27 Maw 2020
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn wedi annog preswylwyr Dyfed-Powys i fod yn amyneddgar wrth ymweld â fferyllfeydd wrth iddynt ymdrechu i ymdopi â'r galw ychwanegol enfawr oherwydd COVID-19.
Daw'r ple hwn gan y Comisiynydd yng nghanol pryderon o ymddygiad treisgar a bygythiol tuag at staff fferyllol ledled y DU.
O ganlyniad, mae Cymdeithas Amddiffyn y Fferyllwyr (PDA) wedi galw am gefnogaeth yr holl Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd a’u lluoedd ledled y DU i helpu i daclo’r ymddygiad a brofir mewn rhai fferyllfeydd yn ystod y cyfnod argyfyngus hwn.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, “Er ei bod hi’n ddealladwy bod pobl yn bryderus ac yn poeni am sicrhau eu bod yn cael eu meddyginiaeth, rydym yn clywed rhai straeon anffodus am ymddygiad treisgar a bygythiol tuag at staff mewn fferyllfeydd ledled y DU.
“Gall hyn ddim parhau. Mae timau fferylliaeth o dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd, ac anogaf y cyhoedd i fod yn amyneddgar ac i barchu'r staff sy'n gwneud eu gorau glas i'ch cefnogi chi ar yr adeg hon, ac wrth wneud hynny, maent yn rhoi eu bywydau eu hunain a'u teuluoedd mewn risg.”
DIWEDD