11 Ebr 2019
09 Ebr 2019
Cynhaliwyd Seremoni Wobrwyo Ranbarthol Sir Benfro ddydd Gwener 15 Mawrth 2019 ym Mhafiliwn De Valence, Upper Frog Street, Dinbych-y-pysgod.
Roedd y digwyddiad yn dathlu ymdrech arbennig a llwyddiannau dyddiol swyddogion, staff cymorth a gwirfoddolwyr yn 2018.
Gwobrwywyd swyddogion a staff am arddangos dewrder, proffesiynoldeb ac ymrwymiad tuag at ddiogelu’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.
Nodir y categorïau a’r enillwyr isod.
Gwobr Swyddog Heddlu’r Flwyddyn |
Cwnstabl 1114 Robert Garland |
Gwobr Ditectif y Flwyddyn |
Ditectif Gwnstabl 1164 Kelly Rowlands |
Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn |
Cwnstabl 1122 Emma Robertson |
Gwobr Staff Heddlu’r Flwyddyn |
SCCH 8114 Robert John |
Gwobr Heddlu Gwirfoddol |
Rhingyll Gwirfoddol 7035 Beth Thomas |
Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn |
Tîm Gwylio Cyflymder Cymunedol Aberdaugleddau |
Gwobr Cadét Gwirfoddol Amryddawn Gorau |
Cadét Morgan Evans |
Gwobr Arweinydd y Flwyddyn |
SCCH 8028 Andrew Griffiths a SCCH 8181 Paul Emmanuel |
Gwobr Dewrder |
Cwnstabl 416 Jessica Lawrence |
Gwobr Achub Bywyd |
Cwnstabl 63 Eve Rees, Cwnstabl 1125 Rhys Howells, Cwnstabl 238 Rachel Finnan, Cwnstabl 373 Samnang Picton-Evans, Rhingyll 263 Teleri Bowen, Cwnstabl 535 Paul Smyth, Cwnstabl 75 Dyfed Jones, Cwnstabl 1000 Daniel Thomas |
Gwobr Gofalu |
Rhingyll 968 Terri Harrison a Chwnstabl 290 Emma Smyth |
Gwobr Partneriaeth |
Rhian Mannings, 2 Wish Upon a Star |
Gwobr Ymchwiliad y Flwyddyn |
Ditectif Gwnstabl 1006 Lisa Roberts |
Gwobr Tîm y Flwyddyn |
Yr Uned Cymorth Ymchwilio |
Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig |
Yr Arolygydd Ymddeoledig Aled Davies, Y Prif Uwch-arolygydd Ymddeoledig Steve Matchett, Yr Uwch-arolygydd Ymddeoledig Ian John. |
Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, “Mae’n bwysig ein bod ni’n cydnabod gwaith caled swyddogion, staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid, a rhaid i ni beidio ag anghofio rôl teuluoedd a rhwydweithiau cymorth o ran helpu a chynorthwyo swyddogion a staff yn ystod adegau anodd.
Mae’n dda gennyf gyhoeddi fy mod i wedi rhoi rhodd i elusen “2 Wish upon a Star”. Mrs Rhian Manning, sylfaenydd yr elusen, enillodd y Wobr Bartneriaeth, ac roedd hi’n llawn haeddu’r wobr. Sefydlwyd yr elusen yn dilyn marwolaeth sydyn a thrasig ei mab a’i gŵr, ac mae’n cynnig cymorth galar i deuluoedd sydd wedi colli plentyn neu oedolyn ifanc yn sydyn dan amgylchiadau trasig.
“Hoffwn ddiolch i Rhian am ddod â gwasanaethau’r elusen i Sir Benfro ac am gefnogi staff Heddlu Dyfed-Powys â’u hymateb i achosion trasig o’r fath. Mae Rhian yn ysbrydoliaeth, ac mae’r wobr hon yn cydnabod ei chyfraniad sylweddol i’n staff a’n cymunedau.”
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ross Evans,
“Roedd hi’n fraint gennyf gynnal Seremoni Wobrwyo Ranbarthol Sir Benfro, a oedd yn cydnabod gwaith ardderchog swyddogion heddlu, staff yr heddlu, swyddogion gwirfoddol, cadetiaid a gwirfoddolwyr.
"Mae’r gwaith y mae ein staff yn ei gyflawni bob dydd bob amser yn creu argraff arnaf. Maen nhw’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ac yn mynd cam ymhellach er mwyn sicrhau bod ein cymuned yn parhau fel y lle mwyaf diogel yn y DU, yn ogystal â’r harddaf.
“Hoffwn ddiolch yn arbennig i Rachel Treadaway-Williams am gyflwyno’r noson, a Nation Broadcasting, cartref Radio Sir Benfro, am noddi’r seremoni.
“Mae’n cymryd llawer o amser ac ymdrech i drefnu digwyddiad fel hyn, a hoffwn ddiolch i Mrs Charlie Marcham a Mr Nigel Lewis am sicrhau rhediad esmwyth y noson.
“Roeddem yn ffodus i gael adloniant gan Iwcalilis Caerfyrddin a chôr Bella Voce yn ystod y noson. Diolch yn fawr i chi”