19 Maw 2015

Heddweision lleol â gwybodaeth leol yn gwneud penderfyniadau lleol – maen nhw’n hanfodol ar gyfer helpu preswylwyr Cymru wledig i deimlo’n ddiogel.

Mae ymchwil newydd lefel uchel gan arbenigwyr prifysgol yn datgelu bod cymunedau eisiau cysylltiadau cymdogaeth cryfach â’r heddlu.

Dywedodd Christopher Salmon, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, a ariannodd y gwaith a elwir yn ‘Cyswllt Gwledig’, “Mae plismona lleol yn hollbwysig. Rwyf eisiau i swyddogion adnabod eu cymunedau a bod yn adnabyddus yn eu cymunedau. Fel yna, rydyn ni’n adeiladu hyder a ffydd.

“Mae’r ymchwil hwn yn atgoffâd pwysig am hen wersi. Mae pobl leol yn dweud bod y pethau bychain yn bwysig. Mae angen i ni fynd i’r afael â’r troseddau a’r ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd ddim yn cyrraedd y penawdau newyddion ond sy’n gwneud eu bywydau nhw’n ddiflas.

“Mae’n rhaid i uwch swyddogion annog yr ymdrech sydd angen ar gyfer adeiladu perthnasau ar lawr gwlad; rhaid iddynt roi’r grym i swyddogion lleol wneud dyfarniadau.

“Mae cyfathrebu clir rhwng yr heddlu a’r cyhoedd yn hollbwysig, ond mae’n cymryd amser, sgil ac ymdrech.

“Mae Cyswllt Gwledig yn cynnwys negeseuon cryf gan y cyhoedd a’r heddlu. Mae’n ddarn pwysig o ymchwil a fydd yn ein helpu i wella’r ffordd rydyn ni’n plismona cymunedau gwledig.”

Mae gan Ddyfed-Powys heriau unigryw oherwydd natur wledig yr ardal. Dyfed-Powys yw’r ardal heddlu fwyaf yng Nghymru a Lloegr. Mae’r ardal yn ymestyn dros hanner wyneb Cymru ac mae ganddi boblogaeth fechan wasgaredig o tua 520,000.

Yng ngoleuni’r adroddiad, bydd gweithredoedd Mr Salmon yn cynnwys archwilio i:


  • Symudedd gwell ar gyfer swyddogion lleol, gan gynnwys beiciau a mopedau;

  • Mwy o Gwnstabliaid Gwirfoddol â gwybodaeth broffesiynol neu leol arbenigol;

  • Ymgyrch Dywedwch Helo! ar gyfer annog swyddogion a’r cyhoedd i siarad yn amlach;

  • Mentrau lleol yn lle cyfarfodydd PACT aneffeithiol;

  • Mwy o fynediad cyhoeddus at gyfryngdod.


Eisoes, mae’n ystyried sut y gall gwaith ysgolion ddod yn gyfrifoldeb swyddogion lleol.

Mae Mr Salmon eisiau gwell system 101, mwy o fuddsoddiad yn nhechnoleg gwybodaeth yr heddlu, adolygiad o reolaeth ganol yr heddlu ac adolygu darpariaeth o’r gwasanaeth Fan Bobi – “Camgymeriad oedd cael gwared ar y gwasanaeth.”

Arweiniwyd yr ymchwil gan Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau’r Heddlu ym Mhrifysgol Caerdydd a defnyddiwyd arbenigedd Adran Y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth.

Roedd yn cynnwys trafodaethau manwl gydag aelodau o’r cyhoedd, swyddogion heddlu a staff yr heddlu. Cynhaliwyd y sesiynau gan Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau’r Heddlu, Swyddfa’r Comisiynydd a Heddlu Dyfed-Powys.

Y cwestiwn allweddol oedd: “Sut all yr heddlu gysylltu orau â phobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig?”

Dywedodd Mr Salmon: “Mae’r lleisiau yn yr ymchwil hwn yn haeddu cael eu clywed. Maen nhw’n amlygu meysydd allweddol y mae angen i ni fynd i’r afael â nhw. Mae angen diwygio’r meysydd hyn ychydig; mae angen gwaith mwy sylfaenol ar eraill. Byddaf yn archwilio iddynt yn fanwl gyda’r Prif Gwnstabl.”

Mae’r adroddiad Cyswllt Gwledig yn cael ei gyhoeddi heddiw ac mae’n dod i’r casgliad bod llawer mwy i’w wneud er bod gwaith ardderchog yn cael ei wneud gan gymunedau heddlu ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Mae’n argymell y dylid gwerthfawrogi gwirfoddolwyr a swyddogion heddlu bro yn llawn, y dylid datblygu a chadw gwybodaeth leol, y dylid annog penderfyniadau lleol, ac y dylai’r heddlu gysylltu mwy â’r bobl leol.

Dywedodd Mr Salmon: “Mae’r ymchwil hwn eisoes yn cael effaith; mae’n cael ei wehyddu i mewn i strategaeth yr heddlu ar gyfer plismona gwledig, sy’n cael ei datblygu.

“Rwyf eisiau i’r heddlu fod yn arloesol a meddwl yn allanol o ran gweithio â phobl leol. Eisoes, rwyf wedi dileu eu targedau, dwyn ffocws newydd i blismona cymuned, creu 30 swydd swyddog heddlu newydd a thechnoleg gwybodaeth a fydd yn cyflwyno 100,000 o oriau’n fwy ar y bît eleni.

“Mae swyddogion heddlu lleol yn defnyddio fy ngrantiau i helpu sefydliadau lleol i ffynnu, maen nhw’n croesawu newyddbethau megis Twitter, ac rwy’n aml yn gweld perthnasau cryf rhwng swyddogion, SCCH a phobl leol.

“Ond mae tipyn o waith i’w wneud eto. Mae’r cyhoedd wedi rhoi mwy o syniadau imi ynglŷn â’r hyn maen nhw eisiau, byddaf yn gweithio’n galed gyda’r Prif Gwnstabl i yrru gwelliannau ac rwyf eisoes yn cychwyn adeiladu ar yr ymchwil Cyswllt Gwledig.”

Dywedodd Sarah Tucker, cyswllt ymchwil gyda Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau’r Heddlu: “Gan weithio gyda swyddogion a staff Dyfed-Powys, roedden ni’n medru gwrando ar y materion sy’n effeithio arnyn nhw a’u cymunedau a’u deall, gan greu trysorfa dystiolaeth i hysbysu penderfyniadau yn y dyfodol.”

Dywedodd awdur Cyswllt Gwledig, Kate Williams, uwch ddarlithydd mewn troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth a dirprwy gyfarwyddwr Canolfan Troseddu a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru: “Gan weithio mewn partneriaeth â staff Dyfed-Powys, dysgom fod yr heddlu a’r bobl mewn cymunedau gwledig yn coleddu perthynas weithio gadarnhaol.

“Gyda phenderfyniadau’n seiliedig ar ddealltwriaeth o anghenion lleol, byddai’r ymddiriedaeth rhwng swyddogion heddlu a chymunedau gwledig yn cynyddu a byddai’r cysylltiad yn cryfhau.”

Mae ymchwil arall sydd newydd ei gyhoeddi ar ran Mr Salmon yn cynnwys astudiaeth Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau’r Heddlu i lenyddiaeth ymchwil ar blismona gwledig.

Dolenni