10 Maw 2020

Ar nos Fawrth, 3ydd o Fawrth 2020, cynhaliodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn gynhadledd ieuenctid – Ein Llais / Our Voice i drafod canfyddiadau ymgynghoriad diweddar ar agweddau ieuenctid tuag at plismona a throseddu.

Yn ystod Ionawr a Chwefror 2020, bu Swyddfa’r Comisiynydd yn gweithio mewn partneriaeth a Hafan Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar ymgynghoriad er mwyn ceisio barn pobl ifanc am faterion plismona, trosedd a iechyd. Roedd themau’r arolwg yn edrych yn benodol ar agweddau tuag at yr heddlu; hygyrchedd yr heddlu; cefnogaeth yr heddlu; iechyd a lles pobl ifanc.

Gyda dros 800 o bobl ifanc rhwng 14 a 25 mlwydd oed yn rhan o’r ymgynghoriad, cafwyd ymatebion drwy holiaduron ar-lein a grwpiau ffocws, ac wrth drafod yr ymatebion gyda phartneriaid yn y Gynhadledd, cadarnhaodd y Comisiynydd y bydd ystyriaeth fanwl yn cael ei roi i’r canfyddiadau wrth gynllunio ar gyfer dyfodol plismona yn Nyfed-Powys.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu, Dafydd Llywelyn, “Fel Comisiynydd, rwy’n angerddol dros adeiladu perthynas gref a phobl ifanc, ac mae’n galonogol i weld fod cymaint o bobl ifanc wedi bod yn barod i gymryd rhan yn yr arolwg hwn.

“Mae’r ymatebion ar y cyfan yn gadarnhaol iawn, ond maent hefyd wedi amlygu rhai heriau i ni wrth geisio mynd ati i sicrhau fod ieuenctid yn cael eu gwarchod rhag trosedd a’u dargyfeirio rhag ymwneud a throseddu mewn unrhyw ffordd.

“Ers i mi gael fy ethol fel Comisiynydd, rwyf wedi ymgysylltu’n rheolaidd â grwpiau amrywiol o bobl ifanc o wahanol gefndiroedd ledled ardal yr heddlu, ac wedi sefydlu fforwm ieuenctid er mwyn rhoi llais i bobl ifanc. Bydd canfyddiadau’r arolwg hyn yn galluogi fy swyddfa i ddarparu system ychydig yn fwy strwythuredig i’r fforwm ar gyfer y dyfodol, er mwyn tyfu’r fforwm, a rhoi mwy o gyfleoedd i mi ymgysylltu a phobl ifanc.”

Dywedodd Cai Phillips, Llysgennad ac aelod o Fforwm Ieuenctid y Comisiynydd, sydd hefyd yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru “Mae’n galonogol i weld fod cymaint o bobl ifanc wedi rhoi o’u hamser er mwyn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Mae llais pobl ifanc yn bwysig.  Ni yw’r dyfodol.  Ni fydd yn byw yn ardaloedd Dyfed-Powys yn y dyfodol, ac y ni fydd yn gweld troseddau newydd ac yn dioddef troseddau yn y dyfodol. Mae’n hynod bwysig felly bod ystyriaeth yn cael ei roi i’n barn a’n pryderon ni. 

“Mae llais pobl ifanc wedi cryfhau dros y blynyddoedd diwethaf wrth i fwy a mwy o sefydliadau fel yr heddlu, cynghorau sir, y llywodraeth ac ati sefydlu fforymau a chynghorau pobl ifanc. Rwy’n diolch o galon i’r Comisiynydd Dafydd Llywelyn yn hynny o beth, am estyn allan at bobl ifanc, nid yn unig drwy’r fforwm ieuenctid, ond drwy’r ymgynghoriad hwn.  Rwy’n edrych ymlaen i drafod y canfyddiadau gyda’r llysgenhadon eraill pan fydd y Fforwm Ieuenctid yn cwrdd eto yn yr wythnosau neaf”.

Ychwanegodd Nicola O’Sullivan, Pennaeth Ymgysylltu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’n bwysig bod pobl ifainc yn cael y cyfle i gael eu lleisiau wedi’u clywed, felly mae’n dda iawn gennym I fod wedi gweithio mewn partneriaeth â Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Hafan Cymru er mwyn deall y problemau a wynebir gan bobl ifainc yn well. Mae rhai o’r problemau hyn yn ymestyn ar draws y maes iechyd a’r maes plismona ill dau.”

Mae Hafan Cymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar hyn o bryd yn paratoi adroddiad manwl i’r Comisiynydd ar ganfyddiadau’r arolwg.

Dywedodd Leigh Martin, Hafan Cymru: "Mae Hafan Cymru yn falch iawn i fod wedi gallu gweithio gyda Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys ar y prosiect pwysig hwn i ddeall beth mae pobl ifanc ei angen gan yr heddlu nawr ac yn y dyfodol".

Ychwanegodd Dr Carolline Lohman-Hancock o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, "Mae Hafan Cymru wedi cynnal darn trawiadol o ymchwil ar draws Dyfed-Powys; trwy gasglu data ar farn a phrofiadau pobl ifanc o ran Plismona ac Iechyd. Mae'n bleser gan Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i fod wedi ymgymryd â'r gwaith dadansoddi data ar gyfer gwaith ymchwil pwysig hwn. Gall y data hwn gefnogi datblygiad polisi yn y dyfodol sy'n ymateb i anghenion pobl ifanc heddiw ac yn y dyfodol. "

 

Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn yn gynhadledd ieuenctid

Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn yn gynhadledd ieuenctid