21 Tach 2018

Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn dal yr Heddlu i gyfrif mewn adolygiad o ddefnydd Swyddogion o rym

Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, wedi cynnal arolwg o ddefnydd Swyddogion Heddlu o rym, ac y mae wedi ei sicrhau nad oes unrhyw ddiffygion difrifol. Bydd adroddiad llawn yr arolwg ar y defnydd o rym yn cael ei rannu gydag aelodau lleol y Panel Heddlu a Throseddu yn eu cyfarfod cyhoeddus heddiw, 16eg o Dachwedd 2018.

Mae’r adolygiad yn arwydd o awydd ac ymrwymiad parhaus y Comisiynydd i ddal yr heddlu i gyfrif o ran cynnig gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon i breswylwyr Dyfed-Powys.

Wedi ei sbarduno gan ofynion cenedlaethol i wella tryloywder ynghylch ymddygiad swyddogion, y dadlau diweddar ynghylch cyflwyno giardiau brathu a phoeri, ac adborth gan yr arolygaeth (Arolygaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi), roedd yr adolygiad yn cynnwys ymgynghori gyda’r cyhoedd, swyddogion a staff; craffu annibynnol ar ddarnau ffilm digwyddiadau ac adolygu’r data sydd ar gael yn fanwl.

Meddai Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn:

“Rwy’n bles gan ymateb yr Heddlu i’r ffaith fod fy swyddfa’n gwneud y gwaith hwn, ac rwy’n diolch i’r holl rai a gyfrannodd yn onest ac yn drylwyr i’r adolygiad. Hoffwn hefyd ddiolch i’r cyhoedd a oedd yn fodlon rhannu eu barn â ni, drwy fy arolwg ar-lein ac wyneb yn wyneb yn y digwyddiadau yr wyf i a fy nhîm wedi bod ynddynt dros fisoedd yr haf.”

Er y canfu’r arolwg nad oedd unrhyw bryder arwyddocaol a fyddai’n awgrymu bod grym yn cael ei ddefnyddio mewn modd amhriodol gan swyddogion, nodwyd fod galw am rai gwelliannau o ran tan-gofnodi a chyfyngiadau o fewn y systemau presennol.

Mae cyfres o argymhellion wedi eu derbyn gan y Prif Gwnstabl, Mark Collins, sydd wedi nodi manylion y camau gweithredu a gynlluniwyd gan yr Heddlu mewn ymateb ffurfiol i’r Comisiynydd. Bydd swyddfa’r Comisiynydd yn defnyddio’r cynllun gweithredu hwn i adolygu cynnydd yr Heddlu dros y misoedd nesaf.

Meddai’r Uwch-arolygydd, Craig Templeton, Pennaeth Gweithrediadau: “Rydym yn croesawu’r gweithgaredd craffu hwn ac yn derbyn fod angen gwneud gwelliannau. Rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar yr argymhellion, gan gynnwys newid system gofnodi’r Defnydd o Rym a chyflwyno Fideo a Wisgir, er mwyn ei gwneud hi’n haws i graffu. Rydym yn hyderus fod grym yn cael ei ddefnyddio’n gyfreithlon yn Heddlu Dyfed-Powys a byddwn yn gweithio tuag at sicrhau ein bod yn cofnodi’n gywir.”

 Mae’r Comisiynydd wedi ei ymrwymo i barhau â’r ymagwedd hon a bydd yn gobeithio gweld y cyhoedd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau ymgysylltu ac ymgyngoriadau yn y dyfodol. Bydd manylion am y rhain ar wefan y Comisiynydd neu mae modd cysylltu â’r swyddfa.”

DIWEDD

 

 

Nodyn i olygyddion:

  1. Ceir yr adroddiad llawn, crynodeb a blog fideo’r Comisiynydd ar http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/atebolrwydd-a-thryloywder/craffu/craffu-dwys/