr Heddlu â'r cyhoedd, mewn modd tryloyw ac annibynnol, ar ran y cymunedau yn ardal Dyfed-Powys.

 

Bydd y Panel yn craffu ar feysydd cyswllt yr Heddlu gyda’r cyhoedd, er enghraifft, achosion o gwyn, digwyddiadau Stopio a Archwilio, defnydd o rym gan yr heddlu ac ymdriniaeth o alwadau I mewn i Ganolfan Gyfathrebu’r Heddlu h.y. galwadau 101 a 999.

 

Mae'r Cyd-bwyllgor Archwilio yn rhoi sicrwydd annibynnol i'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a'r Prif Gwnstabl ar ddigonolrwydd y fframweithiau llywodraethu a rheoli risg, yr amgylchedd rheolaeth fewnol, ac adroddiadau ariannol, a thrwy hynny helpu i sicrhau bod trefniadau effeithlon ac effeithiol ar waith.

 

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd; “Yn ogystal ag aelodau’r Cyd-bwyllgor Archwilio, mae fy gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig wrth fy helpu i gyflawni fy ngweledigaeth a nodir yng nghynllun yr Heddlu a Throsedd ac rwy’n ddiolchgar iawn i bob unigolyn sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli gyda mi i gyflawni’r cynlluniau hanfodol hyn.

“Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hynod bwysig wrth wneud ein cymunedau’n ddiogel, ac os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn gwirfoddoli a dod yn rhan o’n teulu gwirfoddol estynedig gwerthfawr, rwy’n falch o gyhoeddi bod digon o gyfleoedd ar hyn o bryd i bobl wneud hynny ac I gymryd rhan. ”

“Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi ein bod ar hyn o bryd yn recriwtio aelodau ar gyfer y Cydbwyllgor Archwilio. Mae'r Pwyllgor yn rhan allweddol o lywodraethu corfforaethol Corff Plismona Lleol Dyfed-Powys. Mae'n darparu ffocws annibynnol a lefel uchel ar y trefniadau archwilio, sicrhau ac adrodd sy'n sail i safonau llywodraethu ac ariannol da.

 

I wirfoddoli gyda Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd rhaid i chi fod dros 18 oed; byw, gweithio neu astudio yn ardal Dyfed-Powys; wedi bod yn preswylio yn y DU am o leiaf 3 blynedd; bod yn annibynnol o System yr Heddlu a Chyfiawnder Troseddol, ac yn gallu gwneud arsylwadau diduedd a dyfarniadau gwybodus y gall y cyhoedd fod â hyder ynddynt.

 

I lawrlwytho llawlyfrau Cynllun Gwirfoddolwyr a ffurflen gais, dilynwch y ddolen isod:

http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/the-office/volunteer-schemes/

 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl y Cydbwyllgor Archwilio ac i lawrlwytho pecyn gwybodaeth, ewch i; http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/accountability-and-transparency/joint-audit-committee/

 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd ddydd Mawrth 6 Hydref 2020.

 

DIWEDD

Rhagor o fanylion:

Caryl Bond

Swyddog Cymorth Sicrwydd / Assurance Support Officer

Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu / Police & Crime Commissioner’s Office

Rhif ffon / Phone: 01267 226440

E bost / E mail: caryl.bond.opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk