19 Chw 2020

Dydd Gwener 15 Chwefrof 2020, cynhaliodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ddigwyddiad arbennig ym mhencadlys Heddlu Dyfed Powys i ddathlu cwblhau’r prosiect o ailgyflwyno isadeiledd Teledu Cylch Cynfyng (TCC) newydd mewn 24 tref yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys.

Pan addawodd Mr Llywelyn adeg yr etholiad y byddai’n ailosod camerâu TCC yn yr ardal heddlu, roedd yn benderfynol o weld hyn yn dwyn ffrwyth, a bellach mae dros 150 o gamerau manylder uwch, sydd a’r gallu i droi 360 gradd wedi eu gosod mewn 24 tref.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: “Mae’n dda iawn gennyf weld bod y prosiect TCC wedi dwyn ffrwyth, a’i fod nawr wedi dod i ben. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r heddlu am ymateb i’r addewid a wnes i ailgyflwyno isadeiledd TCC i ardal Heddlu Dyfed-Powys. Cymerodd y prosiect hwn lawer iawn o ymdrech gan lawer o wahanol bobl.

“Mae’n ymwneud â sicrhau bod ein cymunedau mor ddiogel â phosibl, ac mae’n galonogol iawn gweld effaith gadarnhaol yr isadeiledd TCC, yr ystafell fonitro ganolog, a’n tîm o weithredwyr TCC ar blismona ar draws yr heddlu. Rwy’n falch iawn o fedru agor ein drysau i’r cynrychiolwyr cymuned unwaith eto, er mwyn iddynt weld y system a deall lefel y buddsoddiad a wnaed, ac er mwyn iddynt weld yr effaith mae TCC eisoes yn cael ar draws yr heddlu.”

Er mwyn dathlu cwblhau’r prosiect, cafodd Cynghorwyr a chynrychiolwyr cymunedol eu gwahodd i Bencadlys yr Heddlu ddydd Gwener diwethaf i weld sut mae’r camerau’n cael eu monitro’n rhagweithiol o ystafell fonitro ganolog.

Dywedodd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, “Mae’n rhaid canmol Comisiynydd yr Heddlu am ei benderfyniad nid yn unig i wrthdroi penderfyniad ei ragflaenydd, ond i sichrau fod y camerau yn cael eu gosod ar draws Dyfed-Powys a’u bod o’r safon uchaf posib. Eisoes yn ein prif drefi yn Sir Gar mae’r penderfyniad wedi profi ei ddilysrwydd gan fod y camerau wedi bod o gymorth wrth geisio dal a dedfrydu troseddwyr. Bum yn erfyn am sicrhau diogelwch canol tre Llanelli ers tro byd – nawr fod y camerau yn eu lle mae pawb yn teimlo’n hapusach gan fod modd I heddlu gadw golwg parhaus ar yr hyn sy’n digwydd yno.”

“Roedd hi’n braf cael ymweld a’r ystafell weithredu yn y Pencadlys a chael gweld pa mor effeithiol yw’r system a’r ffordd mae’r tim yn gweithredu. Fel Arweinydd Sir Gar, gallaf ond canmol brwdfrydedd Dafydd yn ei ymdrech I sicrhau fod yr ardal yma yn parhau I fod y lle mwya’ diogel ym Mhrydain’.”

Penderfynwyd ar leoliadau’r camerau drwy wrando ar bryderon cymunedol yn ogystal a dadansoddi data ar batrymau troseddu o fewn Dyfed Powys. Roedd hyn yn cynnwys dadansoddi data trosedd trefi, nifer y galwadau brys a galwadau difrys am wasanaeth yr heddlu; lefel digwyddiadau trosedd casineb (hate crime) ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yr adroddwyd amdanynt.

Dywedodd y Cynghorydd Ceredig Davies o Aberystwyth, Ceredigion, “Fel cynghorydd ward canol Aberystwyth, lle mae wyth camera teledu cylch cyfyng erbyn hyn, roeddwn i o’r farn mai cam am yn ôl oedd hi ychydig flynyddoedd yn ôl i roi'r gorau i weithredu’r camerâu. Roedd y camerâu’n cael eu cydnabod gan breswylwyr a busnesau fel offeryn defnyddiol wrth fonitro ymddygiad troseddol a gwrthgymdeithasol yn y dref. Roeddwn yn amheus a fyddem yn eu gweld yn dychwelyd ond nid oedd sail i'm pryderon fel y daeth i’r amlwg pan ymwelais yn ddiweddar â'r ystafell fonitro ganolog ym mhencadlys yr heddlu yng Nghaerfyrddin.

“Nid yn unig mae ein camerâu yn ôl ond mae mwy ohonynt ac mae ansawdd y lluniau fideo yn llawer gwell na'r hyn a oedd gennym yn flaenorol. Rwy’n canmol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu am gadw at addewid ei faniffesto a chyflawni system mor fodern”.

Mae darnau ffilm TCC eisoes wedi darparu tystiolaeth hollbwysig ar gyfer ymchwiliadau’r heddlu. Bu ansawdd y darnau ffilm mor nerthol, mae rhai unigolion sy’n cael eu dal dan amheuaeth wedi pledio’n euog i’r troseddau y cawsant eu cyhuddo o’u cyflawni. Mae un enghraifft yn ymwneud ag achos niwed corfforol difrifol lle y cafodd un dyn ei daro’n anymwybodol ag un ergyd i’w ben tu allan i’r Met Bar yn Llanelli fis Tachwedd 2018.

Cipiwyd y digwyddiad yn glir ar gamera TCC Heddlu Dyfed-Powys, a phan gyflwynwyd y darn ffilm i’r unigolyn dan amheuaeth, plediodd yn euog. Cafodd ei ddedfrydu i 20 mis o garchar.

Yn y Drenewydd, Powys, cipiwyd dyn ifanc ar deledu cylch cyfyng yn malu ffenestr siop wrth gerdded trwy’r dref ar noson allan. Cafodd ei adnabod o’r teledu cylch cyfyng. Nid oedd ganddo unrhyw gof o’r digwyddiad am ei fod o dan ddylanwad alcohol. Ymddiheurodd yn ddiffuant i’r siopwr a thalodd am ffenestr newydd.

Yn ogystal â helpu i atal a datrys troseddau, mae TCC yn cynorthwyo i amddiffyn pobl sy’n agored i niwed yn yr ardal heddlu. Mae gweithredwyr yn cynorthwyo o ran chwilio am bobl coll a phobl bregus. Mae enghreifftiau niferus o sut mae pobl sy’n agored i niwed wedi’u canfod yn gyflym am fod TCC wedi gweithredu fel pâr arall o lygaid, gyda chamerâu’n gallu cwmpasu ardal ehangach na swyddogion ar droed o fewn yr un amser.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Mark Collins: “Rydyn ni’n ymdrin â nifer cynyddol o bobl fregus sydd â phroblemau personol neu iechyd meddwl sydd wedi achosi iddynt fynd ar goll neu brofi trallod meddyliol. Mae’r heddlu’n derbyn galwadau o’r natur hwn, ac mae’n rhaid iddynt ymateb yn gyflym er mwyn cyflawni ein dyletswydd gofal. Y cyfan rydyn ni eisiau gwneud yw eu haduno â’u teuluoedd a sicrhau nad ydynt yn dioddef unrhyw niwed. Mae TCC yn cael effaith sylweddol ar yr ardal hon drwy ddod o hyd i unigolion coll, dod o hyd i bobl sy’n bygwth niweidio eu hunain, a dwyn materion i ganlyniad cadarnhaol. Mae’r isadeiledd newydd a’r tîm monitro’n arf gwerthfawr rydyn ni eisoes yn gwneud defnydd ohono o fewn yr heddlu.”

DIWEDD

Nodiadau I Olygyddion

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gael ar gyfer cyfweliadau

Am ragor o fanylion am y cynllun I ailgyflwyno TCC sy’n cynnwys rhestr o drefi sydd wedi ac yn cael camerau, cliciwch yma : https://www.dyfed-powys.police.uk/en/accessing-information/cctv-in-dyfed-powys-police/

 

Am ragor o wybodaeth am rol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, cliciwch yma:

http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/en/the-commissioner/role-of-the-police-crime-commissioner/   

Manylion Cyswllt: – Gruffudd Ifan, Ymgynghorydd Polisi ac Ymgysylltu, 01267 226440 / gruffudd.ifan.opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk

Facebook / Twitter @DPOPCC