11 Gor 2019

11/07/2019

Mae Comisiynydd yr Heddlu Dyfed-Powys yn derbyn Cadeiryddiaeth Grŵp Plismona Cymru Gyfan

Mae Dafydd Llywelyn, eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu, yn cynrychioli trigolion Dyfed-Powys wrth iddo gadeirio Grŵp Plismona Cymru Gyfan am y tro cyntaf ar ddydd Gwener 12/07/2019.

Mae Grŵp Plismona Cymru Gyfan yn denu Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a Phrif Gwnstabliaid Cymru i gyfarfod chwarterol i drafod gofynion plismona ar gyfer Cymru a materion sy'n effeithio ar drigolion ledled y wlad.

Mae'r grŵp yn ystyried sut y gallant gydweithio i atal troseddu ac amddiffyn dioddefwyr troseddau ar lefel leol, wrth fodloni gofynion plismona cenedlaethol.  

Dywed Dafydd Llywelyn: "Mae'n anrhydedd cael bod yn gyfrifol am rôl Cadeirydd Grŵp Plismona Cymru Gyfan.

Edrychaf ymlaen at wneud cynnydd ar amrywiaeth o faterion, yn ogystal â gwthio'r agenda cydweithredol.

Rwy'n awyddus i ddechrau gweithio'n agos gyda'r Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r heddluoedd eraill fel Cadeirydd y grŵp hwn, gan gynrychioli cymunedau lleol ar draws Dyfed-Powys a'n hardaloedd heddlu cyfagos. "

Mae Dafydd Llywelyn yn cymryd yr awenau oddi wrth Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, fel Cadeirydd y grŵp hwn, a bydd yn cynnal y rôl tan fis Mai 2020.”

Diwedd