26 Ion 2018

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, “Rwy’n falch iawn bod fy nghynnig i gynyddu’r praesept heddlu o 5% wedi’i dderbyn yn unfrydol heddiw (Dydd Gwener 26 Ionawr 2018) gan y Panel Heddlu a Throseddu.”

Mae cytundeb heddiw’n golygu y bydd eiddo cyffredin Band D nawr yn talu £224.56 am blismona yn 2018/19, sef cynnydd o £10.69 ar gyfer y flwyddyn, neu 21c yr wythnos.

“Derbyniodd yr Heddlu radd Da yn adroddiad diweddaraf Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi, a bydd y cyllid hwn yn diogelu nifer y swyddogion heddlu ac yn caniatáu i’r heddlu barhau i wneud datblygiadau cadarnhaol dros y flwyddyn i ddod.”

DIWEDD