17 Rhag 2020
Datganiad I’r Wasg
17.12.20
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn sicrhau £50K pellach i sefydliadau sy'n darparu cefnogaeth i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ystod pandemig parhaus
Ym mis Mehefin 2020, cyhoeddodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn, ei fod wedi sicrhau fod dros £140,000 o arian ychwanegol gan y Llywodraeth ar gyfer sefydliadau sy’n darparu cefnogaeth i ddioddefwyr trais domestig a rhywiol yn ardal Dyfed-Powys, i’w cynorthwyo gyda chostau cysylltiedig â COVID-19 .
Yr wythnos hon, mae Mr Llywelyn wedi cyhoeddi ei fod wedi sicrhau rownd arall o dros £50,000 o arian gan y llywodraeth er mwyn cynorthwyo a pharhau i gefnogi’r gwasanaethau pwysig hyn.
Dywedodd Mr Llywelyn, “Rwy’n falch iawn ein bod unwaith eto wedi gallu sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer ein gwasanaethau lleol, i’w cefnogi gyda’r pwysau ychwanegol y maent yn eu profi yn ystod y pandemig parhaus.”
Un o'r 8 sefydliad sy'n derbyn yr arian ychwanegol hwn yw Threshold DAS. Dywedodd Kim Howells, Pennaeth Datblygu Busnes, Addysg a Chyllid yn Threshold DAS: “Mae cefnogaeth Mr Llywelyn wedi bod yn wych i’r rheini sy’n profi cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ardal Heddlu Dyfed-Powys.
“Mae Threshold DAS, yn sefydliad sy’n arbenigo mewn darparu gwasanaethau cymorth i unigolion sydd wedi, neu sydd ar hyn o bryd yn profi cam-drin domestig neu drais rhywiol. Rydym yn gweithio gyda'r teulu cyfan ac yn credu bod angen mynd at drais teuluol mewn ffordd fwy cynhwysfawr a chydlynol, gan roi mwy o bwyslais ar strategaethau atal ac ymyrraeth gynnar.
“Rydyn ni'n falch iawn fel sefydliad, i dderbyn yr arian ychwanegol hwn, a fydd yn gwella'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig i ferched, dynion a'u plant yn ardal Dyfed-Powys yn fawr, yn enwedig yn yr amser anodd hwn."
Sefydliadau eraill sydd wedi derbyn cyllid yw:
- People First Sir Benfro
- New Pathways
- Canolfan Argyfwng Teulu Trefaldwyn
- Prifysgol Aberystwyth (yn rhedeg gwasanaeth Dewis Dewis)
- Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru
- Gwasanaeth Cam-drin Domestig Sir Gaerfyrddin
- Gwasanaethau Trais yn y Cartref Calan
Ychwanegodd Mr Llywelyn: “Mae hyn yn newyddion da i’r sefydliadau dan sylw, gan y bydd yr ail rownd hon o gyllid ychwanegol yn eu cynorthwyo i gwrdd â’r lefelau uwch o alw y maent wedi’u profi eleni.
“Mae’n hanfodol bod dioddefwyr yn gallu parhau i gael gafael ar yr help sydd ei angen arnyn nhw trwy gydol y pandemig hwn a thu hwnt.”
DIWEDD
Am ragor o fanylion:
Hannah Hyde
Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu
Hannah.hyde@dyfed-powys.pnn.police.uk