12 Ebr 2019

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, heddiw wedi lansio rhaglen gyllido lle bydd grantiau o rhwng £5,000 a £10,000 ar gael i grwpiau a sefydliadau ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

 

Mae Dafydd Llywelyn yn gwahodd ceisiadau gan sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, yn ogystal â’r sectorau cyhoeddus a phreifat, ar gyfer prosiectau a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddiogelwch cymunedau lleol. Byddem hefyd yn annog sefydliadau i weithio ar y cyd.

 

Rhaid i brosiectau llwyddiannus adlewyrchu blaenoriaethau allweddol y Comisiynydd ar gyfer cymunedau Dyfed-Powys: cadw ein cymunedau’n ddiogel, diogelu’r rhai agored i niwed, amddiffyn ein cymunedau rhag bygythiadau difrifol, a chysylltu gyda chymunedau. Ceir manylion pellach ynghylch pob blaenoriaeth o fewn Cynllun Heddlu a Throseddu’r Comisiynydd.

 

Dywedodd Mr Llywelyn: “Drwy’r cylch cyllido diwethaf, cefnogwyd nifer o brosiectau amrywiol sydd wir wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Rydw i felly’n falch iawn o fod yn gallu cynnig y cyfle cyllido cyffrous hwn unwaith eto. Rwyf yn edrych ymlaen at ddarllen y ceisiadau newydd a darganfod pa wahaniaeth y gallai’r cyllid hwn ei wneud o fewn ein cymunedau.”

 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 24ain Mai 2019. Gallwch weld y canllawiau cyllido a’r ffurflenni cais ar Wefan y Comisiynydd http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/y-comisiynydd/ariannu-cymunedol-y-comisiynydd/, neu drwy gysylltu gyda Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar 01267 226440 / opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk.

 

DIWEDD

Nodiadau i’r cyfryngau

Cewch wybodaeth bellach ynghylch Cronfa Gymunedol y Comisiynydd, yn ogystal â pha sefydliadau sydd eisoes wedi derbyn cyllid, ar wefan Heddlu Dyfed-Powys: http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/y-comisiynydd/ariannu-cymunedol-y-comisiynydd/

Os hoffech drefnu cyfweliad gyda’r Comisiynydd neu ei Ymgynghorydd Cyllido Allanol, cysylltwch â Swyddfa’r Comisiynydd.

Am wybodaeth bellach ynghylch rôl y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, ewch at y wefan http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/y-comisiynydd/rôl-y-comisiynydd-yr-heddlu-a-throseddu/