01 Tach 2019

Dathlwyd gwaith gwirfoddolwyr a chadetiaid yr heddlu mewn Cynhadledd Plismona Ieuenctid Cymru Gyfan, a gynhaliwyd gan Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.

Hwn oedd y tro cyntaf i'r pedwar heddlu yng Nghymru - Dyfed-Powys, Gwent, Gogledd Cymru a De Cymru - ddod at ei gilydd er mwyn dangos y gwaith mae eu cadetiaid wedi bod yn gysylltiedig ag ef, gan roi cyfle i wirfoddolwyr rannu arfer da ac adeiladu perthnasau gwell ar draws Cymru.

Wrth agor y digwyddiad, dywedodd Mr Llywelyn, "Bu'n fraint trefnu'r Gynhadledd Plismona Ieuenctid Cymru Gyfan cyntaf, sydd wedi ei noddi gan Elin Jones AC, ein Llywydd yn y Senedd yng Nghaerdydd.

"Mae'n bwysig bod ein gwirfoddolwyr ifainc yn deall sut maen nhw'n cyfrannu tuag at blismona yng Nghymru.

"Mae digwyddiad heddiw'n ymwneud â rhoi stamp Cymreig ar waith cadetiaid, a chydnabod eu heffaith ar ein cymunedau.

"Fel blaenoriaeth sydd wedi'i nodi yn fy Nghynllun Heddlu a Throseddu, rwy'n awyddus i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer pobl ifainc fel eu bod yn cymryd rhan ac yn dweud eu dweud am blismona a throseddu yn eu cymunedau.

"Mae'r Gynhadledd Plismona Ieuenctid Cymru Gyfan yn rhoi cyfle i'n gwirfoddolwyr plismona ifainc rannu arferion gorau, ac yn galluogi'r pedwar heddlu yng Nghymru i ddysgu sut y gall y gwasanaeth ymgysylltu orau â chenedlaethau'r dyfodol oddi wrth ein cadetiaid."

Roedd cyflwyniadau pellach yn ystod y dydd yn cynnwys rhai gan Bronwen Williams, uwch ddarlithydd a chyfarwyddwr academaidd busnes ac iechyd ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant; Esther McLaughlin, cydlynydd Dinasyddion Mewn Plismona Cymru Gyfan; a Meghan Young a Ffion Jenkins, Cwnstabliaid Gwirfoddol o Heddlu Dyfed-Powys.

Mae'r Cwnstabliaid Gwirfoddol Young a Jenkins ymysg y rhai cyntaf o gadetiaid yr heddlu i ymuno â'r Heddlu Gwirfoddol, ac maen nhw'n dweud bod y cynllun cadetiaid wedi rhoi'r hyder a’r sgiliau yr oedd eu hangen arnynt i ddatblygu.

Dywedodd y Cwnstabl Gwirfoddol Young, "Ymunais â Heddlu Dyfed-Powys yn 2015, pan ymunais â Chadetiaid Heddlu Gwirfoddol cyntaf Heddlu Dyfed-Powys.

"Ar ôl cwblhau fy nwy flynedd fel cadét, symudais ymlaen i fod yn arweinydd cadetiaid. Ar ôl cwblhau bron dwy flynedd fel arweinydd Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol, gwnes gais i fod yn Gwnstabl Gwirfoddol.

"Ar ôl cwblhau'r broses ymgeisio'n llwyddiannus, dechreuais fy hyfforddiant ym mis Ionawr 2019, a thyngais lw fel Cwnstabl Gwirfoddol ym mis Mai eleni."

Mae'r digwyddiad yn un o sawl menter gan Mr Llywelyn ar gyfer ymgysylltu â phobl ifainc ledled Dyfed-Powys. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Mr Llywelyn wedi dod yn ymddiriedolwr Embrace (Plant yn Dioddef Troseddau), gan godi £1000 drwy redeg Marathon Llundain, ynghyd ag ariannu prosiect a fydd yn codi ymwybyddiaeth o hawliau pobl ifainc mewn perthynas â cham-fanteisio rhywiol. Yn ogystal, mae Mr Llywelyn wedi gweithio i fynd i'r afael â throseddau casineb ymysg pobl ifainc.

Meddai, "Rwy'n angerddol ynghylch ymgysylltu â phobl ifainc a'u hannog i ddylanwadu ar benderfyniadau a'u herio. Byddaf yn parhau i hyrwyddo gwaith caled gwirfoddolwyr ifainc yn ein cymunedau er mwyn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed."

Am ragor o wybodaeth ynghylch Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol a'u gwaith, galwch heibio i https://vpc.police.uk/.

DIWEDD

Cadetiaid yr Heddlu yn derbyn tystysgrifau gan Gomisiynydd Dafydd Llywelyn a Dirprwy Brif Gwnstabl dros dro, Claire Parmenter

Cadetiaid yr Heddlu yn derbyn tystysgrifau gan Gomisiynydd Dafydd Llywelyn a Dirprwy Brif Gwnstabl dros dro, Claire Parmenter