11 Gor 2019

11/07/2019

Mae Comisiynydd yr Heddlu Dyfed-Powys yn derbyn Cadeiryddiaeth Grŵp Plismona Cymru Gyfan

Mae Dafydd Llywelyn, eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu, yn cynrychioli trigolion Dyfed-Powys wrth iddo gadeirio Grŵp Plismona Cymru Gyfan am y tro cyntaf ar Ddydd Gwener 12/07/2019.

Grŵp Plismona Cymru Gyfan, eich Cadeirydd Mr Dafydd Llywelyn yn sefyll ail o'r dde

Grŵp Plismona Cymru Gyfan, eich Cadeirydd Mr Dafydd Llywelyn yn sefyll ail o'r dde

Mae Grŵp Plismona Cymru Gyfan yn denu Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a Phrif Gwnstabliaid Cymru i gyfarfod chwarterol i drafod gofynion plismona ar gyfer Cymru a materion sy'n effeithio ar drigolion ledled y wlad.

Mae'r grŵp yn ystyried sut y gallant gydweithio i atal troseddu ac amddiffyn dioddefwyr troseddau ar lefel leol, wrth fodloni gofynion plismona cenedlaethol.  

Dywed Dafydd Llywelyn: "Mae'n anrhydedd cael bod yn gyfrifol am rôl Cadeirydd Grŵp Plismona Cymru Gyfan.

Edrychaf ymlaen at wneud cynnydd ar amrywiaeth o faterion, yn ogystal â gwthio'r agenda cydweithredol.

Rwy'n awyddus i ddechrau gweithio'n agos gyda'r Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r heddluoedd eraill fel Cadeirydd y grŵp hwn, gan gynrychioli cymunedau lleol ar draws Dyfed-Powys a'n hardaloedd heddlu cyfagos. "

Mae Dafydd Llywelyn yn cymryd yr awenau oddi wrth Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, fel Cadeirydd y grŵp hwn, a bydd yn cynnal y rôl tan fis Mai 2020.”

Diwedd