03 Medi 2018

 

Dydd Llun, Medi 3, 2018

 

Mae’r gwaith i ail-fuddsoddi mewn Teledu Cylch Cyfyng yng Nghaerfyrddin ac Aberhonddu wedi ei gwblhau ac mae’r 23 camera nawr yn fyw ar draws y ddwy dref.

 

Cyflawnwyd y gwaith fel rhan o ailfuddsoddiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, yn y ddarpariaeth Teledu Cylch Cyfyng ar draws ardal Heddlu Dyfed-Powys.

 

Caerfyrddin ac Aberhonddu yw’r ail a’r drydedd allan o’r 17 o drefi a nodwyd ar gyfer elwa o’r systemau Teledu Cylch Cyfyng uwchraddedig. Y dref gyntaf i dderbyn yr uwchraddiad oedd Llanfair-ym-Muallt.

 

Mae Caerfyrddin wedi elwa o 17 camera Teledu Cylch Cyfyng newydd a fydd yn cael eu rheoli gan Heddlu Dyfed-Powys.

 

Cyflawnwyd gwaith yn Aberhonddu i ganiatáu i’r chwe chamera oedd eisoes wedi eu gosod yn y dref gael eu recordio yn yr orsaf heddlu lleol.

 

Bydd Ystafell Fonitro Teledu Cylch Cyfyng fodern yn cael ei chyflwyno i Ganolfan Cyfathrebu’r Heddlu ym Mhencadlys yr Heddlu, Llangynnwr, lle bydd camerâu’n cael eu monitro’n ganolog gan staff penodedig.

 

Meddai Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed-Powys: “Rwy’n falch iawn fod dwy dref arall wedi elwa o fy addewid i ail-fuddsoddi mewn isadeiledd Teledu Cylch Cyfyng modern.

 

“Mae camerâu Teledu Cylch Cyfyng wedi eu gosod yn llwyddiannus yng Nghaerfyrddin ac mae’r gwaith angenrheidiol wedi ei gwblhau yn Aberhonddu i ganiatáu i ni’n swyddogol gymryd yr awenau i reoli camerâu Teledu Cylch Cyfyng y dref.

 

“Rwyf yn edrych ymlaen at weld y prosiect yn cael ei drosglwyddo ar draws ardaloedd eraill yr heddlu yn ystod y misoedd nesaf.”

 

Meddai Mark Collins, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys: “Rwy’n sicr y bydd y camerâu o fudd enfawr wrth atal a datgelu trosedd yng Nghanol Trefi Caerfyrddin ac Aberhonddu. Cyflawnwyd y gwaith o’u gosod mewn da bryd wrth i ni weld llif o ymwelwyr i ardal yr heddlu.”

 

Meddai Marie McAvoy, Rheolwr Rhaglennu a Chynnyrch TGCh Heddlu Dyfed-Powys: “Rydym yn gwneud cynnydd da wrth ddarparu isadeiledd Teledu Cylch Cyfyng modern, a bydd y gwaith o osod camerâu newydd yn Rhydaman a Saundersfoot yn cychwyn ar unwaith.”

 

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, yn teithio o amgylch ardal yr heddlu i ymweld â pherchnogion busnes yn y trefi lle mae’r ailfuddsoddi mewn Teledu Cylch Cyfyng yn digwydd.

 

Roedd pobl fusnes Caerfyrddin y siaradodd ef â nhw yn gadarnhaol iawn ynghylch y gwaith o ail-fuddsoddi.

 

 

Meddai Edward Rees, perchennog Salon Morgan Edward ar Heol y Brenin, Caerfyrddin: “Fel perchennog busnes yng nghanol y dref rydw i wrth fy modd o weld Teledu Cylch Cyfyng o ansawdd uchel yn cael ei ailgyflwyno. Ddwy flynedd yn ôl pan gafodd ei ddatgysylltu, buddsoddais yn sylweddol mewn system o’r radd flaenaf i fy musnes i, ac roedd hwn hefyd yn edrych dros y stryd y tu allan. Ar dri achlysur gwahanol y mae hyn wedi ein galluogi ni i adnabod pobl sydd wedi achosi mân ddifrod i fy adeilad, ac felly adennill y costau. Hefyd ar nifer o achlysuron y mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cysylltu â ni i gael cymorth gydag amrywiol ymholiadau, ac rydym wedi darparu recordiadau amhrisiadwy o ansawdd uchel. Fodd bynnag, nid yw’r ychydig gymorth y mae busnesau fel fy un wedi gallu rhoi mewn gwirionedd yn ddigonol ar gyfer y dref fwyaf yn y sir. Felly rydw i’n croesawi’r buddsoddiad a wnaethpwyd ar gyfer darparu gwasanaeth llawer gwell i’n tref.”

 

Meddai Josh Lowe o Final Boss Gaming: “Fel perchennog busnes bach rwy’n eithriadol o falch fod Teledu Cylch Cyfyng yn ôl ac yn weithredol yng nghanol tref Caerfyrddin. Mae’n rhywbeth y mae’n sicr ei angen.”

 

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y prosiect Teledu Cylch Cyfyng yma. (https://bit.ly/2ntpVlU)

 

-----------------------------------------------------------diwedd--------------------------------------------------------------------