17 Ebr 2015
[caption id="attachment_1852" align="alignright" width="300"] Ieuenctid Tysul gyda PCSO Sian Davies.[/caption]
Bydd 24 menter yn elwa o raglen grantiau £92,000 a drefnwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Christopher Salmon.
Maen nhw’n cynnwys prosiect yng Ngheredigion sy’n derbyn dros £2,500 er mwyn gwella diogelwch yn y cartref a chynllun yn Sir Benfro a fydd yn derbyn £4,400 i hyfforddi gwirfoddolwyr ar gyfer helpu i gadw pobl yn ddiogel gyda’r nos.
Mae eraill yn cynnwys cynllun ym Mhowys sy’n derbyn bron £2,000 er mwyn helpu i gadw defnyddwyr meysydd parcio’n ddiogel a menter yn Sir Gaerfyrddin a fydd yn derbyn dros £4,000 ar gyfer hyfforddi pobl sy’n agored i niwed mewn diogelwch ar-lein.
Cynigodd y drydedd rownd o gymorth gan Gronfa’r Comisiynydd grantiau o hyd at £5,000 ar gyfer elusennau, sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol er mwyn datblygu syniadau sydd ag effaith gadarnhaol ar yr ardal maent yn ei gwasanaethu.
Mae Mr Salmon yn gobeithio y bydd y cynllun yn helpu i wella bywydau pobl ifainc ledled y rhanbarth. Mae’r prosiect yn adlewyrchu – mewn rhyw ffordd – Cynllun Heddlu a Throseddu 2013-18 Mr Salmon ar gyfer Dyfed-Powys. Gwobrwywyd rownd gyntaf y grantiau ym mis Awst 2013, a’r ail rownd fis Ebrill y llynedd.
Dywedodd y Comisiynydd: “Rwy’n hynod falch ein bod ni wedi medru cynnig grantiau o £92,588. Bydd yr arian yn cael ei rannu ar draws y rhanbarth er mwyn helpu i wella bywydau pobl yn ein cymunedau.
“Rwy’n llongyfarch y rhai sy’n gysylltiedig â’r ceisiadau llwyddiannus; roedd nifer ac ansawdd y ceisiadau’n uchel. Yn wir, denodd y rownd hon geisiadau a ddaeth i gyfanswm o dros £305,000 o 76 menter.
“Rwy’n diolch i bawb a weithiodd mor galed ar eu cyflwyniadau i drydedd rownd grantiau Cronfa’r Comisiynydd.”
Mae Mr Salmon yn credu bod gan bawb ran i’w chwarae o ran gwneud cymdogaethau’n fwy diogel; mae cannoedd o unigolion a sefydliadau eisoes yn gwirfoddoli’n frwd neu’n gweithio’n galed er mwyn helpu’r broses hon.
Mae Cronfa’r Comisiynydd yn darparu cymorth pellach. Ariennir y gronfa gan elw troseddau a roddir i’r heddlu yn dilyn gwerthu eiddo y daethpwyd o hyd iddo nas hawliwyd.
Nid y cyhoedd na sefydliadau a enwebodd y prosiectau cymunedol, ond yn hytrach, swyddogion rheng flaen a staff Heddlu Dyfed-Powys. Fe’u cymeradwywyd gan uwch swyddogion a asesodd y ceisiadau yn erbyn meini prawf megis yr angen ar gyfer y prosiect a nifer y rhai a fyddai’n elwa.
Disgwylir y bydd pedwaredd rownd o geisiadau ar gyfer Cronfa’r Comisiynydd yn agor yn ystod yr haf.
ASTUDIAETHAU ACHOS
Dyfed-Powys
Gweithredu Gorllewin Cymru Dros Iechyd Meddwl £3,860 Bydd yr arian hwn yn ariannu rhaglen therapi syrffio, sy’n anelu i fynd i’r afael â materion iechyd meddwl ac emosiynol. Gall defnyddio’r profiad cadarnhaol hwn ddylanwadu ar feddwl ac ymddygiad, ac atal gweithgarwch troseddol. Lleolir Gweithredu Gorllewin Cymru Dros Iechyd Meddwl yng Nghaerfyrddin.
BAWSO £4,996 Bydd y prosiect hwn yn cyflwyno cyfres o sesiynau gwybodaeth ar anffurfio organau cenhedlu benywod, yn arbennig anghenion iechyd menywod sydd wedi profi anffurfio organau cenhedlu benywod a diogelu plant sydd mewn perygl. Y nod yw cynyddu ymwybyddiaeth o anffurfio organau cenhedlu benywod a hyder o ran ymateb iddo.
Sir Gaerfyrddin
Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin £4,120 Bydd yr arian yn caniatáu i Pobl Yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin ddatblygu gweithdai hyfforddi. Bydd yn tynnu sylw at beryglon ymgysylltu â gweithgareddau digidol megis Facebook a chanlyn ar-lein. Byddant yn cael eu cyflwyno i amrediad o bobl ifainc sy’n agored i niwed yn Sir Gaerfyrddin.
Gweithredu dros Blant £2,590 Bydd yr arian hwn yn ariannu prosiect o’r enw ‘Rhaglen Gweithredu dros Blant yn Llanelli i Gryfhau Teuluoedd,’ Bydd yn cael ei chyflwyno i 20 o ymarferwyr sy’n helpu teuluoedd. Mae’r rhaglen yn helpu i adeiladu cyfathrebu ymysg teuluoedd, atal camddefnyddio sylweddau a chyflwyno sgiliau ymwrthod cyfoedion.
Tîm Iau Clwb Rygbi a Phêl Droed Felinfoel £4,400 Bydd yr arian hwn yn darparu offer rygbi ar gyfer y clwb hwn, sydd wedi’i leoli yn Llanelli, sy’n hyrwyddo mynediad i chwaraeon, heb wahaniaethu o ran rhyw neu allu. Bydd yn caniatáu i’r tîm recriwtio aelodau newydd a sicrhau bod cyfleusterau a hyfforddiant o safon uchel.
Ieuenctid Tysul £4,300 Bydd yr arian hwn yn cyfrannu tuag at adfywio Plas-y-Dderwen – safle yn Llandysul a ddefnyddir gan y gymuned – drwy raglen o weithdai a gweithgareddau. Y nod yw creu gwell ymdeimlad o gymuned, yn arbennig ymysg pobl ifainc.
Y Wallich £4,788.70 Bydd yr arian hwn yn caniatáu i Brosiect Canolfan Llanelli recriwtio a hyfforddi mwy o wirfoddolwyr. Bydd y gwirfoddolwyr hyn yn caniatáu i Brosiect Canolfan Llanelli leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, a galluogi pobl ifainc i ddysgu sgiliau trosglwyddadwy i’w helpu i ddychwelyd i addysg neu er mwyn cael swydd.
Cymorth i Fenywod Llanelli £4,900 Bydd Cymorth i Fenywod Llanelli yn defnyddio’r arian hwn i ariannu prosiect sy’n cefnogi pobl ifainc sydd wedi defnyddio trais a cham-drin mewn perthnasau agos. Mae’r rhaglen 30 wythnos o hyd hon wedi’i thargedu at bobl ifainc o 10-25 oed ac yn defnyddio amrediad o offer ymarferol a therapiwtig i lywio unigolion i ffwrdd o ymddygiad o’r fath.
Ceredigion
Whilen y Porthmyn £4,100 Bydd yr arian hwn yn helpu Whilen y Porthmyn i ddiogelu cymuned Tregaron. Bydd y grant hwn yn ariannu amryw o weithgareddau i bobl, gyda’r nod o fynd i’r afael ag arwahanrwydd economaidd a gwledig. Gall gynnwys sesiynau galw heibio’r heddlu, rhwydweithio a defnyddio cyfrifiadur.
Camfan £4,298 Sefydliad wedi’i leoli yn Llanbedr Pont Steffan yw Camfan sy’n cefnogi oedolion sy’n agored i niwed. Byddant yn defnyddio’r arian hwn er mwyn ehangu oriau agor eu canolfan, gan ddarparu man cymdeithasol ar gyfer eu haelodau, ac er mwyn prynu offer ar gyfer gweithgareddau.
Tŷ Curig, Croesawfa Cantref Foyer £3,750 Mae Tŷ Curig, Croesawfa Cantref Foyer yn Aberystwyth yn cefnogi pobl ifainc o 16-25 oed sy’n agored i niwed, ac yn rhoi cyfleoedd iddynt ar gyfer datblygu. Bydd yr arian hwn yn darparu offer cerddorol er mwyn helpu’r bobl ifainc hyn i archwilio i greadigrwydd trwy gerddoriaeth.
Age Concern Ceredigion £4,800 Bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio er mwyn cynhyrchu sticeri dwyieithog ar gyfer hyrwyddo prosiect Dim Galwyr Diwahoddiad Age Concern Ceredigion. Mae’r fenter wedi’i hanelu at bobl hŷn, ond mae mantais ehangach ar gyfer y gymuned o ran codi ymwybyddiaeth ynghylch sgamiau, siarcod benthyg arian a gwerthu ar garreg y drws.
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Atal Ceredigion £4,987 Bydd yr arian hwn, ar gyfer Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Atal y sir, yn cynnal rhaglen ar gyfer pobl ifainc 12-16 oed sydd mewn perygl o droseddu. Mae Ruck It 7s yn canolbwyntio ar dechnegau ffitrwydd a chwaraeon ynghyd â thechnegau yn y dosbarth er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad sy’n cynyddu’r perygl o droseddu, gan leihau’r perygl o droseddu pellach. t
Canolfan Blant Jig-so £2,528 Bydd yr arian yn ariannu sesiynau dwyieithog ar gyfer plant hyd at 14 oed sy’n agored i niwed. Bydd y sesiynau, a redir gan Jig-so, a leolir yn Aberteifi, yn canolbwyntio ar ddiogelwch yn y cartref a’r gymuned. Bydd digwyddiad theatr sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch yn cael ei gynnal.
Sir Benfro
Bugeiliaid Stryd Penfro £4,420 Mae’r bugeiliaid yn darparu presenoldeb ar y strydoedd er mwyn gwrando, gofalu a helpu, yn arbennig gyda’r nos. Maen nhw’n gweithio mewn partneriaeth â’r heddlu er mwyn sicrhau cymdeithas fwy diogel a chydlynol a helpu i atal trosedd. Bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio er mwyn talu am hyfforddiant, costau teithio a nwyddau hanfodol ar gyfer y gwirfoddolwyr.
Pobl yn Gyntaf Sir Benfro £4,985 Bydd yr arian hwn yn ariannu hyfforddiant ar gyfer cefnogwyr Pobl yn Gyntaf Sir Benfro i lunio gweithdy rhyngweithiol ar gyfer pobl ifainc. Bydd y gweithdy’n anelu i godi ymwybyddiaeth o anableddau dysgu a throseddau casineb, ac yn herio’r ffordd yr ystyrir anabledd.
MAMS £4,200 Cwmni diddordeb cymunedol yw Mothers Affection Matters (MAMS) sy’n cynnig therapi grŵp a chwnsela un-i-un. Bydd yr arian yn talu ar gyfer cwrs 10 wythnos o waith grŵp therapiwtig a chwnsela unigol ar gyfer menywod sy’n agored i niwed sydd wedi dioddef cam-drin domestig.
Cedar Sir Benfro £1,540.20 Canolfan yn Hwlffordd yw Cedar Sir Benfro ar gyfer adnoddau sy’n ymwneud â cham-drin domestig. Mae’n siop un-stop ar gyfer unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig. Bydd yr arian hwn yn ariannu adnoddau ar gyfer dioddefwyr i’w helpu yn eu cartref neu wrth adael eu partner.
Materion Ieuenctid Milffwrd £5,000 Mae Materion Ieuenctid Milffwrd yn gweithio gyda phobl ifainc yn Aberdaugleddau sydd mewn perygl o droseddu neu ymddwyn yn wrthgymdeithasol. Bydd yr arian yn caniatáu iddynt weithio am noson ychwanegol bob wythnos i fynd allan i’r gymuned i ymgysylltu â phobl ifainc, ac agor y ganolfan ieuenctid er mwyn gweithredu fel hwb a chanolfan galw heibio.
Span Arts £5,000 Mae Span Arts yn ymgysylltu ag amrediad o breswylwyr Sir Benfro. Mae’n anelu i leihau arwahanrwydd cymdeithasol, economaidd a gwledig. Bydd yr arian yn cyfrannu at brosiect cynhwysiad cymunedol 12 mis â’r nod o leihau arwahanrwydd cymdeithasol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Grŵp Ieuenctid Treletert £900 Bydd yr arian yn caniatáu i Grŵp Ieuenctid Treletert ailwampio’r adeilad cymunedol. Bydd y prosiect yn cynnwys pobl ifainc yn yr ardal ac yn anelu i elwa’r gymuned drwy leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod troseddol.
Powys
Canolfan Argyfwng Teulu Sir Drefaldwyn £3,116 Mae Canolfan Argyfwng Teulu Sir Drefaldwyn yn cynnig lloches ar gyfer dioddefwyr trais domestig benywaidd a gwrywaidd. Bydd yr arian hwn yn cael ei wario ar gael eitemau newydd yn lle eitemau hen sydd wedi torri ac sydd wedi treulio o fewn y lloches i fenywod gyda’r nod o annog menywod i aros yn y lloches.
Gweithredu Gwledig Aberhonddu £1,930 Bydd Gweithredu Gwledig Aberhonddu’n defnyddio’r arian hwn i gydlynu gwirfoddolwyr yng Nglyn, Talybont. Bydd y gwirfoddolwyr hyn yn patrolio meysydd parcio yn ystod oriau brig gyda’r nod o leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a chynyddu hyder lleol.
Cyntedd Ieuenctid Aberhonddu £3,080 Mae’r prosiect hwn yn cynnig cymorth a llety i bobl sy’n agored i niwed sy’n ddigartref neu sy’n cael eu bygwth â digartrefedd. Bydd yr arian hwn yn galluogi prosiect Grŵp Gwalia i ailddatblygu’r llety ac yn helpu i ymgysylltu gyda chleientiaid a’r gymuned. Mae’n anelu i leihau troseddu ac aildroseddu.
Cyfanswm £92,588.90