19 Gor 2019

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywleyn, yn annog unrhyw un sy'n cario cyffuriau yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru eleni i' w gadael mewn biniau amnest arbennig.

Gyda disgwyl i filoedd ymweld â'r sioe a digwyddiadau eraill yn yr ardal i fwynhau, dros yr wythnos nesaf, mae'r Comisiynydd wedi ariannu nifer o finiau Amnest a fydd mewn lleoliadau strategol mewn gwahanol fannau ledled Llanfair-ym-Muallt a Llanelwedd. Mae'r lleoliadau hyn yn cynnwys y Pentref Ieuenctid, Bar yr Aelodau ar Faes y Sioe, Fferm Penmaenau a Maes Parcio Groe yng nghanol y dref.

Mae bocsys Amnest cyffuriau yn flychau diogel lle gellir gollwng cyffuriau yr amheuir eu bod yn anghyfreithlon neu rai ‘anterth cyfreithlon’. Mae'r Comisiynydd wedi cadarnhau y bydd unrhyw un sy'n cael gwared ar eu sylweddau anghyfreithlon yn y biniau sydd wedi'u labelu yn gallu gwneud hynny heb ofni cael eu herlyn. Dywedodd:

"Mae diogelwch a mwynhad pob ymwelydd â'r digwyddiad eiconig hwn yn un o’n prif flaenoriaethau. Mae gennym bolisi dim goddefgarwch tuag at sylweddau anghyfreithlon mewn digwyddiadau. Mae cyflwyno biniau amnest yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i sicrhau ein bod yn cadw at y polisi hwn. Mae disgwyl i filoedd o bobl ifanc ymweld â Llanfair-ym-Muallt yn ystod yr wythnos, ac mae blychau Amnest cyffuriau yn elfen fach ond arwyddocaol o strategaeth effeithiol i fynd i'r afael â'r cynnydd yn y defnydd o gyffuriau yn yr economi nos.

"Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Heddlu Dyfed-Powys, a Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt ar y mater hwn er mwyn sicrhau profiad diogel i bob ymwelydd â'r ardal yn ystod y Sioe Frenhinol. Edrychwn ymlaen at wythnos arbennig arall. "

 

Dywedodd yr Arolygydd Darren Brown, Heddlu Dyfed-Powys:

"Gyda'n gilydd, gan weithio gyda Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt a chyda' n partneriaid, mae'r blychau Amnest cyffuriau yn fesur arall i helpu i wella diogelwch yn ystod wythnos y Sioe. Bydd rhai o'r lleoliadau yn cynnal chwiliadau fel amod mynediad i roi cyfle i gwsmeriaid ildio unrhyw beth anghyfreithlon a allai fod ganddynt ar eu meddiant heb ofni cael eu herlyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt;

“Cael bocsys Amnest cyffuriau ar gael yn ystod wythnos y sioe yw’r peth cyfrifol i'w wneud ac mae’n arfer safonol ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus mawr. Ni chaniateir cyffuriau ‘anterth’ cyfreithlon nac anghyfreithlon yn unrhyw rai o'r lleoliadau yn Llanfair-ym-Muallt a'r cyffiniau felly bydd blychau Amnest ar giatiau'r safle ac yn y dref ar gyfer cael gwared ar gyffuriau mewn modd diogel a heb dynnu sylw”.

Diwedd