11 Maw 2020

Ar 6 Mawrth 2020, cynhaliodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, ei bedwaredd Gynhadledd Gwyl Dewi flynyddol ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys.

Ffocws y gynhadledd eleni oedd yr heriau sy’n gwynebu plismona mewn ardaloedd gwledig. Mae'r ardal a wasanaethir gan Heddlu Dyfed-Powys yn bennaf wledig gyda dros filiwn hectar o dir amaethyddol. Mae'r nifer o gymunedau gwledig anghysbell yn cyflwyno heriau wrth gulhau llwybrau troseddol posib.

O blith siaradwyr gwadd y gynhadledd, roedd unigolion a sefydliadau sy'n arbenigo mewn materion gwledig. Roeddent yn cynnwys Dr Gareth Norris a Dr Wyn Morris o Brifysgol Aberystwyth; PC Esther Davies, Swyddog Troseddau Gwledig yng Ngheredigion; Emma Picton-Jones o Sefydliad DPJ, elusen sy'n darparu cefnogaeth ymarferol a hyfforddiant iechyd meddwl i'r rhai sy'n gweithio yn y sector amaethyddol; Cynghorydd Cefin Campbell o Sir Gaerfyrddin, sy'n aelod o'r Bwrdd Gweithredol Cymunedau a Materion Gwledig yn y Cyngor Sir; a'r Ditectif Uwcharolygydd Dros Dro Estelle Hopkin-Davies sy'n arwain ar Trais Difrifol a Throsedd Cyfundrefnol o fewn yr heddlu.

Roedd y siaradwyr yn trafod materion yn ymwneud â iechyd meddwl unigolion sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, yr arolwg troseddau gwledig a gynhaliwyd yn 2017 a 2019, dull ‘Dyfed-Powys’ o droseddu gwledig, trais difrifol a throseddau cyfundrefnol, ac agwedd Cyngor Sir Caerfyrddin tuag at droseddau gwledig.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, “Yn dilyn cynhadledd lwyddiannus y llynedd lle trafodwyd seiberdroseddu, roedd cynhadledd eleni yn archwiliad o blismona mewn ardaloedd gwledig.

“Mae pedair sir Dyfed-Powys yn gartref i rai o ardaloedd mwyaf gwledig ac anghysbell Cymru a Lloegr. Bydd y gynhadledd hon yn ystyried beth mae hyn yn ei olygu o ran ceisio cefnogi pobl sy'n byw yn yr ardaloedd hyn, a pha heriau y mae cymunedau gwledig yn eu peri i wasanaethau cyhoeddus a'r gwasanaethau brys. ”

“Roedd yn bleser croesawu cymaint o ffigurau allweddol o fyd materion gwledig i'm Cynhadledd Gwyl Dewi.

“Mae’n bwysig iawn ein bod yn rhannu ein gwybodaeth a’n harfer gorau ar fynd i’r afael â throseddau gwledig ac ymdrin â materion gwledig. Cawsom nifer o fewnbynnau addysgiadol ac ysbrydoledig - diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran.

“Rwy’n hyderus bod Heddlu Dyfed-Powys yn gwneud gwahaniaeth mawr wrth ymladd troseddau gwledig yn yr ardal hon, ac y byddant yn parhau i wneud hynny. Rwyf wedi tynnu sylw at fy ymrwymiad parhaus i gefnogi’r Tîm Troseddau Gwledig ac roeddwn yn falch o glywed y Prif Gwnstabl yn addo adolygu adnoddau plismona gwledig. Un o'r rhesymau y cynhaliais y Gynhadledd hon oedd asesu pa weithgaredd y bydd angen ei gynnal yn y dyfodol er mwyn i ni wella gwasanaethau lleol ymhellach.

“Diolch eto i bawb a fynychodd ac a gymerodd ran yn ein trafodaethau agored, gonest a phwysig ar faterion gwledig. Roedd yn wych gweld yr ymgysylltu a'r rhwydweithio yn digwydd yn y Gynhadledd hon sydd, yn fy marn i, wedi bod yn llwyddiant mawr.”

Yn 2017, lansiodd Heddlu Dyfed-Powys Strategaeth Troseddau Gwledig ar gyfer 2017-2021 yn dilyn astudiaeth gan Brifysgol Aberystwyth a gomisiynwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys. Yn 2019, cynhaliodd y Brifysgol astudiaeth arall i weld a oedd yna newidiadau wedi bod yn ymatebion ac agweddau'r heddlu tuag at droseddau fferm a gwledig ers gweithredu strategaeth 2017-2019.

Roedd Dr. Gareth Norris o Brifysgol Aberystwyth yn y gynhadledd i drafod eu hastudiaeth Troseddau Gwledig, a dywedodd, “Mae canlyniadau'r ail arolwg yn dangos nifer o ddatblygiadau cadarnhaol sy'n gysylltiedig â gweithredu'r strategaeth troseddau gwledig. Y neges allweddol oedd bod y diwydiant ffermio a'r gymuned wledig ehangach yn gweld cynnydd i nifer yr ymchwiliadau i ddigwyddiadau troseddol ac o’r herwydd yn ehangu ymddiriedaeth yn yr heddlu yn fwy cyffredinol, sy'n adeiladu sylfeini ar gyfer mwy o gydweithredu”.

Dywedodd PC Esther Davies o dîm Troseddau Gwledig Dyfed Powys; “Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol. Ers sefydlu’r Tîm Troseddau Gwledig yn Heddlu Dyfed-Powys yn 2018, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda chymunedau o bob rhan o ardal yr heddlu. Fel tîm, rydym wedi ymrwymo i ofalu am ein cymunedau gwledig ac yn parhau yn ein hymgais i brofi'n iawn o'r hyn sy'n anghywir - ni fydd troseddau gwledig yn cael eu goddef. ”

Dywedodd Emma Picton Jones o DPJ Foundation a oedd yn y gynhadledd yn trafod gwaith ei helusen “Amaethyddiaeth sydd â’r gyfradd uchaf o hunanladdiad uwchlaw unrhyw alwedigaeth arall. Mae'n alwedigaeth ynysig ac mae gwrthwynebiad i geisio cymorth. Dim ond rhai o'r ffactorau sy'n cyfrannu at iechyd meddwl gwael yn y diwydiant yw materion ariannol, llwyth gwaith a gwaith corfforol. Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gefnogi ein cymuned ffermio ac mae'r Tîm Troseddau Gwledig yn Dyfed Powys yn enghraifft wych o gefnogaeth yn y gymuned.”

Comisiynydd Dafydd Llywelyn yn siarad yn ei bedwaredd Gynhadledd Gwyl Dewi

Comisiynydd Dafydd Llywelyn yn siarad yn ei bedwaredd Gynhadledd Gwyl Dewi

Siaradwyr gwadd y gynhadledd

Siaradwyr gwadd y gynhadledd