10 Rhag 2018

Mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru wedi dod ynghyd i sicrhau cyllid i ymdrin ag achosion creiddiol troseddau trais difrifol, drwy ymyrraeth gynnar a gwaith atal.

 

Yn Ebrill 2018, cyhoeddodd y Llywodraeth ei Strategaeth Trais Difrifol, gan osod ei ymrwymiad i ddarparu cyllid dros 2 flynedd ar gyfer cronfa Ymyrraeth Gynnar Ieuenctid. Roedd y gronfa’n agored i bob Comisiynydd Heddlu a Throseddu wneud cais am gyllid i gefnogi ymyraethau cynnar wedi eu targedu a gweithgarwch atal. 

 

Fis diwethaf, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid, fod cais ar y cyd gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu a Phrif Gwnstabliaid y pedwar Heddlu yng Nghymru yn un o’r 29 cais llwyddiannus am gyllid o’r Gronfa Ymyrraeth Gynnar Ieuenctid. Bydd yr £1.2 miliwn yn cael ei dderbyn ar draws Cymru, dros ddwy flynedd, er mwyn helpu ymdrin ag achosion creiddiol trais difrifol, drwy ymyrraeth gynnar a gwaith atal.

 

Bydd pob Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i drosglwyddo dulliau ymyrryd ac atal ar lefel leol, wedi eu pennu a’u seilio ar anghenion lleol. Penodir Cydlynydd Atal Trais Difrifol o fewn pob un o’r pedwar ardal Heddlu, a byddant yn gweithio gyda’i gilydd i gydlynu pedwar ymagwedd allweddol:

 

  1. Ymyrraeth uniongyrchol un i un ac ymagweddau holistaidd;
  2. Gweithgareddau cadarnhaol i ddatblygu cadernid a gwydnwch ac i gynnig llwybrau eraill;
  3. Addysg ac ymwybyddiaeth; ac
  4. Ymyrraeth i’r teulu.

Gan groesawu’r cais llwyddiannus, meddai Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn: “Rwyf wedi fy ymrwymo i sicrhau fod Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i dargedu trosedd difrifol drwy ymyrraeth gynnar, a bydd y cyllid hwn yn caniatáu ymagwedd amlasiantaethol i ddeall ac ymdrin ag achosion creiddiol trais difrifol drwy ymyrraeth gynnar a gwaith atal, gan ganolbwyntio ar ymyrraethau lleol wedi eu targedu gyda phobl ifanc.

 

Gyda’r cynnydd mewn gweithgarwch Llinellau Sirol ar draws y wlad, rhagwelir y bydd trais difrifol yn parhau i gynyddu yn ardal Dyfed-Powys. Mae’r uchod, ynghyd â gweithgarwch arall gan yr heddlu, yn anelu at ymdrin â throseddau difrifol cyn iddynt ddod yn broblem sylweddol yn ardal Dyfed-Powys. Mae fy swyddfa’n parhau i weithio gyda Heddlu Dyfed-Powys i fonitro’r sefyllfa ac ymdrin ag achosion creiddiol trais difrifol.”