03 Awst 2016

Bydd dros 20 o fentrau’n elwa o grantiau gwerth £85,000 gan Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Lluniau

Maen nhw’n cynnwys prosiect yng Ngheredigion, sy’n derbyn £5,000 i gynnal gweithgareddau ar gyfer pobl ifainc bregus anodd eu cyrraedd, a chynllun yn Sir Benfro a fydd yn targedu anawsterau megis masnachwyr twyllodrus, twyll ffôn a thwyll seiber.

Mae eraill yn cynnwys menter yn Sir Gaerfyrddin sy’n helpu dynion sydd wedi dioddef cam-drin domestig a chynllun ym Mhowys sy’n derbyn £5,000 i helpu’r rhai sy’n arunig neu’n agored i niwed.

Cynigodd y bedwaredd rownd o gymorth gan Gronfa’r Comisiynydd grantiau o hyd at £5,000 ar gyfer elusennau, sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol er mwyn datblygu syniadau sydd ag effaith gadarnhaol ar yr ardal maent yn gwasanaethu.

Mae Mr Llywelyn yn gobeithio y bydd y cynllun yn helpu i wella bywydau pobl ledled y rhanbarth.

Dywedodd: “Rwy’n hynod falch ein bod ni wedi medru cynnig grantiau o £84,953. Bydd hyn yn helpu i wella bywydau pobl mewn cymunedau ledled y rhanbarth.

“Rwy’n llongyfarch y rhai sy’n gysylltiedig â’r ceisiadau llwyddiannus. Rwy’n diolch i bawb a weithiodd mor galed ar eu cyflwyniadau i bedwaredd rownd grantiau Cronfa’r Comisiynydd.”

Mae Mr Llywelyn yn credu bod cymunedau cryf yn helpu preswylwyr i deimlo’n ddiogel.

Mae Cronfa’r Comisiynydd yn darparu cymorth pellach. Ariennir y gronfa gan elw troseddau a roddir i’r heddlu yn dilyn gwerthu eiddo y daethpwyd o hyd iddo nas hawliwyd.

Nid y cyhoedd na sefydliadau a enwebodd y prosiectau cymunedol, ond yn hytrach, swyddogion rheng flaen a staff Heddlu Dyfed-Powys. Fe’u cymeradwywyd gan uwch swyddogion a asesodd y ceisiadau yn erbyn meini prawf megis yr angen ar gyfer y prosiect a nifer y rhai a fyddai’n elwa.

 

ASTUDIAETHAU ACHOS Ceisiadau Llwyddiannus

Cyfanswm yr arian a roddwyd £84,953.05

 

Stop it Now! Cymru o Sefydliad Lucy Faithfull

Siroedd: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Powys

Ymwybyddiaeth cam-fanteisio’n rhywiol ar blaen £5,000

Bydd yr arian hwn yn gweld sesiynau ymwybyddiaeth cam-fanteisio’n rhywiol ar blant yn cael eu cyflwyno i rieni a gofalwyr ledled Dyfed-Powys. Byddant yn esbonio beth yw cam-fanteisio’n rhywiol ar blant ac yn trafod sut i adnabod yr arwyddion, y mythau a’r effaith ar blant. Bydd canllawiau ar gadw plant yn ddiogel ar-lein.

 

Bugeiliaid Stryd Penfro

Siroedd: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Powys

Bugeiliaid Ymateb £3,700

Bydd yr arian hwn yn helpu Bugeiliaid Stryd Penfro i ddarparu hyfforddiant ar gyfer Bugeiliaid Ymateb yn Nyfed-Powys a thu hwnt. Dyma fenter Ymddiriedolaeth Esgyniad newydd ar gyfer Cymru sydd ond wedi’i lansio yn y DU yn ddiweddar. Gellir galw ar Fugeiliaid Ymateb 24/7 ar y cyd â’r gwasanaethau brys i ddarparu cefnogaeth a thosturi i’r cyhoedd yn achos trychineb neu argyfwng.

 

Prosiect Ieuenctid y Tanyard

Siroedd: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Powys

Ffilm ar gyfer pobl ifainc £5,000

Bydd yr arian hwn yn helpu Prosiect Ieuenctid y Tanyard i gynhyrchu ffilm 20 munud o hyd i’w darlledu ledled Dyfed-Powys. Bydd yn amlygu effeithiau negyddol anfwriadol ymddygiad rhai pobl ifainc, yn cael ei gyrru gan bobl ifainc, ac yn helpu i atal digwyddiadau yn y dyfodol.

 

Seren

Siroedd: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro

Cwnsela ar gyfer goroeswyr cam-drin rhywiol  adeg plentyndod sydd bellach yn oedolion £5,000

Bydd yr arian yn helpu Seren i ddarparu cwnsela arbenigol, cyfrinachol i oroeswyr cam-drin rhywiol adeg plentyndod sydd bellach yn oedolion am ddim. Mae timoedd bychain o gwnsleriaid yn cyflwyno’r gwasanaeth i gleientiaid sy’n hunan gyfeirio neu sy’n cael eu cyfeirio gan amryw o asiantaethau, gan gynnwys gwasanaethau cyffuriau ac alcohol, y gwasanaeth prawf a gwasanaethau iechyd meddwl.

 

Sefydliad Modurwyr Uwch Caerfyrddin a Gorllewin Cymru

Siroedd: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro

Cyrsiau moduro uwch £4,000

Bydd yr arian hwn yn helpu’r sefydliad i gynnig cyrsiau cymorthdaledig i 25 modurwr a 25 beiciwr modur o dan 25 oed. Gall hyn ddatblygu pwysau ân gyfoedion ymysg modurwyr ifainc i gyflawni sgiliau ffordd uwch - a helpu i leihau cyfradd gwrthdrawiadau Dyfed-Powys.

 

Age Cymru Sir Gar

Sir: Sir Gaerfyrddin

Glanhau gerddi £4,850

Bydd yr arian hwn yn helpu i gynnal gwasanaeth glanhau a ddarperir i bobl yng Nghaerfyrddin 50 oed a hŷn sy’n agored i niwed. Bydd yn amnewid offer a ddefnyddir gan y profianwyr sy’n gwneud y gwaith. Mae Age Cymru’n cydweithio â’r Gwasanaeth Prawf yng Nghymru i sicrhau bod unrhyw berygl yn cael ei leihau o ran profianwyr yn gweithio yn y gymuned.

 

Ail Gyfle

Sir: Sir Gaerfyrddin

Gerddi Cymunedol £4,979

Bydd yr arian hwn yn helpu Ail Gyfle, sef menter gymdeithasol a redir gan Ganolfan Antioch, i gyflwyno prosiect gerddi cymunedol yn Sir Gaerfyrddin. Bydd y cyn-droseddwyr a gwirfoddolwyr sydd wedi’u cyfeirio’n gwneud biniau compost, planwyr a chelfi gardd ar gyfer grwpiau trydydd sector megis Canolfan Ieuenctid Bwlch, Y Wallich ac asiantaethau cymorth i fenywod.

 

SPLAT Cymru

Sir: Sir Gaerfyrddin

Celf a thechnoleg i blant £4,750

Bydd yr arian hwn yn helpu SPLAT Cymru i ddarparu gweithgareddau celf a thechnoleg adeg y gwyliau i blant o 5-11 oed yn Llwynhendy, Llanelli. Bydd yn canolbwyntio ar effaith negyddol tipio anghyfreithlon a manteision perthnasau cryf rhwng yr heddlu a phobl ifainc lleol, ymysg pethau eraill.

 

Gwasanaethau Cam-drin Domestig Caerfyrddin

Sir: Sir Gaerfyrddin

Grŵp Cymorth i Ddynion £4,957.12

Bydd yr arian hwn yn helpu’r gwasanaeth i sefydlu grŵp cymorth i ddynion un diwrnod yr wythnos, gyda gweithgareddau pwrpasol a hyfforddiant. Bydd yn helpu’r grŵp i estyn allan i fwy o ddynion sydd wedi profi cam-drin domestig; yn ogystal â chefnogi menywod, maen nhw wedi bod yn cefnogi dynion ers nifer o flynyddoedd.

 

Grŵp Gwirfoddol Cwmaman

Sir: Sir Gaerfyrddin

Cysylltu’r cenedlaethau £3,900

Bydd yr arian hwn yn helpu Grŵp Gwirfoddol Rhydaman i gyflwyno 20 o weithdai dwy awr o hyd, gan ddod â phobl ifainc 11 – 18 oed a phobl hŷn (55+) at ei gilydd. Mae pynciau arfaethedig yn cynnwys gwaith coed, technoleg newydd a dweud straeon. Y nod yw dileu’r rhwystrau canfyddedig rhwng cenedlaethau.

 

Fforwm Bentref Trimsaran

Sir: Sir Gaerfyrddin

Gweithgareddau ar gyfer pobl ifainc £4,980

Bydd yr arian hwn yn helpu Fforwm Bentref Trimsaran i gynnal rhaglen o weithgareddau dros yr haf i annog cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgareddau eraill ar gyfer plant o 5-15 oed. Bydd yn helpu i weithio tuag at ailgyflwyno clwb ieuenctid lleol ac yn helpu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Newyddion Llafar Rhydaman

Sir: Sir Gaerfyrddin

Papur newydd sain £451.93

Bydd yr arian hwn yn helpu i gynnal Newyddion Llafar Rhydaman, sef papur newydd sain ar gyfer y dall, y rhai sydd â golwg rhannol, pobl sy’n agored i niwed a’r cyhoedd cyffredinol. Mae gan y gwasanaeth dros 190 o wrandawyr rheolaidd, gyda phob un yn derbyn copi electronig misol am ddim. Mae swyddogion heddlu lleol yn ei ddefnyddio i helpu i hysbysu unigolion sy’n agored i niwed ac eraill.

 

Partneriaeth Diogelwch Dŵr Sir Gaerfyrddin

Sir: Sir Gaerfyrddin

Gweithgaredd achub bywyd £5,000

Bydd yr arian hwn yn helpu Partneriaeth Diogelwch Dŵr Sir Gaerfyrddin i gyflwyno ei negeseuon achub bywyd mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid ger dyfrffyrdd. Mae aelodau’n bwriadu cynnal digwyddiad cyhoeddus ar gyfer codi ymwybyddiaeth, cynnal sesiynau addysgu a hyfforddi, prynu bwiau achub ac ariannu cyfres o wersi nofio ar gyfer tadau a phlant.

 

Canolfan Deulu Tŷ Enfys

Sir: Sir Gaerfyrddin

Gweithgareddau teuluol £4,192.20

Bydd yr arian yn caniatáu Tŷ Enfys i fynd â theuluoedd allan am ddiwrnodau gweithgaredd ac addysgiadol yn ystod y gwyliau haf. Bydd y gweithgaredd yn helpu’r rhai heb lawer o incwm gwario neu hyder i deithio yn arbennig. Bydd yn helpu i leihau aildroseddu a bydd yn annog plant i fod yn ddylanwad cadarnhaol o fewn y gymuned.

 

 Brownis Llwynhendy

Sir: Sir Gaerfyrddin

Hwyl ar gyfer merched £800

Bydd yr arian hwn yn helpu i fodloni costau cynnal a phrynu offer newydd ar gyfer grŵp Brownis cyntaf Llwynhendy. Mae Brownis yn caniatáu i ferched 7-11 oed gael hwyl a datblygu sgiliau. Mae’n annog hapusrwydd, lles a hyder, ac yn effeithio’n gadarnhaol ar y gymuned.

 

Fforwm Cymunedol Penparcau

Sir: Ceredigion

Gweithgareddau ar gyfer pobl ifainc £5,000

Bydd yr arian hwn yn helpu Fforwm Cymunedol Penparcau i greu rhaglen o weithgareddau ar gyfer pobl ifainc bregus anodd eu cyrraedd. Bydd y cynllun yn adeiladu hunanhyder a hyder drwy alluogi cyfranogwyr i brofi gweithgareddau nad yw pobl ifainc o ardaloedd difreintiedig fel arfer yn cael mynediad atynt.

 

Gofal Solfach

Sir: Sir Benfro

Stay Safe Stay Connected £4,635

Bydd y prosiect newydd hwn yn gwella gwybodaeth leol o fesurau atal trosedd. Bydd yn canolbwyntio ar bobl fregus sydd mewn perygl arbennig o gael eu targedu gan fasnachwyr twyllodrus, twyll ffôn a thwyll seiber. Cyflwynir cylchlythyr, sesiynau atal trosedd ar gyfer gwirfoddolwyr a sesiynau ‘cwrdd ‘r heddlu’ ar gyfer pobl fregus a gofalwyr.

 

Materion Ieuenctid Milffwrd

Sir: Sir Benfro

Gweithgareddau nos Wener £5,000

Bydd yr arian hwn yn helpu Materion Ieuenctid Milffwrd i barhau â’i brosiect nos Wener sy’n ymgysylltu â phobl ifainc – 14-18 oed – nad ydynt yn cael mynediad at unrhyw ddarpariaeth ieuenctid lleol arall. Mae’n annog gweithgareddau cymunedol cadarnhaol ac yn gweithio i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Galeri Croes Fictoria

Sir: Sir Benfro

Celf ar gyfer pobl ifainc £1,728

Bydd yr arian hwn yn helpu Galeri Croes Fictoria yn Hwlffordd i weithio gyda phrosiectau ieuenctid i ddarparu gweithgareddau celf ar gyfer pobl ifanc, gan ennyn eu diddordeb mewn celf. Bydd meysydd ffocws yn cynnwys sesiynau celf sylfaenol, ffotograffiaeth a chynllunio parc sglefrio.

 

Bugeiliaid Stryd Aberhonddu

Sir: Powys

Diogelwch gyda’r nos £2,029.80

Bydd yr arian hwn yn helpu i lansio cynllun Bugeiliaid Stryd Aberhonddu. Bydd gwirfoddolwyr yn darparu cymorth a gofal i bawb – yn arbennig pobl ifainc a’r rhai sydd o dan ddylanwad cyffuriau a/neu alcohol – fel arfer ar benwythnosau neu’n hwyr y nos. Ceir 24 bugail o 12 eglwys.

 

Age Cymru Powys

Sir: Powys

Cymorth ar gyfer pobl hŷn £5,000

Bydd yr arian hwn yn helpu Age Cymru Powys i weithio’n agosach â’r heddlu, gan alluogi swyddogion i adnabod y rhai a allai fod yn arbennig o fregus neu arunig yn well. Bydd yn helpu i lwyfannu mwy o ddigwyddiadau ar gyfer grwpiau bregus a gwell presenoldeb mewn digwyddiadau a arweinir gan yr heddlu.