02 Medi 2019

02/09/2019

Gwell amddiffyniad ar gyfer pobl yn nalfa’r heddlu sy’n agored i niwed, wrth i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys gofrestru ar gyfer cynllun peilot

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, wedi cadarnhau mai ei Gynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd ef yw’r unig gynllun o’i fath yng Nghymru sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun peilot ‘Arsylwyr Annibynnol â Dalfeydd’.

Mae’r Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn rhedeg y cynllun peilot mewn 7 ardal heddlu yng Nghymru a Lloegr er mwyn amddiffyn lles pobl sy’n agored i niwed ymhellach mewn dalfeydd heddlu, gan gynnwys pobl ifainc.

Cyflwynwyd y Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn dilyn Adroddiad yr Arglwydd Scarman ar derfysgoedd Brixton ym 1981. Mae gan bob Comisiynydd Heddlu a Throseddu ddyletswydd yn awr i gael cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd effeithiol mewn grym er mwyn monitro safonau cyfleusterau dalfeydd a lles unigolion sy’n cael eu cadw yn y ddalfa (carcharorion). Gwirfoddolwyr lleol yw Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, sy’n ymweld â dalfeydd yn wythnosol yn ddirybudd er mwyn siarad â charcharorion. Maen nhw’n gwirio ar hawliau, rhyddidau a lles y carcharorion, ac ar amgylchedd y ddalfa ei hun er mwyn sicrhau ei bod yn ddiogel ac yn addas ar gyfer y diben, gan helpu i gynnal safonau uchel yr Heddlu.

Bydd cymryd rhan yng nghynllun peilot y Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, sy’n cychwyn ar 2 Medi 2019, yn galluogi Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd y Comisiynydd i gyflawni gwiriadau manylach yn ystod eu hymweliadau. Bydd modd iddynt adolygu cofnodion dalfa carcharorion sy’n agored i niwed yn rheolaidd, gan roi gwell mewnwelediad iddynt i grynswth y gofal a roddir i garcharorion agored i niwed yn nalfeydd Dyfed-Powys.

Dywed Dafydd Llywelyn: “Rwy’n falch iawn bod ein Cynllun yma yn Nyfed-Powys wedi cofrestru i fod yn rhan o’r cynllun peilot. Bydd adolygu cofnodion dalfa yn galluogi Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd i ystyried taith gyfan carcharor drwy’r ddalfa, gan ein helpu i adeiladu gwell dealltwriaeth o unrhyw faterion lleol a chyfredol.”

Dywed John Jones, Ymwelydd Annibynnol â Dalfeydd o Geredigion: “Mae cael bod yn rhan o’r cynllun peilot yn gyffrous iawn. Yn fy marn i, mae’n rhoi haen arall o reoli ansawdd a bydd yn annog arfer gorau.”

Dywed Mandy Davies, Aelod o Banel Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd Sir Gaerfyrddin: “Mae’r ymweliadau presennol ond yn rhoi ciplun o broblemau i ni. Bydd y cynllun peilot yn ein galluogi i archwilio’r holl gofnodion perthnasol. Drwy ddarparu arsylwadau diduedd gan unigolion annibynnol, gall y gymuned fod â hyder bod carcharorion yn cael eu trin yn deg a chyfiawn.”

Fel rhan o’r cynllun peilot, bydd Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd hefyd yn ymweld â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn wythnosol er mwyn adrodd ar amrediad o feini prawf y mae’n rhaid iddynt ystyried ar gyfer y carcharorion bregus maen nhw’n ymweld â nhw. Mae’n rhaid i Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd archwilio a yw unigolion bregus wedi’u cadw yn unol â’u hanghenion a Rheoliadau Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol. Mae hyn yn cynnwys gwirio pa un ai a ydynt wedi cael mynediad at Oedolyn Priodol, pa mor hir y cymerodd hyn, a pha un ai a chawsant wybodaeth am eu hawliau a’u rhyddidau. Bydd hyn yn helpu i nodi meysydd o arfer da a meysydd lle y gall fod angen gwelliant.

Ychwanega Dafydd Llywelyn: “Rwy’n falch iawn bod ein Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd wedi derbyn y safon Aur yng Ngwobrau Sicrhau Ansawdd y Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn ddiweddar, a gall cymryd rhan yn y cynllun peilot hwn ond gwella ansawdd y Cynllun ymhellach.

Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch yn bersonol i’n holl Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd am yr amser a’r ymrwymiad maen nhw’n rhoi i’r Cynllun. Bydd eu cefnogaeth a’u brwdfrydedd yn hollbwysig ar gyfer llwyddiant y cynllun peilot, ac edrychaf ymlaen at weld canlyniadau eu hymdrechion.”

Diwedd

 

Nodiadau

Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn â’r cynllun peilot, siarad â Caryl Bond, a gydlynodd y Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, neu yn wir, un o’r Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, anfonwch e-bost at opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk neu galwch 01267 226440.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, galwch heibio i’n gwefan: http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/y-swyddfa/cynlluniau-gwirfoddoli/ymwelwyr-annibynnol-ar-ddalfa/

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, galwch heibio i: https://icva.org.uk/

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’n Gwobr Sicrhau Ansawdd Safon Aur, darllenwch yr erthygl ar dudalen 3 o’n cylchlythyr Mai/Mehefin, Cyswllt Cymunedol: http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/media/7962/pcc-newsletter-2019-may-cym.pdf