24 Ion 2018

Mae grŵp o naw preswylydd o bob cwr o Ddyfed-Powys wedi bod yn gweithio’n galed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er mwyn helpu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, i gyflawni un o’i rolau pwysicaf – dal yr heddlu i gyfrif am y ffordd mae’r cyhoedd yn cael eu trin.

Mae’r Panel Sicrhau Ansawdd, a ffurfiwyd ym mis Chwefror 2017, yn gyfrifol am adolygu mathau amrywiol o gysylltiad yr heddlu â’r cyhoedd yn annibynnol. Maen nhw’n ystyried pa achosion sydd wedi’u trin yn deg, rhesymol a chymesur.

Hyd yn hyn, maen nhw wedi adolygu:

  • Galwadau sy’n cael eu recordio drwy 999, 101 a phrif switsfwrdd yr heddlu;
  • Achosion cwyn lefel isel sydd wedi’u cau;
  • Adroddiadau am anfodlonrwydd sydd wedi’u cwblhau;
  • Cofnodion stopio a chwilio

Ar hyn o bryd, mae’r panel yn cwrdd bob chwarter ac yn treulio amser yn mynd trwy ffeiliau achos sydd wedi’u cau. Mae unrhyw arsylwadau, ymholiadau neu awgrymiadau’n cael eu bwydo’n ôl i’r heddlu er mwyn helpu i wella’r ffordd maen nhw’n ymdrin â sefyllfaoedd tebyg yn y dyfodol. Mae’r Comisiynydd a’r Prif Gwnstabl yn derbyn adroddiadau’r panel yn y Bwrdd Plismona ac yn sicrhau bod yr adborth yn cael ei weithredu. Mae enghreifftiau o adborth yn cynnwys:

  • Rhoi manylion cyswllt a disgrifiadau o wasanaethau wrth gyfeirio achwynyddion at asiantaethau eraill
  • Ystyried amgylchiadau’r galwr wrth geisio cipio data personol
  • Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’u hawliau pan maen nhw’n dod i gysylltiad â’r heddlu

Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer ehangu ac edrych ar amrediad ehangach o brofiadau cyhoeddus megis troseddau casineb a chyfiawnder adferol. Bellach, mae cyfle i aelodau newydd ymuno â’r panel – mae’r ymgyrch recriwtio’n cau ar 15 Chwefror.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys: “Rwy’n gwerthfawrogi cyfraniad yr aelodau panel yn fawr. Mae eu hadborth wedi’i dderbyn yn dda gan yr heddlu hefyd oherwydd maen nhw’n medru cynnig safbwynt gwahanol ar faterion. Mae aelodau’n ddigon hyderus i ofyn pam mae pethau’n digwydd, neu holi pa un ai a fyddai modd gwneud pethau’n wahanol.

“Mae’r ffaith ein bod ni’n cael mwy o geisiadau o bob rhan o’r gwasanaeth heddlu am i aelodau edrych i mewn i feysydd eraill o gysylltiad yr heddlu yn dyst i effaith y panel. Rydyn ni’n bwriadu dod â’r aelodau at ei gilydd yn amlach (bob yn ail fis) er mwyn sicrhau eu bod nhw’n medru cefnogi’r ceisiadau ac edrych ar feysydd eraill sydd o’r pwys mwyaf i’r cyhoedd – ond mae angen mwy o aelodau arnom er mwyn gwneud hyn.

Anogir unrhyw un dros 18 oed sydd heb gysylltiad uniongyrchol â’r heddlu neu’r gwasanaeth cyfiawnder troseddol, ac sydd â diddordeb mewn cefnogi gwelliannau gwasanaeth, i wneud cais. Rydyn ni hefyd yn awyddus i weld yr aelodaeth panel yn tyfu i gynnwys mwy o bobl o amryw o gefndiroedd, a medrwn helpu unrhyw un sy’n teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnynt i gymryd rhan.”

Mae adroddiadau o weithgareddau blaenorol y panel ar gael drwy alw heibio i http://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/en/the-office/volunteer-schemes/quality-assurance-panel/.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â dod yn aelod, galwch heibio i’n gwefan, dyfedpowys-pcc.org.uk, neu cysylltwch â Swyddfa’r Comisiynydd ar 01267 226440 neu opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk.