21 Medi 2020

Heddiw, mynychodd CHTh, Dafydd Llywelyn gyfarfod pellach gyda swyddogion y Swyddfa Gartref ac asiantaethau partner i drafod cynlluniau arfaethedig i gartrefi oddeutu 250 o geiswyr lloches mewn canolfan filwrol yn Sir Benfro.

Yn dilyn y cyfarfod nododd Dafydd Llywelyn; “Rwy’n hollol rhwystredig bod yr amserlen a’r manylion sy’n ymwneud â niferoedd, yn cael eu cadw rhag arweinwyr a thrigolion lleol. Mae diffyg perchnogaeth ac arweinyddiaeth llwyr yn cael ei ddangos gan Weinidogion yn y Swyddfa Gartref ar y mater hwn ac mae hyn yn amharchus i'r gymuned leol ”.

Mae CHTh Llywelyn wedi cymryd rhan flaenllaw wrth sicrhau bod adnoddau a chynllunio digonol ar waith o fewn Heddlu Dyfed Powys ers dod i wybod am y cynlluniau yr wythnos diwethaf gan dynnu sylw at y ffaith bod ymateb arweinwyr gwasanaeth lleol wedi bod yn rhyfeddol. “Rwy’n ddiolchgar i dîm gweithredol y Swyddfa Gartref yng Nghymru sydd wedi cefnogi’r cynllunio a byddaf yn parhau i gefnogi’r gweithgaredd hwn yn bersonol”.

Yr wythnos diwethaf ysgrifennodd y CHTh lythyr agored at yr Ysgrifennydd Cartref, yn nodi pryderon lleol am ddiffyg cynllunio strategol. Dywedodd PCC Llywelyn; “Rwy’n ailadrodd unwaith eto yr hyn a bwysleisiais yn fy llythyr at yr Ysgrifennydd Cartref yr wythnos diwethaf, bod angen mwy o gynllunio strategol ac ymgysylltu, i sicrhau ein bod yn cefnogi ac yn diogelu’r unigolion bregus hyn ac yn ymateb i bryderon lleol.”

DIWEDD

Llythyr PCC Llywelyn at yr Ysgrifennydd Cartref

Mwy o fanylion

Gruff Ifan

Gruffudd.Ifan.OPCC@dyfed-powys.pnn.police.uk