25 Meh 2019

Gosod Teledu Cylch Cyfyng mewn dwy dref ym Mhowys yn nodi cwblhau Cam 1 y Prosiect TCC

 

Mae camerâu teledu cylch cyfyng technoleg uwch wedi eu gosod yn Llandrindod a’r Trallwng ac maent nawr yn fyw ac yn recordio o fewn y trefi hyn ym Mhowys. 

Gosodwyd y camerâu gan y contractwyr Baydale Control Systems Ltd yn Stryd Middleton, Ffordd Waterloo a Ffordd yr Orsaf yn Llandrindod a Puzzle Square, Ffordd Severn Stars, y Stryd Fawr, Stryd Aberriw, Stryd yr Eglwys a Stryd Lydan yn y Trallwng. Cafodd y lleoliadau hyn eu dethol yn dilyn dadansoddi patrymau troseddu ac ymgynghori gyda rhanddeiliaid.

 

Cyflawnwyd y gwaith fel rhan o ailfuddsoddiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn yn y ddarpariaeth teledu cylch cyfyng ar draws ardal Heddlu Dyfed-Powys.

 

Mae Ystafell Fonitro TCC fodern hefyd wedi ei chyflwyno yng Nghanolfan Gyfathrebu’r Heddlu ym Mhencadlys yr Heddlu, Llangynnwr, ac mae’r camerâu nawr yn cael eu monitro’n fyw gan staff pwrpasol

 

Mae cwblhau’r gwaith yn Llandrindod yn nodi diwedd cam un y Prosiect TCC a gyflawnwyd dan oruchwyliad tîm prosiect arbenigol o fewn Heddlu Dyfed-Powys.

 

Meddai Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys: “Rydw i wrth fy modd bod y camerâu wedi eu gosod yn llwyddiannus yn Llandrindod a’r Trallwng. Mae hyn yn nodi cwblhau cam un y prosiect blaengar hwn a rhaid i mi ddiolch i’r Tîm Prosiect TCC am eu hymrwymiad a’u brwdfrydedd wrth fy nghynorthwyo i gyflawni fy adduned etholiadol o ailosod TCC ar draws ardal Heddlu Dyfed-Powys gan gydnabod ei fod yn offeryn sy’n rhoi cymorth sylweddol i’r heddlu wrth atal a datrys trosedd.

 

“Rhaid i mi hefyd ddiolch i’r partneriaid amrywiol yr wyf wedi cydweithio’n agos gyda nhw wrth wthio’r prosiect hwn yn ei flaen ac rwy’n sicr y bydd y perthnasau hynny’n parhau wrth i ni gynnal a datblygu’r isadeiledd yn y dyfodol.

 

“Yn olaf, rhaid i mi ddiolch i gymunedau’r 17 tref sydd wedi elwa o’r camerau newydd hyn am eu hamynedd a’u cefnogaeth yn ystod y gwaith o drosglwyddo’r prosiect cymhleth hwn. Ond nid dyma’r diwedd - mae’r tîm prosiect yn adolygu dadansoddiadau patrymau troseddu trefi eraill ac mae rhaglen osod derfynol yn cael ei hystyried ar hyn o bryd. Rwy’n ffyddiog y bydd y rhaglen derfynol hon yn cychwyn dros y misoedd nesaf.

 

Meddai Mark Collins, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys: “Mae cwblhau Llandrindod a’r Trallwng yn nodi pwynt arwyddocaol mewn prosiect a fu’n gymhleth a dyrys. Bu’r rhaglen waith yn un enfawr ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Tîm Prosiect TCC am eu holl waith caled. Rwy’n sicr y byddwn yn elwa’n sylweddol ar ran atal troseddau a helpu pobl i deimlo’n fwy diogel yn eu cymunedau.”

 

Mae Tîm Ymgysylltu’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi ymweld â’r trefi i weld beth mae pobl yn ei feddwl o gael TCC wedi ei osod.

 

Meddai’r Cynghorydd Steve Deeks-D’Silva yn Llandrindod: “Rwy’n siŵr y bydd hyn yn darparu diogelwch pellach i’n tref hyfryd ni a hoffwn ddiolch i’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, a’r tîm am eu gwaith caled ar y prosiect hwn.”

 

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y prosiect TCC yma:   https://bit.ly/2ntpVlU