15 Ion 2019

Dyfodol Gorsaf Heddlu Abergwaun

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, wedi penderfynu y bydd yr Heddlu’n parhau i weithredu o Orsaf Heddlu cyfredol Aberdaugleddau yn y tymor byr.

Gosodwyd tri dewis gerbron y cyhoedd mewn arolwg ymgynghorol a lansiwyd yn Nhachwedd 2018 ynglŷn â lleoliad yr Orsaf Heddlu yn y dyfodol, gan fod y Comisiynydd wedi nodi nad oedd yr orsaf gyfredol yn ddichonol yn y tymor hirach. Roedd yn amlwg fod llawer o ddiddordeb yn lleol yn nyfodol y safle, gan y cyhoedd yn gyffredinol a gan bartneriaid lleol. Y dewis a ffafriwyd gan y cyhoedd oedd parhau yn y safle cyfredol nes bod prosiect Canolfan Gydweithredu Gymunedol a gynlluniwyd wedi ei gwblhau.

Trefnodd y Comisiynydd hefyd ymgynghoriad wyneb yn wyneb gydag aelodau o’r cyhoedd a pherchnogion busnes, a chynhaliwyd cyfarfodydd gyda Chyngor Tref Abergwaun ac Wdig a Siambr Masnach a Thwristiaeth Abergwaun ac Wdig er mwyn casglu barn a gwybodaeth leol.

Meddai’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn:

“Wrth hybu fy ymrwymiad i wrando ar farn Dyfed-Powys, ac yn dilyn dadansoddiad ariannol trylwyr o bob opsiwn, fy argymhelliad i yw ein bod, yn y tymor byr, yn parhau i weithredu o’r Orsaf Heddlu gyfredol yn Abergwaun.

Rydym, fodd bynnag, yn ein canfod ein hunain mewn sefyllfa gymhleth o ganlyniad i amserlen amhenodol y Prosiect Canolfan Gydweithredu Gymunedol newydd ac ansicrwydd mewn perthynas â Brexit. Ein bwriad yw ennill eglurder dros y 12-18 mis nesaf ynghylch sut fydd dyfodol yr Orsaf Heddlu newydd yn edrych, wrth i’r ffactorau dylanwadol uchod ddod yn fwy eglur. Hoffwn ddiolch i gymuned Abergwaun ac Wdig am eu cydweithrediad parhaus ar y mater pwysig hwn.”

Meddai Uwcharolygydd Sir Benfro, Ross Evans:

"Rydym wedi ein hymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth Plismona gorau posibl. Rydw i’n ddiolchgar iawn i’r gymuned leol am eu hadborth pwysig fel rhan o’r broses ymgynghori yn ystod y misoedd diwethaf. Rydym wedi gwrando ar hyn yn ofalus ac wedi ymateb yn unol â hynny. Rydw i hefyd yn ddiolchgar i swyddogion a staff lleol sy’n parhau i weithio’n galed i gadw’r cyhoedd yn ddiogel.”

Bydd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n cyfathrebu ei fwriad ar gyfer lleoliad tymor hirach gweithrediadau Heddlu lleol yn Abergwaun o fewn y gymuned maes o law.