15 Ebr 2019

15/04/2019

Cyfeirio at Brosiect Teledu Cylch Cyfyng Dafydd Llywelyn mewn trafodaeth yn San Steffan

Ddydd Iau 11 Ebrill clywodd dadl yn Neuadd San Steffan, ar atal troseddau manwerthu, am ailfuddsoddiad Dafydd Llywelyn mewn teledu cylch cyfyng ar draws ardal Heddlu Dyfed-Powys. Mae’r buddsoddiad hwn yn achub y blaen wrth ddatrys ac atal troseddau manwerthu.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn “Rwy’n cyflawni fy addewid i ail-fuddsoddi mewn isadeiledd Teledu Cylch Cyfyng modern er mwyn gwella diogelwch trefi a chyfrannu at yr adfywio sydd wir ei angen yng nghanol ein trefi ledled ardal yr heddlu.”

Mae trigolion lleol a pherchnogion busnes wedi canmol y gwahaniaeth a welir eisoes yn sgil gosod y camerâu. Meddai Lesley Richards, Cadeirydd Ymlaen Llanelli, Rhanbarth Gwella Busnes Llanelli, a gyfarfu’n ddiweddar gyda Mr Llywelyn: “Rydw i wedi bod yn siarad gyda busnesau yng nghanol y dref sydd wedi lleisio’u barn ers hir amser ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac maen nhw wedi gweld gwir wahaniaeth ers i’r camerâu fod ar waith. Mae Ymlaen Llanelli wedi bod yn galw am gael y camerâu yng nghanol tref Llanelli ers tro, felly roeddem yn falch iawn pan gawsant eu hailosod o’r diwedd.”

Meddai David Morgan, Dirprwy Reolwr Lidl Aberdaugleddau: “Bydd y camera TCC newydd o fudd i’r gymuned a, gyda gobaith, yn gweithredu i atal trosedd.”

Ychwanega Mr Llywelyn, “Rydw i wedi cael gwybod gan Heddlu Dyfed-Powys fod cael mynediad at y darnau ffilm o ansawdd uchel wedi arwain at nifer o ddatrysiadau llwyddiannus, a byddant yn cael eu defnyddio fel tystiolaeth i sicrhau euogfarnau a dod â throseddwyr o flaen y llys.”

Mae 123 o gamerâu TCC yn cael eu gosod mewn 17 o drefi ledled ardal Heddlu Dyfed-Powys. Mae’r gwaith o’u gosod bron wedi ei gwblhau, ac mae 15 o’r 17 tref yn bwydo delweddau byw yn ôl i Heddlu Dyfed-Powys.

DIWEDD                                                                                                                     

Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth, neu os ydych yn dymuno trefnu cyfweliad gyda’r Comisiynydd, cysylltwch â Swyddfa’r Comisiynydd:

Cyfeiriad e-bost: opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk

Rhif ffôn: 01267 226440

Am ragor o wybodaeth ynghylch rôl y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, ewch at y wefan http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/y-comisiynydd/r%C3%B4l-y-comisiynydd-yr-heddlu-a-throseddu/

Cewch ragor o wybodaeth ynghylch y Prosiect TCC ar wefan Heddlu Dyfed-Powys: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy/mynediad-at-wybodaeth/teledu-cylch-cyfyng-yn-heddlu-dyfed-powys/

Y 17 tref sy’n elwa o gael TCC yw: Llanfair-ym-muallt, Caerfyrddin, Aberhonddu, Saundersfoot, Rhydaman, Llanelli, Aberdaugleddau, Dinbych-y-pysgod, Hwlffordd, Aberystwyth, Penfro, Doc Penfro, Abergwaun, y Drenewydd, Aberteifi, y Trallwng a Llandrindod.