14 Hyd 2019

CHTh Dafydd Llywelyn

CHTh Dafydd Llywelyn

Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, wedi cynnal digwyddiadau er mwyn nodi lansiad swyddogion yr isadeiledd TCC newydd mewn 17 tref yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys.  

Pan addawodd Mr Llywelyn adeg yr etholiad y byddai’n ailosod camerâu TCC yn yr ardal heddlu, roedd yn benderfynol o weld hyn yn dwyn ffrwyth.

Cyflawnwyd y gwaith o ailgyflwyno TCC ar draws yr ardal heddlu gan Dîm Prosiect TCC ymroddedig yn 

Heddlu Dyfed-Powys, a weithiodd gyda’r contractwyr Baydale Control Systems Cyf. Darparwyd y camerâu uwch-dechnoleg gan Hikvision UK & Ireland.

Mae camerâu TCC manylder uwch modern, gyda chwyddo optegol 25x a’r gallu i droi 360 gradd, wedi’u gosod mewn 17 tref.

Er mwyn dathlu’r cyflawniad hwn, gwahoddodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ACau, ASau, Cynghorwyr a chynrychiolwyr cymuned eraill i Bencadlys yr Heddlu i weld sut mae’r 123 camera’n cael eu monitro’n rhagweithiol o ystafell fonitro ganolog.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: “Mae’n dda iawn gennyf weld bod y prosiect TCC wedi dwyn ffrwyth, a’i fod nawr yn dod i ben. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r heddlu am ymateb i’r addewid a wnes i ailgyflwyno isadeiledd TCC i ardal Heddlu Dyfed-Powys. Cymerodd y prosiect hwn lawer iawn o ymdrech gan lawer o wahanol bobl - diolch.

“Mae’n ymwneud â sicrhau bod ein cymunedau mor ddiogel â phosibl, ac mae’n galonogol iawn gweld effaith gadarnhaol yr isadeiledd TCC, yr ystafell fonitro ganolog, a’n tîm o weithredwyr TCC ar blismona ar draws yr heddlu. Teimlais yn falch iawn o fedru agor ein drysau i’r cynrychiolwyr cymuned, er mwyn iddynt weld y system a deall lefel y buddsoddiad a wnaed, ac er mwyn iddynt weld yr effaith mae TCC eisoes yn cael ar draws yr heddlu.”

Nodwyd lleoliadau camera drwy wrando ar bryderon cymunedol ac adolygu dadansoddiad o batrymau trosedd. Roedd hyn yn cynnwys dadansoddi data trosedd y trefi, nifer y galwadau brys a galwadau difrys am wasanaeth yr heddlu a dderbyniwyd, a lefel y digwyddiadau trosedd casineb ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yr adroddwyd amdanynt.

Aeth Susan Thomas, Aelod o Banel Sicrhau Ansawdd y Comisiynydd, i un o’r digwyddiadau. Dywedodd: “Roedd y digwyddiad yn addysgiadol iawn. Yn arbennig, mwynheais ymweld â’r ystafell reoli a gweld yr holl sgriniau, a pha mor agos oedd y trinwyr galwadau a’r swyddogion TCC. Roedd yn ddiddorol ac yn galonogol gweld gallu’r camera, wrth iddo gael ei dremio a’i chwyddo. Pan ddangoswyd hyn i ni, roedd modd gweld y picseleiddio dros ffenestri preifat yn glir. Rhoddodd hyn dawelwch meddwl i mi, ac mae’n rhywbeth y mae angen i’r cyhoedd fod yn ymwybodol ohono.”

Mae darnau ffilm TCC eisoes wedi darparu tystiolaeth hollbwysig ar gyfer ymchwiliadau’r heddlu. Bu ansawdd y darnau ffilm mor nerthol, mae rhai drwgdybiedigion wedi pledio’n euog i’r troseddau y cawsant eu cyhuddo o’u cyflawni. Mae un enghraifft yn ymwneud ag achos niwed corfforol difrifol lle y cafodd un dyn ei daro’n anymwybodol ag un ergyd i’w ben tu allan i’r Met Bar yn Llanelli fis Tachwedd 2018. 

Cipiwyd y digwyddiad yn glir ar gamera TCC Heddlu Dyfed-Powys, a phan gyflwynwyd y darn ffilm i’r drwgdybiedig, plediodd yn euog. Cafodd ei ddedfrydu i 20 mis o garchar.

Yn y Drenewydd, Powys, cipiwyd dyn ifanc ar deledu cylch cyfyng yn malu ffenestr siop wrth gerdded trwy’r dref ar noson allan. Cafodd ei adnabod o’r teledu cylch cyfyng. Nid oedd ganddo unrhyw gof o’r digwyddiad am ei fod o dan ddylanwad alcohol. Ymddiheurodd yn ddiffuant i’r siopwr a thalodd am ffenestr newydd.

Yn ogystal â helpu i atal a datrys troseddau, mae TCC yn cynorthwyo i amddiffyn pobl sy’n agored i niwed yn yr ardal heddlu. Mae gweithredwyr yn cynorthwyo o ran chwilio am bobl coll a phobl mewn trallod meddyliol. Mae enghreifftiau clir o sut mae pobl sy’n agored i niwed wedi’u haduno’n gyflym â’u hanwyliaid am fod TCC wedi gweithredu fel pâr arall o lygaid, gyda chamerâu’n cwmpasu ardal ehangach o lawer na swyddogion ar droed o fewn yr un amser. 

Dywedodd y Prif Gwnstabl Mark Collins: “Rydyn ni’n ymdrin â nifer cynyddol o bobl fregus sydd â phroblemau personol neu iechyd meddwl sydd wedi achosi iddynt fynd ar goll neu brofi trallod meddyliol. Mae’r heddlu’n derbyn galwadau o’r natur hwn, ac mae’n rhaid iddynt ymateb yn gyflym er mwyn cyflawni ein dyletswydd gofal. Y cyfan rydyn ni eisiau gwneud yw eu haduno â’u teuluoedd a sicrhau nad ydynt yn dioddef unrhyw niwed. Mae TCC yn cael effaith sylweddol ar yr ardal hon drwy ddod o hyd i unigolion coll, dod i hyd i bobl sy’n bygwth niweidio eu hunain, a dwyn materion i ganlyniad cadarnhaol. Mae’r isadeiledd newydd a’r tîm monitro’n arf gwerthfawr rydyn ni eisoes yn gwneud defnydd ohono o fewn yr heddlu.”

Mae gwaith yn mynd rhagddo er mwyn gosod camerâu mewn saith tref arall sydd wedi’u dewis ar gyfer cam olaf y prosiect. Bydd Llanbedr Pont Steffan, Porth Tywyn, Llwynhendy, Castellnewydd Emlyn, Machynlleth, Ystradgynlais ac Arberth yn elwa o’r camerâu uwch-dechnoleg. Disgwylir y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn gynnar yn 2020. 

Rhain yw’r 17 tref lle mae camerâu TCC wedi eu gosod:

 

Aberystwyth

Rhydaman

Aberhonddu

Llanfair-ym-Muallt

Aberteifi

Caerfyrddin

Abergwaun

Hwlffordd

Llandrindod

Llanelli

Aberdaugleddau

Y Drenewydd

Penfro

Doc Penfro

Saundersfoot

Dinbych-y-pysgod

Y Trallwng