18 Meh 2020

 

 Ar 18 Mehefin 2020, bydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, yn cynnal ei gyfarfod Plismona yng Nghymru olaf fel Cadeirydd y grŵp.

 

Plismona yng Nghymru yw’r enw newydd ar y Grwp Plismona Cymru Gyfan ers Mawrth 2020, ac mae’n cynnwys y pedwar Comisiynydd Heddu a Throsedd yng Nghymru a phedwar Prif Cwnstabl Heddluoedd Cymru, ac eleni yw pumed tro'r Comisiynydd yn y gadair.

Derbyniodd y Comisiynydd Gadeiryddiaeth y Grŵp ym mis Mehefin 2019 ac mae wedi goruchwylio trafodaethau ar ystod o faterion cenedlaethol. O dan gadeiryddiaeth Mr. Llywelyn mae'r grŵp wedi craffu'n rheolaidd ar unedau plismona cydweithredol i sicrhau ymateb cyson ac effeithiol ledled Cymru.

Hefyd, gweithredodd y Comisiynydd ddiwrnodau cyflwyno ochr yn ochr â'r cyfarfodydd, gan roi cyfle i sefydliadau allanol ymgysylltu â chynrychiolwyr lefel uchel o fewn yr heddlu i drafod buddion gweithio mewn partneriaeth a sefydlu'r ffordd orau o weithredu i'r cyhoedd. Ym mis Rhagfyr croesawodd y grŵp gyflwyniadau gan sefydliadau gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd a Crimestoppers a oedd i gyd yn awyddus i weithio gyda’r heddluoedd i sicrhau Cymru mwy diogel.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae’r Comisiynydd wedi bod ar flaen y gad yn ymateb y grŵp i Covid-19, gan alw am, a mynychu, cyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru ar ran y Comisiynwyr eraill i drafod ymateb yr heddlu i’r cyfnod cloi. Mae Mr Llywelyn wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd â'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Brif Chwip ers dechrau’r cyfnod y cloi er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r heriau sy'n wynebu swyddogion wrth iddynt weithio i sicrhau diogelwch y cyhoedd yn ystod y cyfnod.

Dywedodd Mr Llywelyn: “Mae cyflawni’r rôl arweinyddiaeth hon ar ran Plismona yng Nghymru wedi bod yn bleserus ond yn heriol yn ystod y yr argyfwng presennol hwn. Rwy'n falch o'r cyfraniad a wnaeth Plismona yng Nghymru yn ystod ymateb COVID-19. Rwyf hefyd yn teimlo fy mod wedi llwyddo i wella perthnasoedd nid yn unig rhwng y pedwar Llu yng Nghymru ond gyda rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol hefyd. Mae'n bwysig deall deinameg unigryw cael sefydliadau datganoledig a heb eu datganoli yng Nghymru, ac mae'r fforwm arweinyddiaeth allweddol hon ar gyfer Plismona yng Nghymru yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer cydweithrediadau gwell ac yn datblygu hunaniaeth Plismona Cymru benodo ”.