10 Rhag 2018
Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gyllid yr heddlu ar gyfer 2019/20.
Wrth lansio’r ymgynghoriad ar gyfer praesept heddlu 2019/20, dywedodd Dafydd Llywelyn:
“Rydw i wedi gofyn i’r Prif Gwnstabl asesu’r gofyniad cyllideb i Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer y flwyddyn nesaf. Yn dilyn ei asesiad, bydd angen gwario hyd at £105.3 miliwn ar blismona Dyfed-Powys yn 2019/20 i gadw ein cymunedau’n ddiogel.
Praesept yr heddlu yw’r swm rydych yn ei dalu fel rhan o’ch treth gyngor ac fe’i ddefnyddir i dalu am wasanaethau plismona lleol. Ar hyn o bryd, mae eiddo cyfartalog band D yn talu £224.56 y flwyddyn.
Mae eich praesept yn rhan hanfodol o gyllid yr heddlu, a heb hyn, ni allem gynnal gwasanaeth heddlu sy’n ymateb i anghenion ein cymunedau. Mae’r incwm hwn yn ychwanegol i grant y Swyddfa Gartref a grantiau eraill. Rydym yn dal i aros am gyhoeddiad gan y Swyddfa Gartref am y cyllid hwnnw.”
Cyn y gall y Comisiynydd osod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae’n bwysig ei fod yn cael eich barn. Er mwyn eich helpu i wneud eich penderfyniad, ar ddechrau’r arolwg, mae’r Comisiynydd wedi amlinellu effaith y canlynol arnoch chi, ac ar Heddlu Dyfed-Powys, os:
- Na fyddwch yn talu praesept ychwanegol;
- Byddwch yn talu £1 ychwanegol y mis;
- Byddwch yn talu £1.50 ychwanegol y mis; ac os
- Byddwch yn talu £2 ychwanegol y mis.
Ychwanega Dafydd Llywelyn: “Rwy’n annog preswylwyr Dyfed-Powys i leisio eu barn am y mater hollbwysig hwn i sicrhau ein bod ni fel gwasanaeth heddlu’n medru parhau i ddiogelu ein cymunedau â’r safon gwasanaeth uchaf sydd ar gael.”
Gallwch gwblhau’r arolwg drwy glicio ar y ddolen ganlynol: http://bit.ly/ymgynghoriadpraeseptheddlu
Fel arall, mae copïau papur ar gael o swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar 01267 226440 / opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk.
Agorodd yr arolwg ar 7 Rhagfyr a daw i ben ddydd Sul 6 Ionawr 2019.